William Curtis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd William Curtis (11 Ionawr 17467 Gorffennaf 1799) yn fotanegwr Saesneg ac yn entomolegydd. Fe'i ganwyd yn Alton, Hampshire.

Dechreuodd gyrfa Curtis fel apothecari, (fferyllydd heddiw) cyn ymrwymo i fotaneg a hanes naturiol. Daeth ei gyhoeddiadau yn boblogaidd iawn ac yn wir enillodd ei fywoliaeth drwyddynt. Datblygodd y tuedd i gyhoeddi ar gyfer amaturiaid brwd yn y 18fed ganrif. A phan oedd yn 25 mlwydd oed cyhoeddodd y llawlyfr Instructions for collecting and preserving insects; particularly moths and butterflies. Addurnwyd y llyfr â lluniau plât-copr, yn dangos yn glir y rhwydi ac offer angenrheidiol.

Cafodd waith fel dangosydd planhigion a Praefectus Horti (prif-arddwr) yn y Chelsea Physic Garden o 1771 i 1777, swydd o bwys ar y pryd. Wedyn sefydlodd ei erddi ei hun, sef y London Botanic Garden yn Lambeth erbyn 1779, cyn symud i erddi yn Brompton ym 1789. Ei waith pwysicaf oedd Flora Londinensis (6 chyfrol rhwng 1777 a 1798), gwaith arloesol a ffocws ar fywyd gwyllt yn y ddinas. Er nad oedd yn llwyddiant masnachol, aeth ymlaen i gyhoeddi The Botanical Magazine ym 1787, gyda phlatiau lliwgar gan artistiaid a ddaeth yn enwog nes ymlaen e.e. gan James Sowerby, Sydenham Edwards, ac William Kilburn.

Daeth Curtis yn gyfoethog a gwerthwyd rhyw 3,000 o gopïau o'i lyfrau. Er clod i'w gyfraniad i boblogeiddio botaneg, enwir y genws Curtisia ar ei ôl. Wedi ei farwolaeth, ailenwyd y cylchgrawn, Curtis's Botanical Magazine. Cylchgrawn Gerddi Kew ydy e erbyn heddiw, o dan yr un enw.

Mae ffenestr liw er cof amdano yn St. Mary's Church, Battersea, ardal lle casglwyd llawer o samplau. Mewn cyhoeddiadau gwyddonol, rhestrir planhigion a ddisgrifiwyd ganddo gyda'r ansoddair "Curtis". Yn yr 1980au, sefydlwyd y William Curtis Nature Park gan y Trust for Urban Ecology, ond erbyn heddiw, mae Neuadd y Ddinas, Llundain, yn sefyll ar y tir hwnnw.

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni[golygu]