XHamster

Oddi ar Wicipedia
xHamster
URLxhamster.com/
math o saflePornograffig (rhannu fideos)
cofrestruOpsiynol
ieithoeddNifer
trwydded cynnwysAm ddim
perchennogHammy Media Ltd[1]
lansio2 Ebrill 2007; 16 o flynyddoedd yn ôl (2007-04-02)
Gradd AlexaDecrease 82 (Global Mawrth 2017)
statws ar hyn o brydArlein

Cyfrwng cymdeithasol a gwefan erotig a sefydlwyd yn 2007 ydy xHamster sydd a'i bencadlys yn Limassol, Cyprus.[1]. Mae'n darparu fideos, modelau webcam, lluniau a llenyddiaeth erotig ac mae ganddo tua 10 miliwn o aelodau wedi tanysgrifio. Dyma'r drydedd wefan bornograffig mwya poblogaidd y we fyd-eang, gan ddilyn XVideos a Pornhub.

Mae'r wefan hefyd yn cyhoeddi The Sex Factor, cyfres ble mae dynion a merched yn cystadlu er mwyn bod yn sêr yn y byd porn. Mae llawer o wledydd wedi atal (neu 'banio') xHamster, gan eu bod nhw'n credu mewn rhyddid gwybodaeth agored.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yng ngwanwyn 2007, daeth grŵp at ei gilydd i lansio gwasanaeth ar gyfer oedolion,[1][2] ac fe'i laniswyd yn swyddogol ar 2 Ebrill 2007.[3] Ar y dechrau cafodd y wefan ei lansio fel gwefan cyfnewid lluniau, gydag elfen o sgwrsio rhwng yr aelodau a rhannu fideos... ac efallai darganfod partner."[1] Erbyn 2015 roedd gan y wefan 10 miliwn o aelodau.[1]

Cwrw[golygu | golygu cod]

Yn Nhachwedd 2016, cafodd cwrw xHamster ei ryddhau. Mae ynddo 8.5% o alcohol, ac mae'n cael ei alw'n ABV Belgian Triple-style ale ac ar gael am 3.90 EUR am .5 litr. Wedi dim ond 5 diwrnod, gwerthwyd y cwbwl![4]

Sensoriaeth[golygu | golygu cod]

Dros y blynyddoedd, mae'r wefan xHamster wedi cael ei hatal gan sawl llywodraeth. Yn Awst 2015, cafodd ei atal drwy ddeddf gan Llywodraeth India.[5][6] Yn Rwsia, yn Ebrill 2014, cafodd ei atal gan lys sirol.[7][8]

Cyfeiriadu[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Ben Woods (3 Mawrth 2016). "The (almost) invisible men and women behind the world's largest porn sites". The Next Web.
  2. "About Us". xHamster. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2016.
  3. "XHamster.com WHOIS, DNS, & Domain Info - DomainTools". WHOIS. 2016. Cyrchwyd 21 Chwefror 2016.
  4. Wolinski, Cat. "Craft Beer Gone Wild: Leading Porn Site Releases Its Own Fancy Beer". Men's Journal. Cyrchwyd 9 Mawrth 2017.
  5. Griffin, Andrew (3 Awst 2015). "Porn block in India: hundreds of sexual websites banned, internet outraged". The Independent.
  6. "How blocked websites are trolling India's porn ban". Mint. 4 Awst 2015. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2016.
  7. "Century-old law cited in request to ban 136 porn sites from Republic of Tatarstan". The Guardian. 14 April 2014.
  8. Zykov, Vladimir (13 April 2015). Роскомнадзор внесет сразу 136 порносайтов в черный список [Roskomnadzor will add 136 pornographic sites to the blacklist] (yn Russian). Izvestia.CS1 maint: unrecognized language (link)