William Griffith (Gwilym Lerpwl)

Oddi ar Wicipedia
William Griffith
FfugenwGwilym Lerpwl Edit this on Wikidata
Ganwyd1849 Edit this on Wikidata
Penysarn, Ynys Môn Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mawrth 1890 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg oedd William Griffith (1849 - 12 Mawrth 1890), a adnabyddid wrth ei enw barddol Gwilym Lerpwl. Roedd yn frodor o Ynys Môn. Ei hoff gyfrwng oedd yr englyn.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Gwilym ym mhentref Penysarn ym mhlwyf Llaneilian, Sir Fôn yn 1849. Ychydig o addysg ffurfiol a gafodd. Aeth i chwilio am waith yn Lerpwl pan yn ifanc. Cafodd waith fel gofalwr adeilad mawr y 'Westminster Chambers' yn y ddinas honno. Dioddefodd iechyd gwael am flynyddoedd. Bu farw ar y 12fed o Fawrth, 1890.[1]

Englynwr[golygu | golygu cod]

Dechreuodd farddoni dan yr enw "Gwilym" yn unig; golygydd Y Genedl Gymreig a ychwanegodd "Lerpwl" i'w enw barddol. Yr englyn oedd hoff fesur y bardd a chyhoeddwyd rhai cannoedd o'i englynion dros y blynyddoedd, mewn cylchgronau a phapurau newyddion Cymraeg ac mewn blodeugerddi. Un gyfrol yn unig a gyhoeddodd y bardd ei hun, sef Y Llusern (1886).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 R. Môn Williams, Enwogion Môn 1850-1912 (Bangor, 1913).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]