Wynne Melville Jones

Oddi ar Wicipedia
Wynne Melville Jones
Ganwyd1947 Edit this on Wikidata
Tregaron Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd, person busnes Edit this on Wikidata
Wyn Mel yn annerch torf Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2023. Roedd yn 'Dywysydd' y Parêd fel gwerthfawrogiad i'w waith dros ddiwylliant Cymru a'r Gymraeg
Mur fy Mebyd gan Wynne Melville Jones
Llythyr Jimmy Carter at Wynne Melville Jones

Arlunydd Cymreig ac entrepreneur yw Wynne Melville Jones (a adnabyddir yn aml fel Wyn Mel; ganwyd 1947) a fu hefyd ym myd cysylltiadau cyhoeddus a moderneiddio mudiad yr Urdd.

Bu'n fyfyriwr celf ac erbyn 2015 roedd wedi dychwelyd at ei gariad cyntaf, sef celf, ac yn gweithio o'i gartref yn Llanfihangel Genau'r Glyn lle mae'n weithgar yn y gymuned. Cyhoeddwyd ei hunangofiant Y Fi a Mistar Urdd a'r Cwmni Da yn 2010 a Wyn Mel hefyd yn 2010. Mae'n un o sefydlwyr Banc Bro Llanfihangel Genau'r Glyn, menter gymunedol i hyrwyddo bywyd cymdeithasol a diwylliedig y gymuned.

Geni a magu[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yn fab y Mans yn Nhregaron. Mynychodd Ysgol Uwchradd Tregaron lle daeth o dan ddylanwad Ogwyn Davies, ei athro Celf. Yna dilynodd gwrs blwyddyn yng Ngholeg Celf Abertawe cyn dilyn Cwrs Athro Mewn Celf a Drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Yn y coleg roedd yn Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr a sefydlodd gylchgrawn dwyieithog 'CHWYN', i fyrfyrwyr y Coleg.

Urdd Gobaith Cymru[golygu | golygu cod]

Yn 1969 fe'i penodwyd yn Drefnydd yr Urdd yn Sir Gaerfyrddin ac ymhen dwy flynedd cafodd ei symud i'r pencadlys yn Aberystwyth i fod yn gyfrifol am gyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus y mudiad. Yn dilyn Arwisgo Tywysog Charles yng Nghaernarfon roedd morâl y mudiad yn isel iawn a rhwygwyd y mudiad gan yr Arwisgo ac ymweliad Charles i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.[1] Trefnodd Wynne nifer o ymgyrchoedd cenedlaethol mawr er mwyn codi proffil ac ysbryd y mudiad, gan gynnwys ymgyrch 'Ras Falwns Mwya'r Byd' pan ollyngwyd 100,000 o falwns yng Ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach dyfeisiodd y cymeriad Mistar Urdd, y cymeriad trilliw a sefydlwyd ar logo'r Urdd ac a ddaeth yn fyw yn 1979. Tyfodd yn gymeriad a welwyd ar bob math o bethau e.e. mygiau, beiros a hyd yn oed trons. Yn 2016 roedd yn dal i gael ei ddefnyddio gan y mudiad i ddenu plant i'w rhengoedd.[2][3]; bu Jones yn gyfrifol am gyflwyno ffrind pennaf Mr Urdd i blant Gymru hefyd, sef Pen Gwyn, pengwin o'r Wladfa[4]

Mae Wynne yn gyn-Gadeirydd Cyngor yr Urdd ac yn Llywydd Anrhydeddus Urdd Gobaith Cymru am oes.

Cwmni Strata Matrix[golygu | golygu cod]

Yn 1979 gadawodd yr Urdd a sefydlodd gwmni PR dwyieithog - y cyntaf yng Nghymru - StrataMatrix a bu'n ei reoli am 30 mlynedd. Roedd gan y cwmni swyddfeydd yn Aberystwyth a Chaerdydd. Cynrychioliodd 'Strata Matrix' nifer fawr o gwmniau a sefydliadau cenedlaethol Cymru. Sefydlodd 'Gymdeithas Cysylltiadau Cyhoeddus Cymru' a newidiodd eu henw i: 'Cyswllt'.

Golwg[golygu | golygu cod]

Gyda Dylan Iorwerth a Roy Stephens sefydlodd gylchgrawn a Chwmni Golwg sydd a'i bencadlys yn Llambed.[5]

Celf[golygu | golygu cod]

Ail gydiodd yn y brwsh paent wedi iddo ymddeol, ac aeth ati i baentio Cors Caron yn y pedwar tymor yn 2011. Mae'n aml yn darlunio iconau Cymreig a thirlun Sir Benfro. Dangoswyd ei waith yn Aberaeron, Aberystwyth, Abergwaun, Caerdydd, Tregaron, Y Bala a Llundain.

Mae nifer o'i luniau wedi creu diddordeb y tu allan i Gymru gan gynnwys y darlun o Soar-y-Mynydd, sy'n eiddo i gyn-Arlywydd UDA Jimmy Carter.[6]

Yn 2015 roedd yn byw yn Llanfihangel Genau'r Glyn gyda'i briod Linda ac mae ganddo ddwy ferch a nifer o wyrion.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Erthygl ar lythyr Carter, Western Mail, 24 Rhagfyr 2012
  • Erthygl ar lythyr Carter, Golwg, 2 Mai 2013

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. www.gweiddi.org;[dolen marw] adalwyd 22 Awst 2015
  2. Gwefan y BBC; adalwyd 21 Awst 2015
  3. Y Cymro Pen-blwydd hapus Mistar Urdd Archifwyd 2016-06-02 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 1 Mehefin 2016
  4. Croeso nôl, Pen Gwyn! adalwyd 2 Mehefin 2016
  5. Gwefan y BBC; adalwyd 22 Awst 2015
  6. www.orielwynmel.co.uk; adalwyd 18 Awst 2015

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]