Y Fedwen Fai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Fedwen Fai yn Llangwm (Sir Ddinbych), 1920

Defnyddid y Fedwen Fai mewn dawnsfeydd a gynhelid fel rhan o ddathliadau Calan Mai. Roedd hyn yn arferiad cyffredin trwy holl wledydd gorllewin Ewrop. Credir ei fod yn tarddu o'r cyfnod cyn-Gristnogol a'i fod yn ymwneud â ffrwythlondeb. Yr enw a ddefnyddid yn ne Cymru arni oedd Pawl Haf ac yn y gogledd sonir am godi'r Fedwen (maypole yn Saesneg). Roedd y fedwen yn bren tal ac yn aml fe gadewid hi ar sgwar y pentref drwy gydol y flwyddyn, gan ei phaentio pan oedd angen a'i haddurno gyda rhubanau, blodau a thorchau. Roedd y pawl mwyaf drwy wledydd Prydain yn Welford-on-Avon yn Swydd Warwick ac roedd yn 65 troedfedd o uchder.[1]

Cymru[golygu]

Roedd yn arfer gyffredin i osod Bedwen Fai neu Bawl Haf yng nghanol trefi a phentrefi yng Nghymru'r Oesoedd Canol. Canodd y bardd Gruffudd ab Adda ap Dafydd (14eg ganrif) gywydd i'r fedwen a dorrwyd i wneud pawl haf yn Llanidloes.[2] Mae'n cyferbynu harddwch ac urddasrwydd byd natur â hyllni ac anghyfiawnder y dref a phopeth a gynrychiolir ganddi, tref lle gosodwyd y fedwen ddifethiedig yn ymyl y pilori cyhoeddus.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Chwedlau Gwerin Cymru gan Robin Gwyndaf, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1995.
  2. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  3. 'Y Fedwen yn Bawl Haf'. Thomas Parry (gol.), Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Nuvola 2.0+ Drama.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ddiwylliant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.