Y Ddadl Fangoraidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Benjamin Hoadly, llun gan William Hogarth, c. 1743

Dadl ddiwinyddol o fewn Eglwys Loegr yn y 18fed ganrif oedd y Ddadl Fangoraidd (Saesneg: The Bangorian Controversy).

Ceir dechreuadau'r ddadl mewn llyfr o waith George Hickes, a gyhoeddwyd yn 1716 ar ôl iddo farw. Yn Constitution of the Catholic Church, and the Nature and Consequences of Schism, dadleuai Hickes, dros esgymuno pob eglwyswr heblaw y rhai oedd wedi gwrthod y llw oedd yn derbyn y teyrnoedd William a Mary yn ben ar yr eglwys. Ymatebodd Benjamin Hoadly, Esgob Bangor, mewn llyfr dan y teitl Preservative against the Principles and Practices of Non-Jurors,, oedd yn argymell safbwynt Erastiaeth, sef mai'r wladwriaeth a ddylai fod yn ben ar yr eglwys. Ar 31 Mawrth, 1717 pregethodd Hoadly, ym mhresenoldeb Siôr I ar Natur Teyrnas Crist. Roedd ei destun o Efengyl Ioan 18:36, "Fy mrenhiniaeth I nid yw o'r byd hwn". O hyn, dadleuodd Hoadly nad oedd cyfiawnhad beiblaidd i unrhyw lywodraeth eglwysig.

Dechreuodd y bregeth ddadl, a gwrthwynebwyd safle Hoadly gan William Law yn Three Letters to the Bishop of Bangor a Thomas Sherlock ymhlith eraill.