Wynne Roberts

Oddi ar Wicipedia
Wynne Roberts
Ganwydc. 1943 Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 2009 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhypnotist Edit this on Wikidata

Hypnotydd Cymreig oedd Wynne Roberts (bu farw 4 Mawrth, 2009 yn 66 mlwydd oed).[1] Roedd yn enwog am ei sioeau llwyfan difyrrus ond bu hefyd yn gweithio fel arbenigwr hypnotherapi i'r grŵp feddygol BUPA.[2]

Cafodd Roberts ei eni yng Nghaergybi[3] ac yn hwyrach yn ei fywyd bu'n byw yn Wrecsam am rai blynyddoedd cyn symud i Brestatyn.[2] Yn ei arddegau gweithiodd fel porthor mewn gwesty a dechreuodd gweithio fel hypnotydd ar ôl treulio saith mis mewn mynachlog yn Nhibet.[4]

Yn y 1970au cafodd ei gynnwys yn y Guinness Book of World Records am y cyfnod o amser yr oedd yn gallu canu'r drymiau.[1]

Roedd Roberts yn aelod o FESH (Federation of Ethical Stage Hypnotists) ac fe enillodd wobrau am ei sioe lwyfan gan gynnwys Sioe Cabaret Orau a Sioe Cabaret Ryngwladol Orau.[2] Cyflwynodd y rhaglen Y Sioe Anghyffredin ar S4C ac roedd yn gyfrannwr rheolaidd i BBC Radio Cymru.[2]

Ar ôl ffrwydradau terfysgol yn Llundain yn 2005 bu'n defnyddio hypnotherapi i gwnsela rhai a ddioddefodd yn y cyrchoedd.[2] Bu Roberts hefyd yn defnyddio hypnotherapi ar filwyr ag anafwyd yn rhyfeloedd Irac ac Afghanistan.[3]

Roedd Roberts yn briod i'w wraig Linda ac yn dad i bedwar o blant, Vicky, Bruce, Paul, a Melissa.[1] Bu farw ym Mawrth 2009 o ganser.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Tributes to record breaking Wrexham entertainer and hypnotherapist. Evening Leader (6 Mawrth, 2009). Adalwyd ar 12 Mawrth, 2009.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5  Hypnotydd enwog yn marw. BBC (5 Mawrth, 2009). Adalwyd ar 5 Mawrth, 2009.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Hypnotist offers therapy to Army amputees. Daily Post (27 Rhagfyr, 2007). Adalwyd ar 5 Mawrth, 2009.
  4. (Saesneg) Wynne Roberts. Clic Agency. Adalwyd ar 5 Mawrth, 2009.