Y Gribyn
| Cribyn (Bannau Brycheiniog) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Y Gribyn o Ben y Fan |
| Uchder (m) | 795 |
| Uchder (tr) | 2608 |
| Amlygrwydd (m) | 874 |
| Lleoliad | de Powys |
| Map topograffig | Landranger 160; Explorer 12E |
| Cyfesurynnau OS | SO023213 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Hewitt, Nuttall a HuMP |
Y Gribyn (795 m / 2,608') yw trydydd copa uchaf Bannau Brycheiniog, yn ne Powys. Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn gorwedd yn agos i Ben y Fan, mynydd uchaf y grŵp; cyfeiriad grid SO023213. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 665metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Enw arall ar y mynydd yn lleol yw Bryn Teg.
Gellir dringo Cribyn o ddau gyfeiriad. Y llwybr hawsaf a mwyaf poblogaidd yw'r hwnnw sy'n cychwyn o fforest Taf Fechan ger cronfa ddŵr Pontsticill.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 795 metr (2608 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Cynnwys |
Cyfeiriadau [golygu]
Ffynonellau [golygu]
- Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru (Gwasg Gee, Dinbych, 1965)
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'