Y Gwrthryfel Arabaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Gwrthryfel Arabaidd
Rhan o ymgyrchoedd Arabia yn theatr y Dwyrain Canol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Lcamel.jpg
T. E. Lawrence wedi Brwydr Aqaba.
Dyddiad Mehefin 1916 – mis Hydref 1918
Lleoliad Saudi Arabia, Gwlad Iorddonen, Palesteina, Irac, Syria, Libanus
Canlyniad Cytundeb Sèvres
Newidiadau
tiriogaethol
Rhannu Ymerodraeth yr Otomaniaid
Cydryfelwyr
Flag of Hejaz 1917.svg Teyrnas Hejaz
Flag of Hejaz 1926.svg Teyrnas Nejd
Flag of the Emirate of Ha'il.svg Al Rashid

Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Ottoman flag alternative 2.svg Ymerodraeth yr Otomaniaid
Arweinwyr
Flag of Hejaz 1917.svg Faisal
Flag of Hejaz 1926.svg Ibn Saud
Flag of the Emirate of Ha'il.svg Abdul Aziz Rashid

Y Deyrnas Unedig Edmund Allenby
Y Deyrnas Unedig T. E. Lawrence
Ottoman flag alternative 2.svg Djemal Pasha
Ottoman flag alternative 2.svg Fahreddin Pasha
Ottoman flag alternative 2.svg Muhiddin Pasha
Nerth
30,000 (Mehefin 1916)[1] 23,000[1]

Gwrthryfel a gychwynwyd gan y Sharif Hussein bin Ali oedd y Gwrthryfel Arabaidd (1916–1918) (Arabeg: الثورة العربية Al-Thawra al-`Arabiyya; Tyrceg: Arap İsyanı) gyda'r nod o ennill annibyniaeth i'r Arabiaid oddi wrth Ymerodraeth yr Otomaniaid a chreu un wladwriaeth Arabaidd unedig i ymestyn o Aleppo yn Syria i Aden yn Yemen. Roedd yn rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol.

Arweiniwyd y gwrthryfel gan feibion y Sharif, yr Emiriaid Ali, Faisal, Abdullah a Zeid, gyda chymorth rhai swyddogion Prydeinig a Ffrengig. Ym Mehefin 1917 cipiodd yr Arabiaid borthladd Aqaba ar y Môr Coch, a symudasant yn raddol i'r gogledd. Targedodd yr Arabiaid Reilffordd Hejaz gan dorri cyflenwadau bwyd a dillad i'r Otomaniaid (neu'r Tyrciaid) ym Medina, ac roedd hyn o gymorth i ymgyrch y Cynghreiriaid yn Sinai a Phalesteina. Cwympodd Damascus ym mis Hydref 1918.

Creda'r Arabiaid fod ganddynt air Prydain: y byddai gwladwriaeth Arabaidd unedig yn cael ei ffurfio ar ôl cwymp Ymerodraeth yr Otomaniaid yn ôl Llythyron McMahon–Hussein, ond wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf cawsant eu dadrithio'n llwyr gan Gytundeb Sykes–Picot, a oedd yn rhannu'r Dwyrain Canol rhwng Prydain a Ffrainc, drwy Ddatganiad Balfour a oedd yn addo gwlad i'r Iddewon ym Mhalesteina.

Rhan gyntaf[golygu]

Cychwynnodd y Sharif y gwrthryfel ym Mehefin 1916. Elwant ar y dechrau ar artileri a ddanfonwyd o'r Swdan gan y Llywodraethwr Cyffredinol Syr Reginald Wingate, a llwyddasant i gipio Mecca a gorfodi'r Tyrciaid i ildio'u garsiwn yn Ta'if ar 22 Medi. Arafodd hynt yr Arabiaid, a chadwodd y Tyrciaid eu gafael ar Medina.

Adfywio'r gwrthryfel[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: T. E. Lawrence yn y Gwrthryfel Arabaidd

Ym mis Hydref 1916 aeth y Prydeinwyr Syr Ronald Storrs a'r Is-gyrnol T. E. Lawrence i Jeddah i geisio adfywio'r gwrthryfel. Gweithiodd Lawrence â'r Emir Faisal gan annog gwrthryfel herwfilwrol i fanteisio ar fudoledd yr Arabiaid a'u gwybodaeth a chefnogaeth leol. Bydd hyn yn ynysu'r Tyrciaid yn y trefi mawr ac yn eu gwneud yn ddibynnol ar Reilffordd Hejaz ac yn y bôn yn hawdd eu gorchfygu trwy ysbeilio a chyrchoedd bychain. Gall yr Arabiaid yna symud tua'r gogledd ar ystlys orllewinol Byddin Ymdeithiol yr Aifft dan y Cadfridog Syr Edmund Allenby.

1917[golygu]

Llwyddodd yr Arabiaid i gipio Wejh yn Ionawr 1917, ac Aqaba yng Ngorffennaf gan gysylltu tiriogaeth yr Arabiaid â thir yr Ymerodraeth Brydeinig yn yr Aifft. Targedwyd Rheilffordd Hejaz â dynamit.

1918[golygu]

Roedd rhan olaf y gwrthryfel yn galw ar gydweithio'n agos ag Allenby wrth i holl luoedd y Cynghreiriaid symud tuag at Damascus. Yng ngwanwyn 1918 symudodd yr Arabiaid i mewn i Syria. Ynysodd yr Arabiaid ddinas Dera'a gan dwyllo'r Tyrciaid i gredu bydd prif symudiad Allenby yn dod o'r cyfeiriad hwn. Cwympodd Damascus ar 1 Hydref.

Hanesyddiaeth[golygu]

Mae'r mwyafrif helaeth o'r hanesyddiaeth ar y gwrthryfel yn y Gorllewin ac yn yr iaith Saesneg yn canolbwyntio ar ran T. E. Lawrence.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 David Murphy, (lluniau gan Peter Dennis), The Arab Revolt 1916-18: Lawrence Sets Arabia Ablaze, Osprey Publishing, 2008, p. 26.