Wyre (Ynysoedd Erch)
Oddi ar Wicipedia
Un o'r ynysoedd sy'n ffurfio Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Wyre. Saif i'r gogledd o'r brif ynys, Mainland, i'r de-ddwyrain o ynys Rousay ac i'r de o Egilsay. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 18.
Ceir cysylltiad fferi ag ynysoedd Mainland, Rousay ac Eglilsay. Yr adeilad mwyaf nodedig ar yr ynys yw Castell Cubby Roo, a adeiladwyd tua 1145 gan yr arweinydd Llychlynnaidd Kolbein Hruga.
Magwyd y bardd Edwin Muir ar Wyre, er iddo gael ei eni ar Mainland.