Wynford Ellis Owen

Oddi ar Wicipedia
Wynford Ellis Owen
Ganwyd22 Ionawr 1948 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Actor a chyfarwyddwr yw Wynford Ellis Owen (ganwyd 22 Ionawr 1948)[1] Mae'n enwog am greu ac actio'r cymeriad 'Syr Wynff ap Concord y Bos' a ymddangosodd yn y rhaglenni teledu plant Teliffant ac Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan. Creodd y gyfres gomedi teledu Porc Peis Bach ac actiodd cymeriad y gweinidog Donald Parry yn y gyfres honno.[2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Bu'n byw yn Llansannan, Sir Ddinbych cyn symyd i Lanllyfni, Sir Gaernarfon. Addysgwyd yn Nyffryn Nantlle, Coleg Addysg Cyncoed, Caerdydd a Choleg Cerdd a Drama Cymru. Aeth i weithio i'r BBC yn 1969.

Roedd ei dad, Robert Owen, yn weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd yn Llanllyfni.

Ers yn blentyn roedd wedi arbrofi gyda chyffuriau gan ddwyn meddyginiaethau ei fam ac o aelodau eglwys ei dad. Fel oedolyn bu'n gaeth i alcohol a valium.[3] Cafodd driniaeth am ddibyniaeth yng nghanolfan Rhoserchan yn Aberystwyth a bu'n sobr ers 22 Gorffennaf 1992. Graddiodd mewn Cwnsela Dibyniaeth yn 2008 ac ar 1 Hydref 2008 cychwynnodd weithio fel Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill.

Datblygodd canolfan gymunedol Stafell Fyw Caerdydd i gefnogi pobl gyda dibyniaeth ar gyffuriau yn ardal Caerdydd. Agorwyd y ganolfan yn 2011.[4]

Ymddeolodd o Stafell Fyw Caerdydd ar 31 Awst 2017 er ei fod am barhau i weithio rhan amser ar gynlluniau i agor canolfannau Stafell Fyw yng Nghaerfyrddin a Chaernarfon. Mae hefyd yn gobeithio ail-afael ar ysgrifennu a dechrau creu dramâu a chyfresi teledu gyda’i ferch.[5]

Fe'i urddwyd gyda'r wisg werdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n briod a Meira a maent yn byw yng Nghreigiau ar gyrion Caerdydd. Mae ganddynt ddwy ferch, Bethan, sy'n actores, a Rwth.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Actio[golygu | golygu cod]

1968
Ty ar y Tywod gan Gwenlyn Parry, BBC Cymru. Rhan ‘y llanc’.
1972-79
Creu ac actio rhan Syr Wynff ap Concord y Bos yn Teliffant, BBC Cymru - 20 rhaglen y flwyddyn.
1979
Garej Syr Wynff, Crochendy Syr Wynff a Teliffant, ffilmiau byr Bwrdd Ffilmiau Cymraeg.
Gwaed ar y Sêr gan Wil Sam, rhan Yr Inspector.
1980-81
Dwy gyfres Siop Siafins gan Dyfed Thomas, BBC Cymru. Rhan Mr Prys.
Cyfres ysgolion ‘Ffenestri, BBC Cymru.
1980-89
Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan, S4C, Cwmni Teledu Burum a Ffilmiau Llifon. Rhan Syr Wynff.
1981
Rhaglen nodwedd am Universal Studios, S4C drwy Kine Merlin.
1985
Byw’n Rhydd gan Emyr Humphreys, S4C drwy Ffilmiau Bryngwyn. Rhan Dr Jolly.
1985-91
Sioe sebon Dinas, S4C drwy HTV. Rhan Robin Gregory.
1986
Ffilm Nadolig Grym Ewyllys, S4C drwy Ffilmiau Llifon. Rhan Syr Wynff. (Wedi ei rhyddhau ar DVD.)
Siarabang, S4C drwy Ffilmiau’r Nant.
1987
Sôn am Siarabang, S4C drwy Ffilmiau’r Nant.
Cyfle Byw, S4C drwy HTV.
1991
Now you’re Talking, S4C drwy Cwmni Fflic.
1993
Fallen Sons gan Ed Thomas, BBC Playhouse Wales. Rhan Uncle Frank.
Pirates a Môr Ladron, S4C a Discovery drwy Psychology News. Rhannau Avery a Wragg.
Glan Hafren, S4C drwy HTV. Rhan Simon Lyons.
Môr a mynydd gan Angela Roberts, S4C drwy gwmni Llun y Felin. Rhan Peredyr Meredydd.
1994
Heliwr a A Mind to Kill, S4C a Sky drwy Lluniau Lliw. Rhan Geoff Symonds.
Halen yn y Gwaed, S4C drwy Gwmni Opus. Rhan Trystan.
Arddangosfa AVE Realisation ar gyfer Celtica ym Machynlleth. Rhan Y Derwydd.
1994-95
3ydd cyfres Glan Hafren, S4C drwy HTV. Rhan Simon Lyons.
1995
Rhyw Amser Cinio gan William R. Lewis a Gwenllian Carr, BBC Cymru. Rhan Frank.
Streetlife gan Karl Frances, BBC2. Rhan y seiciatrydd.
Guardian Angel gan Peter Lloyd. Cyfres yr Heliwr/A Mind to Kill, S4C/Sky gan Lluniau Lliw. Rhan Spencer Jones.
Lleifior 2, Ffilmiau’r Tþ Gwyn. Rhan tad Llinos.
1996
Dim Cliw, Cwmni Telesgop. Rhan Eli.
4edd cyfres Glan Hafren gan Delyth Jones. Rhan Simon Lyons.
1996/7
Iechyd Da gan Lluniau Lliw, S4C. Rhan y prifathro, Glyn Jones.
1997
Canllath o Gopa’r Mynydd, drama nodwedd ar Sir Charles Evans i Gwmni Cambrensis. Rhan Syr Huw Wheldon.
Y Glas gan Siôn Eirian, S4C drwy Gwmni Boda. Rhan Lyndon Williams.
Talk About, rhaglen i ddysgwyr, HTV. Rhan yr Inspector.
Drama ddogfen The man who never was, S4C, Cwmni Cambrensis. Rhan yr holwr.
Drama gyfres Departures, HTV. Rhan y capten.
1998
Drama gyfres Cerddwn Ymlaen gan Mei Jones. Rhan Bryn Hill.
Porc Pei, ffilm Nadolig S4C gan Wynford Ellis Owen. Cynhyrchiad Cwmni Cambrensis. Rhan Y Parch. Donald Parry.
Enillodd y ffilm hon y brif wobr yng Ngðyl Ffilmiau Rhyngwladol Vürzburg, ac mae wedi ei rhyddhau ar DVD gan S4C.
1999
Porc Peis Bach gan Wynford Ellis Owen, S4C, drwy Gwmni Cambrensis. Rhan Donald Parry yn y gyfres gyntaf.
2000
Cyfres dysgwyr Let’s Talk Welsh. Rhan Dr. Dylan Griffiths.
2il gyfres o Porc Peis Bach. Rhan Donald Parry.
2001
3ydd cyfres Porc Peis Bach, Cwmni Cambrensis i S4C.
Cyfres The Magistrate, BBC Wales. Rhan Bob.
2002
4edd gyfres PorcPeis Bach.
Jacob’s Ladder, cyfres ddrama wedi’i seilio ar storïau o’r Hen Destament, HTV/Story Works Ltd.
2003-05
5ed a 6ed cyfres Porc Peis Bach.
2005
Margaret Williams, S4C am fywyd yn saithdegau’r ganrif hon. Perfformio Monolog.

