Y Lôn Wen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfrol hunangofiannol gan Kate Roberts yw Y Lôn Wen (cyhoeddwyd 1960). Is-deitl: 'Darn o hunangofiant'.

Y ffordd "sy'n mynd dros Foel Smatho i'r Waunfawr ac i'r nefoedd" yw Lôn Wen y teitl. Ganed Kate Roberts yn y bwthyn teuluol Cae'r Gors, yn Rhosgadfan ar lethrau Moel Tryfan yn rhanbarth Arfon, Gwynedd. Roedd ei thad yn chwarelwr. Mae'r bywyd yng Nghae'r Gors a'r pentref yn gefndir holl-bwysig yn ei gwaith llenyddol cynnar ac mae Y Lôn Wen yn bortread cofiadwy o'r ardal a'i chymdeithas Gymraeg glos ar droad yr 20fed ganrif.

Mae'r gyfrol yn dangos adwaith plentyn synhwyrus a theimladwy i amgylchiadau bywyd ar yr aelwyd teuluol, yn y capel ac yng nghymdeithas y chwarelwyr ar adeg bwysig yn hanes diwydiant llechi Cymru. Gwelir hefyd sut y daeth y profiadau hynny yn sail i lawer o'i nofelau a straeon yn ddiweddarach. Mae'n llyfr unigryw felly, sy'n cofnodi yn gofiadwy cymdeithas Gymraeg arbennig mewn cyfnod allweddol, cyn y chwalfa fawr a ddaeth gyda'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n gyfrol o bwys i efrydwyr llên gwerin Cymru am ei bod yn cofnodi pethau fel yr afer o adrodd straeon o bob math o gwmpas y pentan a manylion eraill am ddiwylliant y tyddynwyr.

Manylion cyhoeddi [golygu]

Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf gan Gwasg Gee yn 1960. Yn 2009, cyhoeddwyd argraffiad dwyieithog Cymraeg-Saesneg gan Gwasg Gomer dan y teitl Y Lôn Wen / The White Lane gyda addasiad Saesneg gan Gillian Clarke.[1]

Cyfeiriadau [golygu]

Dolen allanol [golygu]


Llyfrau Kate Roberts
Deian a Loli | Ffair Gaeaf | Laura Jones | O Gors y Bryniau | Rhigolau Bywyd | Stryd y Glep | Tegwch y Bore | Te yn y Grug | Traed Mewn Cyffion | Tywyll Heno | Y Byw sy'n Cysgu | Y Lôn Wen