William Thomas (Islwyn)

Oddi ar Wicipedia
William Thomas
FfugenwIslwyn Edit this on Wikidata
Ganwyd3 Ebrill 1832 Edit this on Wikidata
Ynys-ddu Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 1878 Edit this on Wikidata
Ynys-ddu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg y Bont-faen Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
Am ddefnydd arall o'r enw Islwyn gweler yma.

Bardd o Gymro oedd William Thomas (3 Ebrill 183220 Tachwedd 1878), sy'n adnabyddus wrth ei enw barddol Islwyn. Fe'i ganed ger yr Ynys-ddu yng Ngwent (Bwrsdeisdref Sirol Caerffili).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Islwyn yn fab i Morgan a Margaret Thomas, yr ieuengaf o naw plentyn. Cafodd ei eni mewn tŷ ger pentref bychan Yr Ynys Ddu, yn Nyffryn Sirhywi, hanner ffordd rhwng Tredegar a Chasnewydd, wrth droed Mynydd Islwyn, ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.

Y tŷ lle ganed Islwyn.

Roedd ei rieni'n weddol gefnog a chafodd addysg yn ysgolion Tredegar, Casnewydd, Y Bont Faen ac Abertawe. Bwriedid iddo fod yn dirfesurydd. Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe cyfarfu â merch ieuanc o'r enw Anne Bowen. Roeddent yn bwriadu priodi ond bu farw Anne ar 24 Hydref 1853 yn ddisymwth iawn, yn ugain oed; mae ôl y brofedigaeth honno a'r hiraeth a ddeilliodd ohoni i'w weld ar lawer o waith Islwyn.

Cafodd Islwyn droedigaeth grefyddol a dechreuodd farddoni mewn difrif. Yn 1854 dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid; fe'i ordeiniwyd yn 1859. Priododd Martha Davies o Abertawe yn 1864. Bu farw ar 20 Tachwedd, 1878, yn 46 oed. Nid anghofiodd ei gariad gyntaf gydol ei oes. Yn ôl un tyst, ei eiriau olaf oedd, "Diolch i ti, Martha, am y cyfan a wnest i mi. Buost yn garedig iawn. 'Rwyf yn mynd at Anne 'nawr".

Claddwyd ef yng Nghapel y Babell,[1] yng Nghwmfelinfach.

Mae amgueddfa goffa i Islwyn yng Nghapel y Babell, ger Ynys-ddu, yng ngofal Cymdeithas Goffa Islwyn.

Cymeriad[golygu | golygu cod]

Cartref Islwyn (y tŷ olaf ar y dde) wrth droed Mynydd Islwyn

Dyma'r portread o Islwyn a rydd ei gyfaill oes Daniel Davies ohono:

"Bychan ydoedd o gorffolaeth, ac ysgafn, tua phump troedfedd a chwech modfedd o daldra; yr oedd o bryd tywyll, a'i ymddangosiad yn llednais a gwylaidd; yr oedd y pen yn fawr... Yr oedd y wyneb yn hir, ac yn hardd, a'r trwyn yn lluniaidd, heb fod yn fawr, a'r gwefusau hytrach yn drwchus, a thoriad y genau'n brydferth; yr oedd y talcen yn fawr iawn... yr oedd y llygaid, y rhai oeddynt yn llechu o dan aeliau trymion, yn llawn, yn fawrion, a disglaer, a'u trem ymhell."[2]

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Islwyn, tua 1875
Cadair Islwyn yn eisteddfod Caerffili 1874

Dechreuodd gyfansoddi barddoniaeth yn gynnar. Ei brif athrawon barddol oedd Gwilym Ilid, ei weinidog a'i frawd yng nghyfraith Daniel Jenkyns ac Aneurin Fardd. Cystadleuai yn yr eisteddfodau lleol a'r Eisteddfod Genedlaethol ac enillodd y goron am ei awdl ar "Carnhuanawc" yn Eisteddfod Y Fenni yn 1853. Enillodd amryw gadeiriau; yn Y Rhyl am awdl "Y Nos" yn 1870, yng Nghaergybi am awdl "Moses" yn 1872, yng Nghaerffili am awdl "Cartref" yn 1874 ac yn Nhreherbert am awdl "Y Nefoedd" yn 1877.

Cyfrannai'n gyson i'r cylchgronau, e.e. Y Traethodydd, Y Drysorfa, Y Dysgedydd a'r Cylchgrawn. Yn 1854 cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf, Barddoniaeth. Bu'n olygydd ar Y Cylchgrawn, Yr Ymgeisydd, Y Glorian a'r Gwladgarwr ac ar golofnau barddoniaeth Y Faner a'r Cardiff Times.

Nodweddir gwaith Islwyn ar ei orau gan gyfriniaeth feiddgar a delweddau ysbrydoledig. Cofir y bardd yn bennaf am ei awdl hir, uchelgeisiol a dylanwadol "Y Storm", sy'n fyfyrdod ar Natur, y Greadigaeth a ffawd dyn. Lluniwyd y gerdd yn syth ar ôl marwolaeth Anne Bowen. Dyma'r llinellau agoriadol:

Pa bryd, O Natur deg, y'th ddysgwyd di
Fyth bythoedd i wedd-newid, ac i roi
I'r tawel a'r ystormus ar dy wedd
Gellweirio fyth, a bythol watwar dyn,
Rhy watwaredig eisoes, nes ei gael
Yn uchel ar y mynydd neu y môr...[3]
Nodwyd ar y ffotograff hwn o 1878: 'Cwmni o Gymmrodorion Caerdydd ar lan bedd Islwyn'

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

Cerddi
  • Barddoniaeth (1854)
  • Caniadau (1867)
  • Gwaith Barddonol Islwyn, gol. Owen M. Edwards (Wrecsam, 1897)
  • Gwaith Islwyn Cyfres y Fil gol. Owen M. Edwards (Ab Owen, Llanuwchllyn 1903)
  • Detholiad o waith Islwyn, gol. J. T. Jones (1932)
  • Y Storm, gol. Meurig Walters (1980)
Astudiaethau

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://ogre-blog.blogspot.com/2006/03/babel-chapel-cwmfelinfach-burial-place.html
  2. o'r rhagymadrodd i Gwaith Barddonol Islwyn, gol. Owen M. Edwards (Wrecsam, 1897).
  3. Y Storm, gol. Meurig Walters (1980).
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: