Y ddanadfrech

Oddi ar Wicipedia
Y ddanadfrech
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathclefyd y croen, skin and integumentary tissue symptom, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r ddanadfrech (Saesneg: Hives neu Urticaria) yn fath o frech croen gyda lympiau coch, esgynedig sy'n cosi.[1] Gallant hefyd losgi. Yn aml mae'r clytiau o'r frech yn symud o gwmpas. Fel arfer maen nhw'n para ychydig ddyddiau ac yn gadael heb adael unrhyw newidiadau tymor hir i'r croen. Mae llai na 5% o achosion yn para mwy na chwe wythnos. Anaml y bydd y cyflwr yn dychwelyd.[2]

Mae'r ddanadfrech yn aml yn ymddangos yn dilyn haint neu o ganlyniad i adwaith alergaidd i feddyginiaeth, brathiad pryfyn, neu fwyd, er enghraifft. Gall gael ei achosi hefyd gan straen seicolegol, tywydd oer, neu gryndod. Yn hanner yr achosion, nid yw'r hyn sydd wedi'i achosi yn hysbys. Mae ffactorau risg yn cynnwys dioddef o gyflyrau megis clefyd y gwair neu asthma.[3] Mae diagnosis fel arfer yn seiliedig ar ymddangosiad. Mae Prawf clytiau yn gallu bod yn ddefnyddio i adnabod alergedd.

Arwyddion a symptomau[golygu | golygu cod]

Y ddanadfrech ar y frest. Sylwer eu bod yn esgyn rhywfaint.
Darlun o'r ddanadfrech

Mae gwaltesi (ardaloedd esgynedig sydd wedi'u hamgylchynu gan sylfaen goch) y ddanadfrech yn gallu ymddangos yn unrhyw le ar wyneb y croen. Os yw o ganlyniad i alergedd neu beidio, mae rhyddhad cymhleth o gyfryngwyr llidus, gan gynnwys histamin o fastgelloedd  croenol yn achosi hylif i ollwng o waedlestri arwynebol. Gall gwaltesi fod mor fach a phin, neu fodfeddi lawer mewn diamedr.

Mae angioedema yn gyflwr sy'n perthyn (hefyd o achosion alergaidd ac analergaidd), er fod y colli hylif o waedlestri dyfnach o lawer yn yr haenau isgroenol neu isfwcosaidd. Mae danadfrech unigol sy'n boenus, yn para dros 24 awr, neu'n gadael clais wrth iddo wella yn fwy tebygol o fod yn gyflwyr mwy difrifol o'r enw vasculitis urticariaidd. Mae'r ddanadfrech a ddaw i'r amlwg wrth fwytho'r croen (yn aml yn ymddangos yn hirfain) yn cael ei achosi gan gyflwr diniwed o'r enw urticaria dermatograffig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Hives". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Awst 2016. Cyrchwyd 10 Awst 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Jafilan, L; James, C (Rhagfyr 2015). "Urticaria and Allergy-Mediated Conditions.". Primary care 42 (4): 473–83. doi:10.1016/j.pop.2015.08.002. PMID 26612369.
  3. Zuberbier, Torsten; Grattan, Clive; Maurer, Marcus (2010). Urticaria and Angioedema. Springer Science & Business Media. t. 38. ISBN 9783540790488.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!