Y Swper Olaf (Leonardo)
Oddi ar Wicipedia
Y Swper Olaf, Milan, 1498.
Llun gan Leonardo da Vinci yw Y Swper Olaf. Gyda'r Mona Lisa, mae'n un o weithiau enwocaf Leonardo.
Mae'r llun yn ffresco ar fur abaty Dominicanaidd Santa Maria delle Grazie yn ninas Milan. Peintiodd Leonardo'r llun, sy'n darlunio'r Swper Olaf o'r Testament Newydd, rhwng 1495 a 1498, ar gais y tywysog Ludovico Sforza. Mae'n 460 x 880 cm o ran maint.
Yn rhannol oherwydd presenoldeb y llun hwn, mae'r abaty wedi ei ddynodi yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.