Y Bedwaredd Groesgad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
300pxCipio dinas Caergystennin gan y croesgadwyr yn 1204.

Bwriad y Bedwaredd Groesgad (1202 - 1204) oedd cipio Jeriwsalem oddi wrth luoedd Islam, gan ymosod trwy yr Aifft. Yr hyn a ddigwyddodd oedd i'r croesfgadwyr gipio dinas Caergystennin.

Wedi methiant y Drydedd Groesgad (1189–1192), nid oedd llawer o ddiddordeb yn Ewrop mewn ymgyrch arall i gipio Jeriwsalem oddi wrth Frenhinllin yr Ayyubid. Yn 1198 daeth Pab Innocent III yn Bab, a dechreuodd bregethu'r angen am groesgad arall. Gyda chymorth pregethu Fulk o Neuilly, codwyd byddin o groesgadwyr. Etholwyd Thibaut III, Cownt Champagne yn arweinydd yn 1199, ond bu ef farw yn 1200 a chymerwyd ei le gan Eidalwr, Boniface o Montferrat. Gyrroedd yr arweinwyr lysgenhadon at Fenis a Genoa i geisio trefnu llongau, a chytunodd Fenis i gludo'r croesgadwyr.

Cychwynnodd y mwyafrif o'r croesgadwyr o Fenis yn Hydref 1202; y rhan fwyaf ohonynt o Ffrainc. Cychwynnodd rhai o borthladdoedd eraill, megis Marseilles a Genoa. Roedd Fenis wedi gofyn am 85,000 o farciau arian am eu cludo, ond dim ond 51,000 y gallai'r croesgadwyr ei dalu. Oherwydd hyn, roedd gwŷr Fenis yn chwilio am gyfle i ad-ennill eu colledion ariannol. Yn dilyn yr ymosodiadau ar dramorwyr yng Nghaergystennin yn 1182, roedd marsiandïwyr Fenis wedi eu gorfodi i adael y ddinas. Oherwydd hyn, roedd y Fenetiaid a'u Doge Dandolo yn elyniaethus i Gaergystennin. Awgrymodd Dandolo y dylai'r croesgadwyr dalu'r gweddill o'u dyled trwy ymosod ar borthladd Zara yn Dalmatia (Zadar yn Croatia heddiw). Gwrthwynebodd rhai o'r croesgadwyr hyn, ond cytunodd y mwyafrif a chipiwyd y ddinas.

Daeth y croesgadwyr i gysylltiad a'r tywysog Bysantaidd Alexius Angelus, mab yr ymerawdwr Isaac II Angelus oedd wedi ei ddiorseddu'n ddiweddar. Roedd Alexius yn alltud yn llys Philip o Swabia, a chynigiodd arian a milwyr i'r croesgadwyr pe baent yn ymosod ar Gaergystennin, diorseddu'r ymerawdwr Alexius III Angelus a rhoi Isaac II yn ôl ar yr orsedd.

Cyrhaeddodd y croesgadwyr ddinas Caergystennin, oedd a phoblogaeth o 150,000 yr adeg yma, gyda garsiwn o 30,000. Cipiwyd Chalcedon a Chrysopolis, cyn iddynt ymosod ar Gaergystennin ei hun. Llosgwyd rhan o'r ddinas a ffôdd Alexios III. Dychwelwyd Isaac II i'r orsedd gyda'i fab Alexius yn gyd-ymerawdwr fel Alexios IV. Cafodd Alexios drafferth i godi'r arian yr oedd wedi ei addo i'r croesgadwyr, a bu raid dinistrio llawer o eiconau i gael yr aur a'r arian ohonynt. Gwaethygodd y berthynas rhwng trigolion Caergystennin a'r croesgadwyr, a bu tân arall a losgodd ran helaeth o'r ddinas. Gwrthryfelodd Alexius Ducas, a diorseddodd Alexios IV a'i ladd, gan ddod i'r orsedd ei hun fel Alexius V; bu farw Isaac yn fuan wedyn.

Mynnodd y croesgadwyr a'r Fenetiaid fod yr ymerawdwr newydd yn cadw at y cytundeb a'i ragflaenydd, ond gwrthododd. Ymosododd y croesgadwyr ar y ddinas eto, ac ar 12 Ebrill 1204, cipiwyd y ddinas wedi ymladd ffyrnig. Anrheithiwyd Caergystennin yn llwyr; dywedir i werth 900,000 o farciau arian gael ei gymeryd o'r ddinas.

Gosododd y croesgadwyr Baldwin o Fflandrys ar yr orsedd, a rhannwyd yr Ymerodraeth. Y pwysicaf o'r rhannau oedd Ymerodraeth Nicaea dan Theodore Lascaris, Ymerodraeth Trebizond ac Unbennaeth Epirus.

Prif ganlyniad y Bedwaredd Groesgad oedd cwblhau'r rhwyg rhwng yr Eglwys Gatholig yn y gorllewin a'r Eglwys Uniongred yn y dwyrain.