Y Byd

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Y Byd
Math Papur newydd arfaethedig
Fformat Compact

Perchennog Cwmni Dyddiol Cyf.[1]
Golygydd Aled Price[1]
Sefydlwyd heb ddechrau cyhoeddi
Iaith Cymraeg
Pris 70c (Llun–Iau),
£1.20 (Gwe)[2]
Pencadlys Machynlleth[3]

Gwefan: YByd.com
Am ein planed, gweler Y Ddaear.

Y papur newydd dyddiol, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, cyntaf yn y Gymraeg roedd Y Byd i fod. Roedd yna fwriad i ddechrau cyhoeddi ar 3 Mawrth, 2008.[2] Cafodd y cynllun i sefydlu papur dyddiol Cymraeg ei grybwyll yn 2001, ac ar ôl rhai amheuon[4] llwyddodd i gyrraedd ei nod o werthu £300  o gyfranddaliadau[5]. Ond fe ddatganodd Dyddiol Cyf ar 15 Chwefror, 2008, na fydden nhw'n ceisio sefydlu papur dyddiol bellach, ar ôl i'r llywodraeth ddatgan mai dim ond £200,000 y flwyddyn a fyddai ar gael fel grant, llai na draean o'r maint roedd y cynllun busnes wedi gobeithio ei gael.[6]

Cynnwys

[golygu] Newyddiaduraeth

Roedd Y Byd i fod yn cynnig newyddion a sylwebaeth ar faterion cyfoes, yn canolbwyntio ar Gymru yn bennaf, ond hefyd yn rhoi gwybodaeth a barn ar faterion rhyngwladol a Phrydeinig pwysig. Bwriadwyd i gadw archif o holl erthyglau'r papur ar ei wefan. Byddai'r papur wedi cyflogi staff o 24, tua hanner ohonynt yn newyddiadurwyr, ym mhrif swyddfa'r papur ym Machynlleth.[3]

[golygu] Cefnogaeth

Roedd nifer yn cefnogi amcan Y Byd fel hwb i'r Gymraeg. Fe roddodd llawer o enwogion Cymru eu cefnogaeth i'r papur, gan gynnwys Archesgob Cymru ac aelodau o bob plaid yn y Cynulliad Cenedlaethol.

[golygu] Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "Enwi golygydd Y Byd", BBC, 28 Tachwedd, 2006.
  2. 2.0 2.1 "Y Byd yn closio at ddiwrnod mawr", BBC, 20 Mehefin, 2007.
  3. 3.0 3.1 Y Byd: Sut fath o bapur?
  4. "'Amheuon' am bapur newydd Cymraeg", BBC, 29 Mehefin, 2004.
  5. "Swyddi: Y Byd yn ei le?", BBC, 19 Mehefin, 2006.
  6. "Gollwng cynllun papur dyddiol", BBC, 15 Chwefror, 2008.

[golygu] Cysylltiadau allanol

Offer personol
Ieithoedd eraill