Y Bachgen Mewn Pyjamas
- Gweler hefyd: The Boy in the Striped Pyjamas (ffilm)
Nofel gan yr awdur Gwyddelig John Boyne yw Y Bachgen Mewn Pyjamas (teitl gwreiddiol The Boy in the Striped Pyjamas) a gyhoeddwyd yn 2006. Mae'n dilyn hanes yr Almaeniaid a'r Holocost o safbwynt bachgen bach. Yn wahanol iawn i'w lyfrau eraill, dywedodd Boyne iddo ysgrifennu draft cyntaf cyfan y llyfr hwn mewn deuddydd a hanner, a bu prin iddo gysgu o gwbl tan iddo ddod at y diwedd.[1] Hyd yn hyn, ar ei ffurf gwreiddiol Saesneg, mae wedi gwerthu dros 5 miliwn copi yn fyd eang, ac wedi ei gyhoeddi dan y teitl The Boy in the Striped Pajamas yn yr Unol Daleithiau. Hwn oedd y gwerthwr gorau yn Sbaen yn 2007 a 2008. Mae hefyd wedi bod yn werthwr gorau ar restr y New York Times, yn ogystal ag ym Mhrydain, Iwerddon, Awstralia a nifer o wledydd eraill.
Addaswyd y llyfr i'r Gymraeg gan Emily Huws a cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch ym mis Medi 2009, gan gyrraedd copa rhestr gwerthwyr gorau Gwales.com yr un mis.[2]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Sarah Webb (2006). Interview with Children’s Author John Boyne.
- ↑ Gwerthwyr Gorau'r Ganolfan: Medi 2009 (Cymraeg-Plant). Gwales.com (Medi 2009).