Y Fantell Goch
| Vanessa atalanta | |
|---|---|
| O'r top | |
| O'r ochor | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Lepidoptera |
| Teulu: | Nymphalidae |
| Genws: | Vanessa |
| Rhywogaeth: | V. atalanta |
| Enw deuenwol | |
| Vanessa atalanta (Linnaeus, 10fed rhifyn o: Systema Naturae, 1758) |
|
| Subspecies | |
|
|
| Cyfystyron | |
|
|
Mae'r Fantell Goch (lluosog: mentyll cochion) yn löyn byw cymharol fawr sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae. Yr enw Saesneg arno yw Red Admiral, a'i enw gwyddonol yw Vanessa atalanta. Mae i'w weld yn Ewrop, Asia a Gogledd America. Daw i Gymru yn ystod yr haf o Fôr y Canoldir, fel arfer tua dechrau Gorffennaf.
Lled yr adenydd ar eu heithaf ydy rhwng 45 – 50 mm.[2] Yn ne Ewrop, mae hefyd i'w weld yn hedfan yn ystod y gaeaf.
Gwelir yr oedolyn yn aml yn bwydo ar ddail yr eiddew (neu iorwg) neu'n yfed o flodau'r Buddleia, neu ffrwyth goraeddfed. Caiff yr wyau gwyrdd eu dodwy ar ddail y danadl poethion, un ddeilen i bob ŵy. Bydd y lindys yn deor a bydd yn creu amddiffynfa iddo ei hunan drwy dynnu ymylon y ddeilen at ei gilydd.
Mae'r oedolion yn gallu gaeafgysgu.
Cynnwys |
Cylchred bywyd [golygu]
Tarddiad yr enw [golygu]
Ystyr "mantell" ydy hugan neu glogyn. Daw'r enw Lladin Vanessa atalanta o'r Iaith Roeg; roedd Atlanta yn gymeriad mytholegol. Crëwyd y gair Vanessa gan yr awdur Eingl-Wyddelig Jonathan Swift yn 1708.
Cyffredinol [golygu]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r mantell goch yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 Vanessa, funet.fi
- ↑ Shalaway, Scott. Butterflies in the Backyard. ISBN 0-8117-2695-9 2004, Stackpole Books, Mechanicsburg, Pennsylvania. p.38