Wicipedia:Y Caffi/archif/15

Oddi ar Wicipedia

Archif Medi 2010 - Chwefror 2011

Fundraising 2010[golygu cod]

Hello Wikimedians,

As many of you are aware, we are now two months away from the Fundraiser for the Wikimedia Foundation, 2010. We have lofty goals, and we can meet them and exceed them!

The meta translators are already actively engaged in the annual drive to distribute our messages and we encourage you to do the same, but we would like to point everyone to the developments we've made in banner messages- from creation to commentary to the ones that will go live for test and for the drive itself in November. It's one of our goals to make sure that all volunteers know that there is a place for them in the Fundraising drive. We've started the setup on meta for both banner submission, statistical analysis, and grouping volunteers together that would like to find specific focus and work in that area.

This year the Wikimedia Foundation is taking a proactive stance in reaching out to each and every Wikimedia project and volunteer to find innovation, collaboration, and collation of ideas from the community driven process. The staff working on this is comprised of long-time Wikimedians with as much care and concern for the success of this drive as the volunteers, and we want you to actively participate and have a voice.

Use the talk pages on meta, talk to your local communities, talk to others, talk to us. Engagement is what we strive for, without each other we would never had made Wikimedia succeed. Everyone is welcome to contact any of us on staff at any time with a timely response to follow. We actively encourage focusing discussion on meta so we can all work together.

Please translate this message into your language if you can and post it below.

See you on the wiki! Keegan, WMF Fundraiser 2010 06:58, 11 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Fundraising and your wiki[golygu cod]

Greetings, please translate this message if you can.

Fundraising 2010 is preparing to start, and we want your project to be a part of the global movement to support free knowledge. The Wikimedia Foundation is engaging with local communities that build the projects to play an active part in this year's fundraiser. This year we will be working to best serve all the language communities by providing messages that are best suited for each location.

To do this, we need your help. We are testing messages and we want to be sure that our messages will work with your language. If it does not and your community can come up with your own banner in the spirit of supporting free knowledge, we invite you to submit your proposals and be active in this process. Wikimedia is for you, join us in supporting free knowledge in your local community! Keegan, WMF Fundraiser 2010 05:09, 15 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Enwau llefydd yng Nghernyw[golygu cod]

