Y Cob, Porthmadog

Oddi ar Wicipedia
Y Cob
Mathmorglawdd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPorthmadog Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr3.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9231°N 4.12161°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH574382 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Morglawdd ger Porthmadog, Gwynedd, yw'r Cob. Fe'i cynlluniwyd gan William Alexander Madocks. Pasiwyd deddf i adeiladu morglawdd ym 1807 a phrynodd Madocks Fferm Penrhyn Isaf i gael meini i'w adeiladu. Bwriad gwreiddiol Madocks oedd sychu ei dir ar Draeth Mawr, ond aeth gam ymlaen i osod ffordd i Borthdinllaen, gyda fferiau'n mynd o Borthdinllaen i'r Iwerddon.

Gweithiodd dros 400 o bobl, ac adeiladwyd gweithdai a llety i’r geithwyr yn Boston Lodge. Agorwyd y Cob ar 17 Medi 1811, a chynhaliwyd gwledd ac eisteddfod. Dinistriwyd rhan o’r morglawdd gan storm ar 14 Chwefror 1812; codwyd swm sylweddol gan bobl leol, ac fe'i hailagordwyd ym 1814.

Roedd tollborth ar y Cob o’r dechrau, tan 2003, pan prynodd Llywodraeth Cymru’r safle.[1]

Newidiwyd cwrs Afon Glaslyn gan y Cob, a datblygodd harbwr Porthmadog i allforio cynnyrch y chwareli llechi ym Mlaenau Ffestiniog, a daeth y cynnyrch hwn ar draws y Cob ar Reilffordd Ffestiniog.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]