Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog

Oddi ar Wicipedia
Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog
GanwydAndrew Albert Christian Edward Edit this on Wikidata
19 Chwefror 1960 Edit this on Wikidata
Palas Buckingham Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd8 Ebrill 1960 Edit this on Wikidata
Man preswylRoyal Lodge, Sunninghill Park Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Britannia Royal Naval College
  • Heatherdown Preparatory School
  • Lakefield College School
  • Gordonstoun Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeilot hofrennydd, swyddog yn y llynges, gwleidydd, pendefig Edit this on Wikidata
SwyddSpecial Representative for International Trade and Investment, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Lord High Commissioner to the General Assembly of the Church of Scotland, Counsellor of State, Dug Iorc Edit this on Wikidata
Tady Tywysog Philip, Dug Caeredin Edit this on Wikidata
MamElisabeth II Edit this on Wikidata
PriodSarah Ferguson Edit this on Wikidata
PartnerKoo Stark Edit this on Wikidata
PlantPrincess Beatrice of York, Princess Eugenie of York Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Windsor Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Medal Cofio 1990, Seland Newydd, Urdd y Gardas, Queen Elizabeth II Silver Jubilee Medal, Medal Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth II, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II, Royal Fellow of the Royal Society Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://thedukeofyork.org/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auThe Royal and Ancient Golf Club of St Andrews Edit this on Wikidata
llofnod

Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog (Andrew Albert Christian Edward; ganwyd 19 Chwefror 1960) yw ail fab a thrydydd plentyn Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig a Thywysog Philip, Dug Caeredin a'r 3ydd yn yr olyniaeth am goron y Deyrnas Unedig.

Mae'n adnabyddus am ei wasanaeth milwrol a'r rhan a chwaraeodd yn Rhyfel y Falklands, am ei ffling efo Koo Stark yn y 1970au ac am ei gysylltiad gyda'r paedoffil Jeffrey Epstein yn y 2010au. Ei lysenw yw "Randy Andy"[1] Chwalodd priodas Andrew â Sarah Ferguson, digwyddiad a gafodd cryn dipyn o sylw gan y papurau newyddion tabloid. Arferai weithio fel Cynrychiolydd Arbennig y Deyrnas Unedig o ran Buddsoddiad a Masnach Rhyngwladol, hyd at 2011 ac ar 20 Tachwedd 2019 dywedodd na fyddai'n ymgymryd a dyletswyddau brenhinol yn rhagor.[2]

Mae hefyd yn adnabyddus am sawl sgandal, gan gynnwys y cyhuddiad ei fod yn gysylltiedig â'r pedoffil Jeffrey Epstein. Honir iddo gael rhyw gyda merch a oedd dan oed, Virginia Roberts ar 10 Mawrth 2001. Yn Nhachwedd 2019 ymddangosodd ar y rhaglen Newsnight gan wadu'r honiadau hyn.[3] Ar 13 Ionawr 2022, collodd y Tywysog ei teitlau brenhinol seremoniol.[4]

Bywyd Cynnar ac Addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Andrew yn yr Ystafell Felgaidd ym Mhalas Buckingham ar y 19eg o Chwefror 1960. Ef oedd trydydd plentyn ac ail fab Elizabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig a Thywysog Philip, Dug Caeredin, a thrydydd wyr y Frenhines Elizabeth, y Fam Frenhines. Cafodd ei fedyddio yn Ystafell Gerddoriaeth y palas ar yr 8fed o Ebrill 1960 gan Archesgob Caergaint y cyfnod, Geoffrey Fisher. Ei rieni bedydd oedd y Tywysog Henry, Dug Caerloyw; y Dywysoges Alexandra, Arglwyddes Anrhydeddus Ogilvy, John Elphinstone, Arglwydd Elphinstone; Hugh FitzRoy, Iarll Euston; a Georgina, yr Arglwyddes Kennard, a chafodd ei enwi ar ôl ei dadcu ar ochr ei dad, y Tywysog Andrew o Wlad Groeg a Denmarc.

Apwyntiwyd athrawes i edrych ar ôl y tywysog, fel y gwnaethpwyd gan ei frawd a'i chwaer, a hi oedd yn gyfrifol am ei addysg cynnar ym Mhalas Buckingham, yna danfonwyd Andrew i Ysgol Baratoi Heatherdown cyn iddo fynychu Gordonstoun yng ngogledd yr Alban ym mis Medi 1973. Graddiodd Andrew ym mis Gorffennaf ddwy flynedd yn ddiweddarach gyda Lefel A yn Hanes, Economeg a Gwyddoniaeth Gwleidyddol. Nid aeth Andrew i brifysgol ond mynychodd Goleg Llyngesol Brenhinol Brittania yn Dartmouth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.express.co.uk/news/royal/471095/Koo-Stark-s-racy-past-ended-her-relationship-with-Prince-Andrew Yr Express; accessed 11 Hydref, 2014
  2. Quinn, Ben (20 November 2019). "Prince Andrew to step back from public duties 'for foreseeable future'". The Guardian. London, England: Guardian Media Group. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2019.
  3. "As it happened: Prince Andrew's Interview". BBC News. 16 Tachwedd 2019. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2019.
  4. "Prince Andrew loses military titles and patronages". BBC News (yn Saesneg). 2022-01-13. Cyrchwyd 13 Ionawr 2022.