Ydfran

Oddi ar Wicipedia
Ydfran
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Corvidae
Genws: Corvus
Rhywogaeth: C. frugilegus
Enw deuenwol
Corvus frugilegus
Linnaeus, 1758
Corvus frugilegus

Mae'r Ydfran (Corvus frugilegus) yn aelod o deulu'r brain. Mae'n nythu trwy ran helaeth o Ewrop ac Asia.

Mae'r Ydfran yn aros trwy'r flwyddyn lle nad yw'r gaeafau yn rhy oer, er enghraifft yng ngorllewin Ewrop, ond mae'r adar sy'n nythu tua'r gogledd a'r dwyrain yn symud tua'r de yn y gaeaf.

Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng yr Ydfran ac aelodau eraill o deulu'r brain sydd hefyd yn ddu i gyd. Mae'n aderyn tipyn llai na'r Gigfran, 45 – 47 cm o hyd. Mae'r Frân Dyddyn yn fwy tebyg i'r Ydfran o ran maint, ond gellir gwahaniaethu'r oedolion gan fod darn moel o groen golau heb blu arno o gwmpas y ffroenau yn yr Ydfran, tra mae'r plu yn dod yr holl ffordd at y pig yn y Frân Dyddyn. Yr adar ieuanc yw'r anoddaf i'w gwahaniaethu, gan fod pig Ydfran ieuanc yr un fath â phig Brân Dyddyn; y gwahaniaeth mwyaf defnyddiol yw fod gan yr Ydfran fwy o "dalcen". Mae'r Ydfran fel rheol yn fwy parod i ffurfio heidiau na'r Frân Dyddyn.

Caiff yr Ydfran lawr o'i fwyd mewn caeau, lle mae'n bwyta unrhyw bryfed ac anifeiliaid bychain eraill y gall eu darganfod yn y pridd, ond gall hefyd fwyta grawn, mês ac amrywiaeth o fwydydd eraill. Mae yr adar yma bob amser yn nythu gyda'i gilydd mewn coed uchel, weithiau 50 neu 100 neu fwy o nythod gyda'i gilydd.

Mae'r Ydfran yn aderyn cyffredin yng Nghymru, er bod ei niferoedd wedi gostwng rhywfaint yn ddiweddar oherwydd newidiadau mewn amaethyddiaeth.

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Yn ei gerdd mae T. H. Parry-Williams o Ryd Ddu yn ystyried y brain:

Hen adar castiog, cableddus, croch,
Wedi hel ar nos Sul at y chwarel Goch;
Gan regi a rhwygo ym mrigau’r coed,
A thyngu mewn iaith na ddeallwyd erioed....
....Y mae adnod yn honni bod Crist wedi dweud,
"Ystyriwch y brain” - a dyma fi’n gwneud.

TH Parry-Williams

Mae'r geiriau 'hel' ym 'mrigau'r coed' yn awgrymu mai'r ydfran sydd ganddo dan sylw.

Cysylltiadau â Dyn[golygu | golygu cod]

  • Teisen brain

Dywed Duff Hart-Davis yn Fauna Britannica bod ffermwyr ers llawer dydd yn saethu ydfrain ifanc wrth iddynt ddod oddiar eu nythod ar y 12 Mai er mwyn gwneud rook pie traddodiadol - saig a fwytir o hyd mewn rhai mannau gwledig meddai[1]. Mae’r cofnodion o Gymru yn awgrymu mai’r bonedd a wnai hyn. Dyma ddau gofnod o Sir Fôn o ddyddiadur teulu’r Vincent, Treborth, Bangor:

19 Mai 1885: Hugh went to Treiorwerth for rook shooting.

A’r diwrnod wedyn:

20 Mai 1885: ...Hugh came back from Treiorwerth with lots of young rooks.

Oedd y cywion ydfrain yn hwyr y flwyddyn honno?[2]
Mae ydfrain yn dal i nythu yn Nhreiorwerth

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Duff Hart-Davies (xxxx) Fauna Britannica
  2. Dyddiadur teulu Vincent, Treborth, Bangor; yn Wood, DS & Field, V. (Gwasg Prifysgol Cymru, Bangor 2002)