Willington Wrddymbre

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Egwlys Sant Deiniol, Wrddymbre

Cymuned ym mwrdeisdref sirol Wrecsam yw Willington Wrddymbre (Saesneg: Willington Worthenbury). Mae'n cynnwys pentrefi Wrddymbre a Talwrn Green, ac roedd y boblogaqeth yn 2001 yn 730.

Saif ar ochr ddwyreiniol afon Dyfrdwy ym Maelor Saesneg, yn agos i'r ffîn a Lloegr. Yma mae'r ganran isaf o siaradwtr Cymraeg yn sir Wrecsam, gyda 88.81% heb wybodaeth o'r iaith yn 2001.

Cysegrwyd eglwys Wrddymbre i Sant Deiniol; mae'n adeilad cymharol ddiweddar, yn dyddio o 1939. I'r de o'r pentref, roedd Plas Emral, catref teulu dylanwadol Puleston, a ddymchwelwyd yn 1936. Bu'r bardd R. S. Thomas yn giwrad yn Tallarn Green yn y 1940au.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Willington Wrddymbre (pob oed) (827)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Willington Wrddymbre) (47)
  
5.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Willington Wrddymbre) (277)
  
33.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Willington Wrddymbre) (70)
  
21.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013