Y tymor dwl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Stori yn The Sun amdano cytser mewn siâp y cymeriad teledu Victor Meldrew.

Cyfnod o ganol nes diwedd yr haf ym Mhrydain, yr Unol Daleithiau ac Awstralia yw'r tymor dwl, a gaiff ei nodweddu gan ymddangosiad storïau newyddion chwerthinllyd yn y cyfryngau, yn enwedig y wasg.

Fel arfer, mae ail hanner yr haf yn araf yn nhermau newyddion. Mae papurau newydd (sy'n dibynnu ar hysbysebion fel prif ffynhonnell eu hincwm) fel arfer yn gweld gostyngiad yng nghylchrediad yn ystod adeg yma'r flwyddyn. Yn y Deyrnas Unedig, mae'r Senedd yn cymryd ei gwyliau blynyddol, ac felly ni cheir dadleuon seneddol a Chwestiynau'r Prif Weinidog, sy'n cynhyrchu llawer o newyddion am weddill y flwyddyn. Er mwyn cadw ac atynnu tanysgrifwyr mae papurau newyddion yn argraffu storïau sy'n tynnu sylw gan eu bod yn rhyfedd, yn amheus neu'n chwerthinllyd.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: y tymor dwl o'r Saesneg "silly season". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.