William Brace

Oddi ar Wicipedia
William Brace
Ganwyd23 Medi 1865 Edit this on Wikidata
Rhisga Edit this on Wikidata
Bu farw12 Hydref 1947 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethundebwr llafur, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
William Brace ym 1906

Gwleidydd ac arweinydd undeb Cymreig oedd William Brace (23 Medi 186512 Hydref 1947) a oedd yn Llywydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru rhwng 1912 ac 1915. Roedd hefyd yn Aelod Seneddol Lib-Lab San Steffan dros etholaeth De Morgannwg ac Abertyleri ac roedd yn lladmerydd brwd dros un undeb ar gyfer holl lowyr gwledydd Prydain a chafwyd sawl dadl gyhoeddus ynghylch hyn rhyngddo a Mabon (William Abraham). Rhwng 1915 ac 1919 roedd yn is-ysgrifennydd yn y Swyddfa Gartref.[1]

Cafodd ei eni yn Rhisga yn yr ardal lofaol o Sir Fynwy yn un o chwech o blant.[2] Wedi cyfnod yn yr ysgol gynradd aeth i weithio i bwll glo lleol yn ddim ond 12 oed ac yna ym mhyllau Celynnen ac Abercarn. Yn 1898 cafodd ei benodi'n is-lywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru a daeth yn Llywydd rhwng 1912 ac 1925. Ym 1890 cafodd ei benodi yn asiant i Undeb Llafur De Cymru ac ychydig yn ddiweddarach yn Gynghorydd ar Gyngor Sir Fynwy.[2][3]

Priododd Nellie Humphreys yn 1890 a chawsant ddau o blant ac un ferch. Daeth y mab ieuengaf, Ivor Llewellyn Brace, yn Brif Farnwr Prif Lys Sarawak, Gogledd Borneo a Brunei.[2]

Bu farw ar ôl gwaeledd hir yn ei gartref yng Ngallt-yr-ynn, Casnewydd yn Hydref 1947 yn 82 oed.[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; Argraffwyd 2008; tudalen B89.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) "Brace, William (1865–1947), undebwr llafur". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/47328.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  3. 3.0 3.1 "Obituary: Mr. William Brace. Service In South Wales Coalfield". The Times. 14 Hydref 1947. t. 6.