William Robert Grove
Oddi ar Wicipedia
Ffisegydd Cymreig oedd William Robert Grove (11 Gorffennaf 1811 – 1 Awst 1896). Yn enedigol o Abertawe, ef oedd dyfeisiwr y gell danwydd a gwnaeth lawer o waith ar gadwraeth egni. Roedd hefyd yn gyfreithiwr ac yn farnwr.