Y Lindysyn Llwglyd Iawn
Llyfr lluniau plant gan Eric Carle ydy Y Lindysyn Llwglyd Iawn (Teitl gwreiddiol Saesneg:The Very Hungry Caterpillar, cyhoeddwyd 1969). Addaswyd i'r Gymraeg gan Cynthia Saunders Davies a cyhoeddwyd gan y Dref Wen ym mis Hydref 2007.[1]
Mae'r llyfr yn boblogaidd iawn ac mae wedi ennill clôd am y geiriau sy'n hawdd i'w darllen, ac yn gwneud y llyfr yn dda iawn ar gyfer dysgu plant ifanc i ddarllen. Cafodd ei chyfieithu i dros 50 o ieithioedd hyd 50, a nifer mwy ers hynnu, gwerthwyd copi o'r llyfr pob 57 eiliad ar gyfartaledd yn 2005. Ymddangosodd y llyfr ar Sesame Street yn yr 1990au cynnar. Mae hefyd wedi cael ei addasu ar fideo gan The Walt Disney Company fel rhan o antholeg sy'n cynnwys pedair llyfr arall gan Carle.
Mae testun bras a darluniau mawr lliwgar y llyfr yn dilyn hanes lindysyn fel mae'n bwyta ei ffordd drwy amryw o fwydydd megis hufen iâ, salami, melon ddŵr a lolipop cyn troi i mewn i pwpa a dad allan fel glöyn byw. Mae'r stori'n dysgu am gylched bywyd y glöyn byw, cyfrif i 5, enwau dyddiau'r wythnos ac am fwyd.
Teitl gwreiddiol y llyfr oedd A Week with Willi Worm, yn dilyn hanes abwydyn llyfr, ond fe gyngorodd golygydd Carle iddo na fuasai abwydyn gwyrdd yn brif gymeriad hoffus iawn. Roedd sôn y gwerthwyd y hawliau ffilm am £1 miliwn.[2]
Rhestrodd George W. Bush y llyfr ymysg ei ffefrynnau pan oedd yn tyfu i fyny, mewn arolwg gan Pizza Hut yn 1999. Fe achosodd hyn gryn gontrofersi ymysg sylwebwyr y cyfryngau gan na gyhoeddwyd y llyfr tan oedd Bush yn 23 oed.[3][4] Dewisodd Bush y llyfr iw ddarllen i ddosbarthiadau ysgol elfennol.[5]
Ffynonellau [golygu]
- Anita Silvey, 100 Best Books for Children, ISBN 0-618-27889-3
- BBC Radio 4, A Good Read, darlledwyd 8 Chwefror 2005
Dolenni Allanol [golygu]
- Counting on the Caterpillar ar wefan y BBC, 26 Gorffennaf 2005.
- Gwefan bersonnol Eric Carle - Gwybodaeth ar gyfer athrawon a darllenwyr.]]
- [5] MP3 o fersiwn llyfr llafar Y Lindysyn Llwglyd Iawn