Cyflwyno[golygu | golygu cod]

1972-73
Cwis Stesion Cantamil, HTV.
1976-77
Cwis Olwynion, BBC Cymru.
Darllediad allanol Eisteddfod yr Urdd y Barri, BBC Cymru.
1998
Cwis Pendroffobia, S4C drwy HTV. Cyflwyno dwy gyfres
2000
Dechrau Canu Dechrau Canmol. Cyflwyno ei hoff emynau.
2001
Cestyll Cymru, Antenna Audio a Chwmni Cambrensis. Sylwebaeth.

Llais[golygu | golygu cod]

1975-76
Cyfres bypedau plant Fyny Fana, HTV. Llais Taran.
1986
Cartŵn Siôn Blewyn Coch gan Rosanne Reeves, S4C drwy Atsain/Siriol. Llais Eban.
1994
Cyfres animeiddio Richard 3 gan William Shakespeare, BBC/S4C. Llais Hastings.
1996
Animeiddiad Testament, S4C, Cartwn Cymru/Christmas Films. Llais Jona.
1999
Cðr y Gwyrthiau, S4C, Cartwn Cymru/Christmas Films. Llais Y Diafol.

Arall[golygu | golygu cod]

1969-71
Rheolwr llawr cynorthwyol, BBC Cymru. Adrannau newyddion a materion cyfoes, adloniant ysgafn a drama.
1979-84
Un o gyfarwyddwyr cwmni goleuo diwydiant ffilm a theledu M.W.G. Lighting.
Cadeirydd Cwmni Teledu Burum – cwmni teledu annibynnol.
1982-83
Rhaglen sgwrs Ond o ddifri Madam Sera!, S4C drwy Gwmni Teledu Burum. Cynhyrchu a chyfarwyddo.
1982
Cyfres ddrama ysgafn 8 bennod, Bysus Bach y Wlad, gan Hari Parry a Gareth Maelor, S4C drwy Gwmni Teledu Burum. Cyfarwyddo.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Manylion cyfarwyddwr 'Theatr y Byd'. Adalwyd ar 1 Chwefror 2016.
  2. 2.0 2.1 Derbyn Geraint Jarman a George North i’r Orsedd , Golwg360, 4 Mai 2017. Cyrchwyd ar 12 Medi 2017.
  3. Wynford Ellis Owen reveals his road to addiction (en) , WalesOnline, 10 Tachwedd 2008. Cyrchwyd ar 12 Medi 2017.
  4.  Stafell Fyw Caerdydd - Ein tîm. Stafell Fyw. Adalwyd ar 12 Medi 2017.
  5. Stafell Fyw Caerdydd – ehangu i’r gogledd a’r gorllewin , Golwg360, 31 Awst 2017. Cyrchwyd ar 12 Medi 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]