Xerxes II, brenin Persia
Oddi ar Wicipedia
Brenin Ymerodraeth Persia am gyfnod byr yn 424 CC oedd Xerxes II, Hen Berseg: Xšayāršā (bu farw 424 CC).
Daeth yn frenin ar farwolaeth ei dad, Artaxerxes I. Ymddengys mai ef oedd unig fab Artaxerxes gyda'i wraig, Damaspia, ond roedd ganddo o leiaf ddau fab gordderch. Ar ôl teyrnasiad o ddim ond 45 diwrnod, llofruddiwyd Xerxes II gan ei hanner brawd, Sogdianus.
Cred rhai ysgolheigion mai ef oedd yr Ahasfferus sy'n gymeriad yn Llyfr Esther yn y Beibl, ond nid oes cytundeb ar hyn.
| Rhagflaenydd : Artaxerxes I |
Brenhinoedd Achaemenid Ymerodraeth Persia Xerxes II |
Olynydd : Sogdianus |