Y Graig Arw

Oddi ar Wicipedia

Hen enw ar ardal Pant-teg rhwng Godre'r-graig ac Ystalyfera yng Nghwm Tawe yw'r Graig Arw, rhyw 12 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Abertawe. Mae'n un o lecynnau hynaf y cylch. Cynhaliwyd Ysgolion Griffith Jones, Llanddowror yma rhwng 1739 ac 1759, ac yma y codwyd adeilad cyhoeddus cyntaf y cyffiniau, a'r capel cyntaf, Capel Pant-teg, yn 1821. Nododd William Hopkin yn ei Feibl, May the 14th, 1821, opened the New Meeting House in Craigarw, named Pantteg. William Hopkin, Pantteg, his hand.

Saif y Graig Arw ar lethrau Mynydd Allt-y-grug (1113 troedfedd), ar ochr orllewinol y cwm, cyferbyn â Mynydd Y Darren Wyddon (1156 troedfedd) ar yr ochr ddwyreiniol. Dywedir fod Cwm Tawe yn gul iawn (tua 360 metr yn unig o led) yn ardal Y Graig Arw gan fod tywodfaen y mynyddoedd yn anodd ei erydu. Ceir cofnodion am ffermydd ar lethrau Mynydd Allt-y-grug ers y 15g; ffermydd megis Clun-gwyn, Tir-bach, Allt-y-grug, Tŷ Gwyn, Tŷ Gwyn Bach, Gilfach Goch, Gilfach yr Haidd, Pant-y-gwynyd, Penlan-fach, Tir Garw, Coed-cae-mawr a Charreg Pentwyn. Clun-gwyn yw'r hynaf a nodir yng nghofnodion Ystâd Gough, yn 1516. Yn y gorffennol, roedd y cylch yn enwog am lysenwau lliwgar y trigolion.

Yn ystod yr 20g, o ganlyniad i'r gweithfeydd glo, dioddefodd yr ardal nifer o dirlithriadau.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Bernant Hughes, Enwau sy'n gysylltiedig â phentre Ystalyfera (Gwasg Morgannwg, Castell Nedd, 1988)
  • Bernant Hughes, Stepping stones in the history of Ystalyfera (Gwasg Morgannwg, Castell Nedd, 1990)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato