Windermere

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Windermere

Y llyn naturiol mwyaf yn Lloegr ydy Llyn Windermere (Saesneg: Windermere neu Lake Windermere).

Ffurfiwyd y llyn rubanog ei ffurf mewn cafn rhewlifol wedi’r rhew gilio ar gychwyn y cyfnod rhyngrewlifol presennol, sef 12,000 o flynyddoedd yn ôl. Lleolir y llyn ger Windermere, Cumbria ac mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd.

Ers i linell rheilffordd Kendal a Windermere agor ym 1847, mae’r ardal o amgylch y llyn wedi tyfu i fod yn un o ardaloedd mwyaf poblogaidd ym Mhrydain ar gyfer ymwelwyr a thai haf.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


County Flag of Cumbria.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Cumbria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato