Y Lladrad Trên Mawr

Oddi ar Wicipedia
Y Lladrad Trên Mawr
Pont Mentmore (neu Pont Bridego ac yna Pont y Lladron),[1] lleoliad y lladrad
DyddiadAwst 8, 1963 (1963-08-08)
Amser0300
LleoliadPont Reilffordd Bridego, Ledburn, Swydd Buckingham, De-ddwyrain Lloegr
Cyfesurynnau51°52′44″N 0°40′10″W / 51.87889°N 0.66944°W / 51.87889; -0.66944Cyfesurynnau: 51°52′44″N 0°40′10″W / 51.87889°N 0.66944°W / 51.87889; -0.66944
A adnabyddir hefyd felCheddington Mail Van Raid
AchosDwyn o drên
Cymerwyd rhan ganBruce Reynolds, Gordon Goody, Buster Edwards, Charlie Wilson, Jimmy Hussey, Ronnie Biggs, Tommy Wisbey, John Wheater, Jimmy White a Brian Field
Y canlyniad£2.6 million yn cael ei ddwyn
ClwyfwydJack Mills (gyrrwr y trên)
Sail y cyhuddiad/auCynllwynio i ddwyn, dwyn gydag arfau, atal cyfiawnder a derbyn nwyddau wedi'u dwyn
CanlyniadGuilty
Dedfrydwyd11 o ddynion yn cael eu danfon (Bill Boal a Lennie Field yn ddieuog) i hyd at 30 mlynedd o garchar yr un

Ysbeiliad ar drên y Post Brenhinol oedd yn teithio o Glasgow i Lundain ar 8 Awst 1963 oedd y Lladrad Trên Mawr. Cipiodd y criw o 15 o ladron £2,600,000 ger Pont Bridego, i'r gogledd o Lundain. Bruce Reynolds oedd arweinydd y cynllwyn, a bu dau gyd-droseddwr arall: rhywun cydnabyddus a ddarparodd gwybodaeth am amserlen a llwyth y trên, a pherson a ddarparodd cuddfan ar Fferm Leatherslade yn Swydd Buckingham. Canfuwyd 12 o'r 15 o ladron a chafwyd pob un ohonynt yn euog a'u carcharu. Dihangodd un ohonynt, Ronnie Biggs, ym 1965 gan ffoi i Baris, i Awstralia ac yna i Frasil. Dychwelodd Biggs i'r Deyrnas Unedig yn 2001 a chafodd ei arestio.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Pressure makes Network Rail change bridge name". The Railway Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-19. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2013.
  2. (Saesneg) Great Train Robbery (British history). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Rhagfyr 2013.