Y Faenor (Merthyr Tudful)
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Merthyr Tudful yn ne Cymru yw y Faenor (Saesneg: Vaynor). Saif i'r gogledd o dref Merthyr, ac mae'r gymuned hefyd yn cynnwys treflan Trefechan. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,465.
Roedd cynullidfa Undodaidd bwysig yn addoli yn Hen Dŷ Cwrdd Cefncoedycymer, ac mae'r gymuned yn cynnwys y fynwent Iddewaidd fwyaf yng Nghymru gerllaw'r briffordd A470.
Claddwyd Robert Thompson Crawshay, un o'r teulu enwog o feistri haearn, ym mynwent eglwys y Faenor. Ar ei garreg fedd, ceir yr arysgrif "God forgive me".
Saif tomen mwnt a beili o'r enw Mwnt Cae Burdydd yn agos o'r pentref.