Yamoussoukro

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Prifddinas swyddogol Gweriniaeth Côte d'Ivoire yng ngorllewin Affrica yw Yamoussoukro. Yn ymarferol, dinas Abidjan yw'r brifddinas de facto.

Mae ganddi boblogaeth o 200,659 (2005), ac mae'n gorwedd 240 cilometr (149 milltir) i'r gogledd o Abidjan mewn ardal o fryniau isel a gwastadleodd. Mae'n cynnwys 3,500 km² (1,351.3 miilltir sgwar). Rhennir y ddinas a'r département o'r un enw yn bedair sous-préfecture: Attiégouakro, Didiévi, Tié- diékro a commune Yamoussoukro. Ceir cyfanswm o 169 annedd yn yr ardal.

Flag of Côte d'Ivoire.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Côte d'Ivoire. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato