Wonder Woman (ffilm 2017)

Oddi ar Wicipedia
Wonder Woman
Cyfarwyddwyd ganPatty Jenkins
Cynhyrchwyd gan
SgriptAllan Heinberg
Stori
Seiliwyd arWonder Woman gan
William Moulton Marston
Yn serennu
Cerddoriaeth ganRupert Gregson-Williams[1]
SinematograffiMatthew Jensen
Golygwyd ganMartin Walsh
Stiwdio
Dosbarthwyd ganWarner Bros. Pictures
Rhyddhawyd gan
  • 15 Mai 2017 (2017-05-15) (Shanghai)
  • 2 Mehefin 2017 (2017-06-02) (Unol Daleithiau)
Hyd y ffilm (amser)141 munud[2][3]
GwladUnol Daleithiau America
IaithSaesneg
Cyfalaf$149 miliwn[4]
Gwerthiant tocynnau$768 miliwn[4]
 Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.


Mae Wonder Woman yn ffilm archarwr Americanaidd wedi'i seilio ar y cymeriad DC Comics o'r un enw, a ddosbarthir gan Warner Bros. Pictures. Dyma'r bedwaredd gyfrol o'r Bydysawd Estynedig DC. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Patty Jenkins, gyda sgript ffilm gan Allan Heinberg, o stori gan Heinberg, Zack Snyder a Jason Fuchs. Yn actio yn y ffilm mae Gal Gadot, Chris Pine, Robin Wright, Danny Huston, David Thewlis, Connie Nielsen ac Elena Anaya. Wonder Woman yw'r ail ffilm theatrig gweithred byw sy'n cynnwys y cymeriad teitlog yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf yn ffilm 2016 Batman v Superman: Dawn of Justice. Mae rôl Jenkins fel cyfarwyddwr yn ei gwneud y cyfarwyddwr benywaidd cyntaf o ffilm nodwedd archarwr gan stiwdio.[5]

Wedi'u osod yn 1918, mae'r ffilm yn adrodd stori y Dywysoges Diana (Gadot), sydd yn cael ei magu ar ynys yr Amasoniaid, Themyscira. Wedi i'r peilot Americanaidd Steve Trevor (Pine) gael damwain a glanio ar fôr yr ynys a chael ei achub gan Diana, mae ef yn esbonio wrthi am y Rhyfel Byd. Mae hi yn gadael ei chartref er mwyn dod a'r gwrthdaro i ben, gan ddod yn Wonder Woman yn y broses. Dechreuodd ddatblygiad y ffilm yn 1996, gyda Jenkins yn cael ei hychwanegu i gyfarwyddo yn 2015. Dechreuodd y prif ffotograffiaeth ar 21 Tachwedd 2015, gyda ffilmio yn digwydd yn y Deyrnas Unedig, Ffrainc ac yr Eidal cyn dod i ben ar 9 Mai 2016. Digwyddodd ffilmio ategol yn Tachwedd 2016. 

Dangoswyd Wonder Woman am y tro cyntaf yn Shanghai ar 16 Mai 2017 ac fe'i rhyddhawyd yn yr Unol Daleithiau ar 2 Mehefin 2017 mewn 2D, 3D, ac IMAX 3D. Derbyniodd adolygiadau positif gan feirniaid, gyda nifer yn canmol cyfarwyddyd Jenkins, perfformiad Gadot a Pine ynghyd â'r sgript a'r sgôr gerddorol. Gosododd y ffilm record am yr agoriad ddomestig fwyaf ar gyfer cyfarwyddwr benywaidd ($103.3. miliwn) a'r agoriad mwyaf ar gyfer ffilm llyfr-gomic a arweinir gan fenyw. Fe wnaeth y ffilm dros $583 miliwn ledled y byd, yn ei wneud yn y chweched ffilm a enillodd fwyaf yn 2017.

Plot[golygu | golygu cod]

Ym Mharis, yn y presennol, mae Diana Prince yn derbyn llun o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf gan Wayne Enterprises ac mae'n atgoffa o'i gorffennol. 

Fe aned a magwyd Diana ar yr ynys gudd o Themyscira, cartref i'r hil Amazon o ferched rhyfelgar a grewyd gan dduwiau Mynydd Olympus i amddiffyn y dynol ryw. Yn y gorffennol pell, lladdodd Ares, duw rhyfel, ei gyd-dduwiau, ond fe'i darwyd i lawr gan ei dad Zeus. Cyn ildio i'w anafiadau, gadawodd Zeus yr Amazons gydag arf oedd yn gallu lladd ei fab wrthgiliol: y 'Godkiller', a gredai Diana i fod yn gleddyf seremonïol. Mae'r Frenhines Hippolyta o'r gred na fydd Ares yn dychwelyd ac yn gwahardd Diana rhag hyfforddi fel rhyfelwr, ond mae Diana a'r modryb General Antiope yn herio'r frenhines ac yn dechrau hyfforddi yn gyfrinachol. Pan ddarganfyddwyd y ddwy gan Hippolyta mae Antiope yn argyhoeddi ei chwaer i ganiatai i hyfforddiant Diana barhau. 

Fel menyw ifanc, mae Diana yn achub peilot Americanaidd, Capten Steve Trevor wedi i'w awyren ddod i lawr ar arfordir Themyscira. Mae'r ynys yn fuan yn cael ei ymosod arno gan griw llong-rhyfel Almaeneg sy'n erlyn Steve. Mae'r Amazons yn ymyrryd ac yn lladd yr holl forwyr Almaenaidd, ond mae Antiope yn marw wrth rhyngdori bwled a fwriadwyd at Diana. Wedi'i holi gan Lasw Hesita, mae Steve yn datgelu bod y Rhyfel Byd Cyntaf yn cynddeirio yn y byd allanol, ac ei fod ef yn ysbïwr Gyngrheiriol. Fe gipiodd lyfr nodiadau gyda gwybodaeth gwethfawr gan y prif gemegydd Sbaeneg Isabel Maru, sydd yn ceisio peiriannu ffurf mwy marwol o nwy mwstard o dan gyfarwyddiadau General Erich Ludendorff o gyfleustr arfau Ymerodraeth yr Otomaniaid. Yn credu bod Ares yn gyfrifol am yr rhyfel, mae Diana  yn arfu ei hunan gyda'r gleddyf seremonïol ac yn gadael Themyscira gyda Steve i ddarganfod a dinistrio Ares. 

Pan mae'r ddau yn cyrraedd Llundain, maent hwy yn cyflwyno llyfr nodiadau Maru i'r Cyngor Rhyfel Goruchaf, gan gynnwys Syr Patrick Morgan sy'n ceisio negodi cadoediad gyda'r Almaen. Mae Diana yn cyfieithu nodiadau Maru ac yn datgelu bod yr Almaenwyr yn cynllunio rhyddhau'r nwy marwol yn y rhyfel. Er fe'i rhwystrwyd gan ei orchmynwyr i weithredu, mae Steve, gyda cyllideb cyfrinachol gan Syr Patrick, yn recriwtio ysbiwr Sameer, marciwr Charliw, a smyglwr Chief i helpu atal y nwy rhag cael ei rhyddhau. Pan mae'r tim yn cyrraedd y Ffrynt Gorllewinol ym Melg, maent yn cael eu hatal gan linellau'r gelyn, ond mae Diana yn gwthio heibio trwy dir neb ac yn ralïo'r grymoedd Cyngrheiriol tu ôl iddi i rhyddhau'r pentref o Veld. Mae'r tim yn dathlu ac yn cymryd y llun grwp oedd ar ddechrau'r ffilm. Yn hwyrach y noson hynny mae Diana a Steve yn bondio ac yn rhanny cusan. 

Mae'r tim yn dysgu bod gala yn digwydd yn yr Uwch-Orchymyn Almaeneg gerllaw. Mae Steve yn ymdreiddio'r parti, gan fwriadu datguddio'r nwy a'i ddinistrio. Ond cred Diana mai Ludendorff yw Ares ac fe fydd y Rhyfel yn dod i ben wrth ei ladd. Mae Steve yn ei atal rhag peryglu'r dasg. Mae Ludendorff yn rhyddhau'r nwy ar Veld, yn lladd ei drigolion. Mae Diana yn beio Ludendorff am ymyrryd ac yn dilyn Ludendorff at wersyll lle mae'r nwy yn cael ei lwytho ar i Zeppelin-Staaken R.VI sy'n anelu am Lundain. Mae Diana yn ymladd ac yn lladd Ludendorff, ond mae'n drysu pan nad yw hyn yn dod a'r rhyfel i ben. 

Mae Syr Patrick yn ymddangos ac yn datgelu ei hun i fod yn Ares. Mae'n dweud wrth Diana er iddo roi syniadau ac ysbrydoliaeth cynnil i'r ddynol rhyw, yn y pendraw eu penderfyniad hwy ydyw i achosi trais gan eu bod nhw yn gynhenid llygredig. Wedi dinistrio'r gleddyf seremonïol, mae Ares yn dweud wrth Diana mai hi yw'r gwir 'Godkiller' gan mai hi yw merch Zeus. Mae Ares yn ceisio perswadio Diana i'w helpu ef i ddinistrio dynol ryw ac i adfer y Ddaear fel paradwys. Tra mae'r ddau yn brwydro ac mae gweddill tim Steve yn dinistrio labordy Maru, mae Steve yn peiloti'r awyren sy'n cario'r nwy at uchder diogel ac yn ei ffrwydro, yn aberthu ei hun yn y broses. Mae Ares yn ceisio harnesi dicter a galar Diana wrth ei argyhoeddi i ladd Maru, ond mae atgofion Diana o Steve yn ei hysbrydoli i benderfynu bod daioni yn bodoli o fewn dynol ryw, ac mae hi'n sbario Maru cyn dinistrio Ares. Yn Llundain, mae'r genedl yn dathlu diwedd y rhyfel. 

Yn y diwrnod presennol, mae Diana yn danfon e-bost at Bruce Wayne yn diolch iddo am y llun ohoni hi a Steve ac yn cadarnhau ei nod o amddiffyn y byd fel Wonder Woman. Hudson, M. (June 5, 2017). "The New 'Wonder Woman' Is Really A Story About Jesus". The Federalist.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Davis, Edward (November 3, 2016). "Exclusive: Stream Track From Rupert Gregson-Williams' 'Hacksaw Ridge' Score, Composer Talks 'Wonder Woman,' Mel Gibson, More". The Playlist. Cyrchwyd November 3, 2016.
  2. "Wonder Woman". Consumer Protection BC, Canada. May 5, 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-19. Cyrchwyd May 6, 2017.
  3. "Wonder Woman". British Board of Film Classification. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-25. Cyrchwyd May 25, 2017.
  4. 4.0 4.1 "Wonder Woman (2017)". Box Office Mojo. IMDb. Cyrchwyd July 19, 2017.
  5. Hudson, M. (June 5, 2017). "The New 'Wonder Woman' Is Really A Story About Jesus". The Federalist.