Wrexham Lager

Oddi ar Wicipedia
Wrexham Lager
Math
busnes
Sefydlwyd1881
PencadlysWrecsam
Cynnyrchcwrw
Y tegell brag
Tegell brag gwlyb a gorsaf werthyd

Bragdy cwrw lager hynaf gwledydd Prydain oedd Wrexham Lager ac roedd y lager yn un o'r cyntaf i gael ei allforio'n fyd-eang[angen ffynhonnell]. Cafodd y bragdy gwreiddiol ei sefydlu yn Island Green, Wrecsam, gan Ivan Levinstein ac Otto Isler, mewnfudwyr o'r Almaen.[1] Doedd eu daeargelloedd ddim yn ddigon oer i gadw lager, ond cyfarfuont Robert Graesser, a weithiodd yn y gwaith cemeg yn Acrefair. Ymunodd â'r cwmni a chyflwynodd beirianwaith oeri newydd. Yn anffodus, doedd yna ddim llawer o gyfleon i werthu'r lager; doedd neb yn yfed lager yng Ngogledd Cymru, ac roedd problem â thafarnau clwm, felly caewyd y bragdy. Ond ail-ddechreuodd Graesser y cwmni, ac roedd yn llwyddiant. Prynodd Ind Coope y cwmni ym 1949; mae bellach wedi troi'n Allied Breweries ac wedyn yn Carlsberg Tetley. Caewyd y bragdy yn 2000, a chynhyrchwyd y lager olaf yn 2002. Ail-ddechreuwyd cynhyrchu Wrexham Lager yn Wrecsam yn 2011.[2]

Atgyfodi[golygu | golygu cod]

Yn 2001, roedd Martyn Jones, Aelodd Seneddol dros De Clwyd ar y pryd, wedi prynu'r hawliau dros Wrexham Lager oddi wrth Carlsberg am bunt; arferai fod yn ficrobiolegydd yn y bragdy. Cyfarfu â Mark Roberts ac Ian Dale. Roedd Mark yn awyddus i ailddechrau bragu Wrecsam lager, ac roedd gan ei deulu adeiladau addas i'w troi'n fragdy. Ian oedd prif fragwr yr hen gwmni.

Cyrhaeddodd y peirianwaith ym Mai 2011, a chafodd y lager ei lansio ym mis Hydref canlynol.[3] Y tafarn cyntaf i brynu'r lager oedd Y Buck ym Mangor is y Coed[1].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Gwefan y BBC
  2. Hanes Wrexham Lager Archifwyd 2012-11-22 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 18 Mai 2014
  3. Hanes Wrexham Lager Archifwyd 2012-11-22 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 27 Awst 2014

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]