Y Goedwig Gawraidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Coed Sequoia Cawraidd (Sequoiadendron) yn y Goedwig Gawraidd
Dôl Cryman yn y Goedwig Gawraidd, "Gem y Sierras" yn ôl John Muir
Coeden General Sherman, y goeden fwyaf yn y byd

Y mae'r Goedwig Gawraidd (Giant Forest) yn rhan arbennig o Barc Cenedlaethol Sequoia, sy'n enwog am ei choed Sequoia Cawraidd. Gorwedd y goedwig ar uchder o 1,800 medr (6000 troedfedd) yng ngorllewin Sierra Nevada, California, UDA.

Yr ardal[golygu]

Dywedir fod y Goedwig Gawraidd yn cynnwys pump allan o'r 10 coeden fwyaf yn y byd o ran eu sylwedd pren, gan gynnwys yr un fwyaf oll, sef Coeden General Sherman, gyda chylch o 11.1 meder (36.5 troedfedd) yn ei bôn.

Mae'n gorwedd yn agos i'r Ogof Grisial, Carreg Moro a Dôl Cryman. Mae pen gorllewinol y High Sierra Trail sy'n croesi'r Sierra Nevada i Fynydd Whitney ger Dôl Cryman.

Bywyd gwyllt[golygu]

Mae'r binwydden Ponderosa, Pinwydden Jeffrey, Pinwydden Siwgr, a'r binwydden gamfrig yn goed cyffredin yno, ynghyd â'r Ffynidwydden Wen a'r Ffynidwydden Goch. Gwelir ceirw asen (mule deer), gwiwerod Douglas, a'r Arth Ddu Americanaidd yn aml yn y cyffiniau.

Ddoe a heddiw[golygu]

Ar un adeg roedd dros 300 o dai ac adeiladau eraill yno ond heddiw dim ond pedwar adeilad sydd ar ôl a chyfyngir gweithgareddau i ymweliadau dydd yn unig

Mynediad[golygu]

Mae ffordd yn cysylltu'r ardal â Fresno a Visalia. Mae priffordd y parc yn rhedeg o'r goedwig i Parc Cenedlaethol Kings Canyon a Llwyn Grant, cartref Coeden General Grant a sequoias eraill.

Dolenni allanol[golygu]