Y Bont Fawr, Llanrwst

Oddi ar Wicipedia
Pont Fawr Llanrwst
Mathpont, pont garreg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanrwst Edit this on Wikidata
SirLlanrwst Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr4.9 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1369°N 3.79766°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE025 Edit this on Wikidata

Saif Y Bont Fawr ar Afon Conwy yn Llanrwst, Sir Conwy. Codwyd y bont hon yn y flwyddyn 1636.[1] Y pensaer oedd Inigo Jones, yn ôl traddodiad. Yr ochr draw i'r bont mae plasdy Tu Hwnt i'r Bont.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd tref farchnad Llanrwst ar y llecyn y saif arno am fod Afon Conwy'n weddol gyfyng yma ac felly'n hawdd i'w chroesi. Croesi'r afon mewn cychod neu ar gefn ceffyl byddai pobl yn wneud yn yr hen amser. Roedd hen bont ar yr afon cyn codi'r bont bresennol. Cyfeirir ati am y tro cyntaf yn y flwyddyn 1626 pan gwynodd pobl y dref am ei chyflwr peryglus.[1]

Codwyd bont newydd i gymryd lle'r hen bont yn 1636. Fe'i cynlluniwyd gan y pensaer adnabyddus Inigo Jones, yn ôl traddodiad. Costiodd fil o bunnau, swm mawr iawn yn yr 17g.[1] Dan drefn yr hen siroedd, cysylltai'r bont Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych.

Ar ddechrau'r 18g, cariwyd y bwa sydd ar ochr chwith yr afon (ochr Gwydir) ymaith gan genlli'r afon. Ailgodwyd y bwa hwnnw yn 1703.[1]

Adeiladwaith[golygu | golygu cod]

Mae'r Bont Fawr yn bont gerrig gyda thri bwa. Dywedir y medrwch beri i'r bont gyfan grynu trwy daro rhan neilltuol o un canllaw yn ei chanol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947).
Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am bont. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.