Teulu Brenhinol y Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia
Aelodau'r teulu brenhinol yn 2012

Cyfeiria'r term Teulu Brenhinol y Deyrnas Unedig at deulu'r 'Windsors' sydd wedi etifeddu'r teitl, yr arian a'r sylw o fod yn frenhiniaeth y DU.

Aelodau'r teulu brenhinol presennol[golygu | golygu cod]

Ffasgiaeth a theulu brenhinol Lloegr[golygu | golygu cod]

Mae'r gwaed Almaenaidd yn nheulu brenhinol Lloegr yn gryf: roedd llinach uniongyrchol Siôr VI ac Edward VIII drwy eu mam Mair o Teck a'u hen-daid y tywysog Albert. Roedd gan y Tywysog Philip bedair chwaer ac roedd tair ohonynt yn aelodau o blaid y Natsïaid ac un yn briod gyda pheilot awyrennau'r Luftwaffe. Ni wahoddwyd teulu Philip i'w brodas gydag Elisabeth (brenhines Lloegr) yn 1947 oherwydd y cyswllt agos hwn gyda'r Almaen, mor fuan ar ôl y Rhyfel.[1]

Yr un amser, roedd eraill ar wahân i'r teulu brenhinol yn cysylltu eu hunain gyda'r Natsïaid (yn bennaf gan ei fod yr unig fygythiad i Gomiwnyddiaeth), gan gynnwys tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr. Rhoddodd pob un o'r tim saliwt Natsïaidd cyn y gêm yn Stadiwm Olympaidd Berlin yn 1938, er fod Adolf Hitler ychydig fisoedd ynghynt wedi goresgyn Awstria.

Ceir llawer o luniau o Edward VIII yn rhoi saliwt Natsïaidd a llawer o luniau'n cofnodi iddo gyfarfod Hitler a'i swyddogion yn 1937 a chyn hynny.[1] Hyd yn oed yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd ei ymlyniad i'r Almaen yn fwy nag i Brydain, fel y dywedodd, "It would be a tragic thing for the world if Hitler was overthrown. Hitler is the right and logical leader of the German people. Hitler is a very great man."

Yng Ngorffennaf 2015 cyhoeddodd papur y Sun luniau allan o fideo a gymerwyd yn 1933 neu 1934 yn dangos Elisabeth, brenhines Lloegr, yn rhoi saliwt Natsïaidd, yng Nghastell Balmoral gyda'i hewyrth Edward a goronwyd yn frenin Edward VIII yn ddiweddarach. Achosodd hyn embaras mawr i'r teulu brenhinol, gan godi hen grachen cysylltiad Ffasgiaeth â theulu brenhinol Lloegr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 The Observer; 19 Gorffennaf 2015; tud. 2.
Eginyn erthygl sydd uchod am frenhiniaeth neu aelod o deulu brenhinol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato