William Davies (offeiriad)

Oddi ar Wicipedia
William Davies
GanwydUnknown Edit this on Wikidata
Bae Colwyn Edit this on Wikidata
Bu farw27 Gorffennaf 1593 Edit this on Wikidata
Biwmares Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Eglwys Gadeiriol Reims Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig Edit this on Wikidata

Merthyr ac offeiriad Catholig o Gymro a ganoneiddwyd yn 1987 oedd William Davies (m. 27 Gorffennaf 1593). Fe'i cofir am ei ran yng nghyhoeddi Y Drych Cristianogawl, y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Davies yng Nghroes-yr-Eirias (rhan o dref Bae Colwyn heddiw) yn yr hen Sir Ddinbych. Mae ei ddyddiad geni yn anhysbys. Cafodd ei urddo'n offeiriad Catholig yn 1585 ar adeg pan fu erledigaeth ar Gatholigion yng Nghymru a Lloegr ar ôl i Harri VIII o Loegr greu Eglwys Loegr a'i throi'n unig eglwys wladol y deyrnas.

Roedd gan Davies gysylltiad a'r Puwiaid o Hen Neuadd Penrhyn ger Rhiwledyn. Roedd y teulu yn Gatholigion pybyr. Ar 14 Ebrill 1587, cafwyd hyd i wasg gudd ar gyfer llenyddiaeth Gatholig mewn ogof ar Riwledyn, a gafodd ei defnyddio gan Robert Pugh o'r Penrhyn a William Davies (ac eraill) i argraffu Y Drych Cristianogawl (gan Robert Gwyn neu, yn fwy tebygol, Gruffydd Robert). Llochasant yno i geisio dianc yr erledigaeth ar Gatholigion a gychwynwyd gan Elisabeth I, brenhines Lloegr, ym Mai 1586. Darganfuwyd yr ogof tua dwy flynedd ar ôl cyhoeddi'r Ddrych ond roedd pawb wedi dianc.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Yn ddiweddarach cafodd William Davies ei ddal gan yr awdurdodau a threulio blwyddyn yn y carchar ym Miwmares a'i ddienyddio wedyn trwy ei grogi, diberfeddu a'i chwarteru yng Nghastell Biwmares ar 27 Gorffennaf, 1593. Roedd y Cymry lleol wedi gwrthod cymryd rhan yn y prawf a'r dienyddiad a bu rhaid anfon am ddynion o Gaer i ddienyddio Davies. Dosbarthwyd rhannau o'i gorff i'w gosod ar gestyll Biwmares, Conwy a Chaernarfon.

Canoneiddio[golygu | golygu cod]

Yn 1987 roedd William Davies ymhlith y merthyron o Gymru a Lloegr a ganoneiddwyd gan y Pab mewn gwasanaeth arbennig yn Rhufain. Yn yr un flwyddyn creuwyd ysgol gynradd newydd yn Llandudno a gafodd ei henwi'n 'Ysgol y Bendigaid William Davies' er anrhydedd iddo.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]