Y Bala, Gwynedd
Cyfesurynnau: 52°54′40″N 3°35′46″W / 52.911°N 3.596°W
| Y Bala, Gwynedd | |
|
|
|
| Poblogaeth | 1,980 (2001) |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | SH925359 |
| Cymuned | Bala |
| Prif ardal | Gwynedd |
| Sir seremonïol | Gwynedd |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | BALA |
| Rhanbarth cod post | LL23 |
| Cod deialu | 01678 |
| Yr Heddlu | Gogledd Cymru |
| Tân | Gogledd Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Dwyfor Meirionnydd |
| Cynulliad Cymru | Dwyfor Meirionnydd |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd | |
- Gweler hefyd Bala (gwahaniaethu) am lefydd eraill o'r enw Bala.
Tref fechan a chymuned yn ardal Meirionnydd, Gwynedd yw'r Bala. Cyfeirnod OS: SH 92515 36708. Does dim ond un stryd fawr yn y dref. Mae'r dref ar yr A494, rhwng Dolgellau (18 milltir i'r de-orllewin) a Llangollen (22 milltir i'r dwyrain). Cyn ad-drefnu llywodraeth leol roedd hi yn yr hen Sir Feirionnydd. Mae ganddi boblogaeth o 1,980 (Cyfrifiad 2001).
Llyn naturiol mwyaf Cymru ydyw Llyn Tegid sydd ar gyrion y dref. Mae Afon Tryweryn yn llifo heibio i'r dref i'r dwyrain ac yn ymuno ag Afon Dyfrdwy sy'n llifo drwy Lyn Tegid ac yn dod allan ar ochr ddeheuol y Bala.
Rhoddir yr enw bala ar lefydd sy'n agos i afon yn llifo o lyn fel ag yn yr enw Baladeulyn. Ceir dros ddeg lle drwy'r byd sydd wedi eu galw ar ôl y Bala, gan gynnwys: Bala Cynwyd ym Mhennsylvania a Bala, Ontario.
Cynhelir gŵyl gerddoriaeth boblogaidd, "Wa Bala" ar gyrion y dref ym Mis Medi, fel arfer dros gyfnod o ddwy noson.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Ar un adeg roedd y Bala yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân ond dirwynodd i ben yn y 19eg ganrif. Yn y sgwâr yng nghanol y dref saif cerflun er cof am Tom Ellis (1859-1899), AS Meirionnydd ar ddiwedd y 19eg ganrif, a aned yng Nghefnddwysarn nepell o'r Bala. Yno hefyd mae plac yn coffhau'r Parch. Thomas Charles o'r Bala, Methodist blaenllaw ac un o selogion y Gymdeithas Feiblau a symbylwyd gan daith Mary Jones yn droednoeth i'r Bala yr holl ffordd o Llanfihangel-y-Pennant yn 1800. Ym mhen gogleddol y dref gwelir y Green gyda cherrig yr Orsedd o Eisteddfod Genedlaethol 1967. Ger llaw y mae Tomen y Bala, sy'n fwnt a beli, Normanaidd efallai. O'r Bala daeth nifer o'r ymfudwyr a aethant i'r Wladfa ym Mhatagonia yn 1865.
Yr hinsawdd [golygu]
| Hinsawdd Bala 163m, 1971-2000 | |||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Mis | Ion | Chw | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gor | Aws | Med | Hyd | Tac | Rha | Blwyddyn |
| Tymheredd uchaf (cyfartalog) °C (°F) | 6.7 (44.1) |
6.8 (44.2) |
8.7 (47.7) |
11.1 (52.0) |
14.6 (58.3) |
16.8 (62.2) |
19.1 (66.4) |
18.8 (65.8) |
16.2 (61.2) |
12.9 (55.2) |
9.4 (48.9) |
7.5 (45.5) |
12.38 (54.29) |
| Tymheredd isaf (cyfartalog) °C (°F) | 0.9 (33.6) |
0.8 (33.4) |
2.1 (35.8) |
2.8 (37.0) |
5.2 (41.4) |
8.0 (46.4) |
10.2 (50.4) |
9.8 (49.6) |
8.0 (46.4) |
5.6 (42.1) |
3.0 (37.4) |
1.6 (34.9) |
4.83 (40.70) |
| Source: YR.NO[1] | |||||||||||||
Enwogion [golygu]
- Thomas Charles (1755-1814), arweinydd Methodistaidd ac awdur
- Roger Edwards (1811-1886), awdur a golygydd
- Owain Meirion (1803-1868), baledwr
- John Peter (Ioan Pedr) (1833-1877), ysgolhaig
- Michael D. Jones (1822-1898), cenedlaetholwr Cymreig, un o arloeswr Y Wladfa
Yr Eisteddfod Genedlaethol [golygu]
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ym 1967, 1997 a 2009. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod y Bala 1738
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Bala 1967
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009
Gefeilldref [golygu]
Mae pentref Bala yn nhalaith Ontario, Canada, yn efeilldref swyddogol i'r Bala.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Climate Normals 1971–2000". YR.NO. http://www.yr.no/place/United_Kingdom/Wales/Llanfor/statistics.html. Adalwyd 3 Maw 2011.
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr