Ymerodraeth yr Inca

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ymerodraeth yr Incas)
Ymestyniad Ymerodraeth yr Inca rhwng 1438 a 1525.

Ymerodraeth yr Inca (Quechua: Tawantinsuyu) oedd yr ymerodraeth fwyaf ar gyfandir America. Prifddinas yr ymerodraeth oedd Cusco, a'i chanolbwynt oedd ucheldiroedd yr Andes ym Mheriw. Dechreuodd ddatblygu yn gynnar yn y 13g, a chafwyd y tŵf mwyaf rhwng 1438 a 1533, pan ddaeth rhan fawr o orllewin De America dan eu rheolaeth, yn cynnwys y rhan fwyaf o Ecwador, Periw, gorllewin a de Bolifia, gogledd-orllewin yr Ariannin, gogledd a rhan o ganolbarth Tsile a de Colombia. Galwai'r Inca eu brenin yn ‘blentyn yr haul’.

Dechreuodd tŵf yr ymerodraeth gyda buddugoliaeth y nawfed Incaidd, Pachacútec, dros gynghrair y gwladwriaethau chanca yn 1438. Dilynwyd y fuddugoliaeth yma gan gipio tiriogaethau newydd dan Pachacútec a'i frawd Cápac Yupanqui, yna dan y degfed Incaidd, Túpac Yupanqui a'i olynydd Huayna Cápac.

Roedd technoleg yr Inca o safon uchel gyda gweithdai a ffatrioedd yn cynhyrchu artefactau metal.tecsteiliau a seramics. Roeddent hefyd yn adeiladu rhwydwaith eang o ffyrdd. (tua 25,000).

Doedd ganddynt ddim dull o ysgrifennu ond datblygasant ddull o gortyn a chlwm a elwid quipu a oedd yn cadw gwybodaeth a rhestri.

Cyrhaeddodd y Sbaenwyr dan Francisco Pizarro i diriogaethau'r Inca yn 1526. Roedd yn awnlwg ei bod yn wlad gyfoethog, a theithiodd Pizarro i Sbaen i gael hawl i'w goresgyn. Dychwelodd yn 1532, pan oedd yr ymerodraeth ar ganol rhyfel cartref rhwng dau fab Huayna Capac, Huascar ac Atahualpa. Roedd hefyd wedi ei gwanychu gan y frech wen, oedd wedi lledu o ganolbarth America. Dim ond 180 o ddynion oedd gan Pizarro, ond ll wyddodd i goncro'r ymerodraeth. Dienyddiwyd Atahualpa yn Awst 1533.

Llyfryddiaeth

  • History of the World in Bite-Sized Chunks ISBN 978-1-8417 886-6 Michael O'Mara Books Ltd.,