Y Dafarn Goch

Oddi ar Wicipedia

Ganed y bardd Goronwy Owen (Goronwy Ddu o Fôn) (1723-69) yn Y Dafarn Goch ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, Ynys Môn.

Ganed hen-hen-daid Goronwy yn y bwthyn gwreiddiol, mae'n debygol fod yr adeilad yma wedi'u adeiladu yn fuan ar ôl 1600 ar y hwyraf. Tybir fod y waliau gwreiddiol hyd at un llath o drwch ac wedi'u llenwi â chlai coch yn y ceudod - dyma sut cychwynodd y disgrifiad 'Goch' yn yr enw. Nid oes unrhyw wybodaeth fod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel gwesty neu tafarn ond mae'n bosib mai tafarn ar gyfer gweithwyr yn y chwarel maen cyfagos. Mae'n debygol fod yr adeilad a'r tir wedi bod yn bentref bychain yn ystod y canol oesoedd lle'r oedd gweithwyr y chwarel maen cyfagos yn byw mewn sawl tŷ.

Yn 1617 ceir cyfeiriad i'r tŷ a'r tir yn Rhosfawr a'i elwir yn 'Y Tŷ yn y Garreg Wen', a oedd wedi cael ei osod i'r 'ould Gronw, ale house keeper sef hen-hen-daid Goronwy Ddu. Enw llawn y Gronw yma oedd Gronwy ap Tudur ap Heilyn sydd ac fe'u ganed oddeutu 1550.

Ymhen canrif, yn 1720 ac 1730 roedd Edward Stukeley, gwr i fodryb Goronwy Owen Elin Gronw, yn byw yno - a phryd hynny gelwir y tŷ yn 'Graig-wen.'

Tincar oedd tad Goronwy, Owen Gronw, fel ei dad cyn hynny, sef Gorowny 'yr Eurch.' Gweithle Owen oedd y Dafarn Goch. Roedd ei gyn-deidiau yn weithiwyr yn y chwarel cyfagos.

Erbyn 1815 roedd 'Y Dafarn Goch' fel eu gelwir erbyn hyn wedi'u ail-adeiladu gan Richard Williams, gŵr Elinor Michael - disgynydd i hen deulu y Dafarn Goch.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn (1987)