Cenhedlig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Y Cenhedloedd)
Cenhedlig
Enghraifft o'r canlynolJewish ethnonym Edit this on Wikidata
Mathbod dynol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebIddewon Edit this on Wikidata

Cenhedlig (Lladin: gentiles) yw'r gair mae'r Iddewon yn ei ddefnyddio i ddisgrifio pobloedd sydd ddim yn Iddewon. Yr ystyr llythrennol yw "perthyn i'r cenhedloedd (eraill)", sef y cenhedloedd anetholedig gan Dduw mewn gwrthgyferbyniad â chenedl etholedig yr Iddewon. Yn y Beibl, pobl heb fod yn Iddewon yw'r Cenhedloedd. Mae'n enw a gysylltir yn bennaf â'r Testament Newydd, lle cyfeirir yn aml at yr apostolion "yn mynd allan i genhadu i'r cenhedloedd." (Rhaid cofio mai Iddewon oedd Iesu o Nasareth a'r rhan fwyaf o'i ddisgyblion; diweddarach yw'r gair Cristion.)

Gentilis yw'r gair yn y Lladin, sy'n golygu 'yn perthyn i dylwyth neu lwyth'. Cyfieithiad yw'r gair Lladin o'r geiriau Hebraeg goy/גוי a nochri/נכרי. Fe'i defnyddir hefyd i gyfieithu'r gair Groeg εθνοι/ethnoi.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Iddewiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.