William Frame

Oddi ar Wicipedia
William Frame
Ganwyd1848 Edit this on Wikidata
Castell Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farwEbrill 1906 Edit this on Wikidata
Castell Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAdeilad y Pierhead Edit this on Wikidata

Pensaer o Sais oedd William Frame (1848 – Ebrill 1906), a weithiodd yng Nghaerdydd yn gyntaf o dan William Burges, o 1868 ymalen, ac o 1881 hyd 1906 fel olynydd Burges yn brif pensaer i John Crichton-Stuart, 3ydd Ardalydd Bute. Ar ôl prentisiaeth o bum mlynedd yn Trowbridge, Wiltshire, daeth Frame yn gynorthwywr i John Prichard yn Llandaf. Ym 1868 aeth i weithio i William Burges ac ym 1876 ef oedd yn goruchwylio dros atgyweiriad Castell Coch.

Wedi marwolaeth Burges ym 1881 daeth Frame yn brif pensaer Ardalydd Bute a parhaodd yn y swydd tan ei farwolaeth. Frame a gynlluniodd Wal yr Anifeiliaid, a safai o flaen Castell Caerdydd yn wreiddiol, yn seiliedig ar syniad gan ei ragflaenydd. Ym 1896 cynlluniodd Frame ei gampwaith, Adeilad y Pierhead yn nociau Caerdydd, ar gyfer Cwmni Dociau Bute. Cafodd lawer o waith hefyd ar ystadau Bute yn yr Alban.[1]

Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd
Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) William Frame. Dictionary of Scottish Architects. Adalwyd ar 14 Rhagfyr 2013.