Y feidiog lwyd

Oddi ar Wicipedia
Artemisia vulgaris
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Asterales
Teulu: Asteraceae
Genws: Artemisia
Enw deuenwol
Artemisia vulgaris
Carl Linnaeus

Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy'r Feidiog Lwyd (Lladin: Artemisia vulgaris, Saesneg: Mugwort). Mae'n perthyn i'r teulu Asteraceae. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, ceir nifer o enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn, gan gynnwys y Fydiog Lwyd, Canwraidd Lwyd, yr Wrysgen Lwyd, Llwydlys, Llys leuan, Llys Ifan, Llysiau leuan, Llysiau Ifan, Llysiau Llwyd, a Llysiau Llwydion.

Gall dyfu hyd at 2.5m o daldra neu'n fwy a gall ei dail dyfu rhwng 5–20cm o hyd ac yn wyrdd tywyll.

Daw'r gair Asteraceae, sef yr enw ar y teulu hwn, o'r gair Aster, y genws mwyaf lluosog o'r teulu, ac mae'n tarddu o'r gair Groeg ἀστήρ, sef 'seren.'

Rhinweddau[golygu | golygu cod]

Darganfuwyd bod trwyth o'r Feidiog Lwyd yn gallu amddiffyn cnwd o datws rhag y malltod hwyr.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Times 31 Hydref 2020
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: