Ymgripiwr gwe
Oddi ar Wicipedia
Rhaglen gyfrifiadurol yw ymgripiwr gwe neu cropiwr gwe sy'n pori'r We Fyd-Eang mewn ffordd fanwl, ddiofyn. Hyd yn hyn does dim term Cymraeg safonol: ceir sawl term Saesneg yn cynnwys web crawler, web spider, a web indexer.
Gelwir y broses yma yn 'cropio'r we' (Saesneg: web crawling, hefyd spidering). Mae nifer o wefannau, yn enwedig peiriannau chwilio rhyngrwyd, yn defnyddio 'cropio' er mwyn cael y data diweddaraf. Defnyddir ymgripwyr gwe yn bennaf i greu copi o bob tudalen gwe y mae'n ymweld â hwy er mwyn eu prosesu yn nes ymlaen gan beiriant chwilio sy'n creu mynegai o'r tudalennau hynny er mwyn cynnig chwiliadau cyflym, h.y. heb orfod ymweld â'r tudalennau unigol ar gyfer chwiliad newydd. Amrywiad ar y rhaglenni hyn yw'r botiau sy'n cynnal a chadw gwefannau unigol mawr fel Wicipedia, e.e. trwy wiro dolenni a sgript HTML. Yn ogystal mae ymgripwyr yn medru cael eu defnyddio at ddibenion amheus fel cynaeafu cyfeiriadau e-bost, fel rheol gan sbamwyr.
Fel rheol mae ymgripiwr gwe yn dechrau gyda rhestr o gyfeiriadau URL, a elwir yn 'hadau'. Mae'r rhaglen yn ymweld â'r hadau hyn ar y we, yn adnabod y dolenni hyperdestun ar y tudalennau ac yn eu ychwanegu yn eu tro i'r rhestr o gyfeiriadau URL wreiddiol. Yna mae'n mynd ati i ymweld â'r cyfan yn ôl pa bolisi bynnag a osodir.