Wicipedia Eidaleg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Logo'r Wicipedia Eidaleg

Fersiwn Eidaleg o Wicipedia yw'r Wicipedia Eidaleg (Eidaleg: Wikipedia in italiano). Fe'i crewyd ar 11 Mai 2001 ac fe'i golygwyd yn gyntaf ar 11 Mehefin 2001. Hi yw'r bedwaredd Wicipedia fwyaf o ran erthyglau, ar ôl y fersiynau Saesneg, Almaeneg, a Ffrangeg.

Protest 2011[golygu]

Rhwng 4 a 6 Hydref 2011, ailgyfeirwyd holl dudalennau'r Wicipedia Eidaleg i'r maniffesto hwn.

Ar 4 Hydref 2011, o ganlyniad i benderfyniad gan y gymuned, cuddiwyd holl erthyglau'r prosiect a chafodd y wici ei flocio gan weinyddwyr (er bod y fersiwn ffôn symudol dal yn hygyrch). Mabwysiadwyd hyn fel protest yn erbyn paragraff 29 o'r DDL intercettazioni (Mesur Rhyng-gipio)[1] oedd ar y pryd dan drafodaeth yn Siambr Dirprwyon Senedd yr Eidal. Byddai'r mesur arfaethedig wedi awdurdodi unrhywun sy'n credu ei fod wedi ei dramgwyddo gan gynnwys gwefan i'w orfodi i ymateb ar yr un wefan o fewn 48 awr, ac heb unrhyw werthusiad o'r cais gan farnwr. Pe bai'r mesur wedi cael ei basio yna credir y byddai yn rhoi cyfyngiadau llym ar ryddid "llorweddol" o gyrchu a golygu sy'n gyffredin ym mhrosiectau Wicifryngau. Hwn oedd y tro cyntaf i un o brosiectau Wicipedia i flancio'i holl gynnwys er mwyn protestio.[2][3][4]

Cefnogodd Sefydliad Wicifryngau penderfyniad y Wicipedia Eidaleg mewn datganiad swyddogol a ryddhawyd ar yr un diwrnod.[5] Erbyn 5 Hydref 2011, cafodd y maniffesto sy'n cymryd lle'r Wicipedia Eidaleg ei weld tua 8 miliwn o weithiau.[6] Ar 6 Hydref, ailagorodd y wefan.

Cyfeiriadau[golygu]