Sylwch ar fy erthygl newydd ar Borth Ia (St. Ives). Dwi ddim yn siwr p'run ai defnyddio'r enw Cernyweg (sydd yn hawdd iawn i'w dweud yn naturiol yn y Gymraeg) yntai defnyddio'r enw Saesneg (mwy cyfarwydd efallai) sydd orau? Trafodwch! Osian Llwyd 11:37, 16 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Fe sylwet fod erthyglau sy'n defnyddio'r enw Gwyddeleg am lefydd yn Iwerddon gennym hefyd. 'Sdim ots gennyf ba un rwyt yn ei ddefnyddio, ond mae'n neis i hybu'r Gernyweg, gan fod enw'r lle yn yn y ddwy iaith (Cernyweg a Saesneg). Beth am inni fynd i'r Wicipedia Cernyweg a chael rhyw fath o ddêl, fel os ein bod yn defnyddio eu henwau brodorol, wedyn gallent hefyd ddefnyddio ein henwau brodorol (Caerdydd yn lle Cardiff). Bydd hynny'n hybu'r ddwy iaith wedyn?! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 15:18, 16 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Mae yna eisoes ryw fath o gytundeb anffurfiol gyda'r wiciau Llydaweg a Gwyddeleg i ddefnyddio'r ffurfiau brodorol o enwau lle bo modd. Wn i ddim am y Gernyweg. Porius1 16:16, 16 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Yr un peth, Poriws, er mwyn cysondeb. Fe welwch mai teitl yr erthygl ar Padstow ydy Lannwedhenek; mae eraill yn y Categori "Pentrefi Cernyw". Cytunaf a thi mai'r ffurf brodorol ddylem ei ddefnyddio'n gyntaf. Llywelyn2000 17:05, 16 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Yn fy marn i, os does dim enw Cymraeg ar le ac mae rhaid i ni ddewis rhwng enwau yn nwy iaith arall, er mwyn cysondeb dylem ni wneud hyn yn ôl rheolau nad yw'n dibynnu ar os mai iaith Geltaidd yw un o'r ddwy. Felly, os dewisom ni'r enw yn yr iaith frodorol yn hytrach na'r enw swyddogol, dylem ni hefyd wneud dewisiadau tebyg mewn achosion tebyg yn fyd-eang (er dydw i ddim yn ymwybodol am enghreifftiau penodol ar hyn o bryd). Sais Neis 21:24, 16 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Mae arfer pob argraffiad Wicipedia yn amrywio mewn hyn o beth. Am ryw reswm mae'r un Almaeneg yn benderfynol o ddefnyddio enwau Saesneg ar draul y Gymraeg a'r Almaeneg ei hun, e.e. "National Library of Wales" a hyd yn oed "Caernarfon Castle" (wir-y - cwbl hurt!). Yn achos y Gernyweg a'r Llydaweg mi fedra'i gydymdeimlo a deall y rhesymau dros ddefnyddio'r enwau brodorol ar y Wicipedia Cymraeg, yn enwedig os ydy'r Wicipediau Cernyweg a Llydaweg yn parchu'r Gymraeg, ond y broblem ydy nid yw'n hawdd cael polisi cytbwys ac ystyrlon ym mhob achos. I gymryd un enghraifft o fewn gwledydd Prydain, beth am yr Alban? "Iawn - Gaeleg yr Alban amdani?" Ond ceir dwy iaith frodorol, sef Gaeleg a Lallans - does dim problem efo defnyddio'r enw Cymraeg e.e. Caeredin, ond sut ydym i benderfynu pryd mae rhywle yn haeddu enw Gaeleg, enw Lallans neu, efallai, enw Saesneg? Beth am chwe sir gogledd-ddwyrain Iwerddon, rhanedig fel y maent? Mae llawer i'w ystyried yma. Anatiomaros 22:37, 16 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Sôn am enwau yng Nghernyw oedd Osian. Ac yn gyffredinol, drwy Wici, mae defnyddio'r enw brodorol, os nad oes un Cymraeg, yn beth da. Llywelyn2000 05:34, 17 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Ia, dyna oedd y pwynt gwreiddiol ond ehangwyd y drafodaeth gan Sais Neis gyda phwynt sy'n ddilys, dwi'n meddwl. Does gen i ddim problem o gwbl gyda defnyddio'r enwau Cernyweg ac rydwi'n cytuno y dylem ni barchu enwau brodorol, wrth gwrs. Ond fy mhwynt oedd dydy hynny ddim yn hawdd bob tro. Enghreifftiau eraill: enwau lleoedd sy'n rhan o Gyrdistan (Twrci/Irac/Iran) ac enwau'r Berberiaid am leoedd yng Ngogledd Affrica (lle ni cheir statws swyddogol i'r enwau yn yr ieithoedd Berber o gwbl ac mae'r sillafiad yn amrywio hefyd). Anatiomaros 21:55, 17 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Pwynt diddorol am y wici Almaeneg. Rhaid i mi greu erthygl ar y Château d'Heidelberg rywbryd :-) Porius1 06:08, 17 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Syniad da. Beth am ailgyfeirio Deutscher Bundestag i 'Parliament of Germany' hefyd, er mwyn bod yn gyson? Anatiomaros 21:55, 17 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Coincidently, my parents were in St. Ives last week. I mentioned the mutual use of the local Celtic name in Tell us about your Wikipedia two years ago - e.g. br:Caerfyrddin and br:Tyddewi on the Breton Wikipedia. Paul-L 15:51, 18 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Ydy unrhywun yn gwybod pa sawl person sy'n medru'r Cernyweg yn Padstow / Lannwedhenek? Actually Paul's speaking English so I'm going to do the same. If the estimated 2000 fluent speakers (or 3000 with at least basic knowledge) were distributed evenly throughout Cornwall, then one would expect about 12 (or 18 including basic speakers) in Padstow. But I guess that the speakers of the new Cornish are concentrated to the south-west, as that is where the old Cornish was most recently still spoken, which would mean correspondingly fewer in places like Padstow. I think that to use the Cornish title for the article requires some evidence that local use of the name is a current reality and not just an aspiration. Sais Neis 23:37, 18 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Ar bapur, mae hyn yn bwynt teg, ond yn achos y Gernyweg mae'r iaith mor agos i'r Gymraeg fel bod nifer o enwau lleoedd Cernyweg yn ddealladwy i siaradwyr Cymraeg a gan fod hwn yn wyddoniadur Cymraeg mae'n gwneud synnwyr i'w defnyddio yma (heb sôn am barch at ein chwaer-iaith Geltaidd). Anatiomaros 20:29, 20 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Ateb teg - diolch. (Ac esgusodwch ymateb hwyr ohona i - wedi bod mas.) Sais Neis 13:51, 2 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Nodiadau blocio defnyddiwr[golygu cod]

Gweler Sgwrs Nodyn:Bloc IP, Nodyn:Defnyddiwr a rwystrwyd, a Nodyn:Blocipambyth, os gwelwch yn dda. Barnau? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:05, 16 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Dw i'n meddwl eu bod yn edrych yn dda ac yn ddefnyddiol, yn enwedig gyda defnyddwyr sy'n fandaleiddio'n barhaus. Yr unig beth yw'r typo yn yr enw Nodyn:Blocipambyth ond heblaw am hynny, syniad da yn fy marn i. Pwyll 18:13, 16 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Wi ddim yn gallu gweld y teipo, felly cer ati i'w gywiro :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:06, 16 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Ô.N. Enw'r nodyn yw "Bloc IP Am Byth," nid "Blocio Am Byth" (IP Blocked Indefinitely yn Saesneg). -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:28, 16 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Dwi wedi gadael sylw ynglŷn â defnyddio bloc IP am byth ar Sgwrs Nodyn:Blocipambyth. Dim cyfle i edrych y nodiadau eu hunain eto! Anatiomaros 22:50, 16 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Diweddariad: Rwy wedi gorffen gwaith Nodyn:Defnyddiwr a rwystrwyd a Nodyn:Blocipambyth, felly ydych yn cytuno imi droi Nodyn:Bloc IP i mewn i ailgyfeiriad i Nodyn:Defnyddiwr a rwystrwyd? Trafodwch y mater yma, o.g.y.dd, yn hytrach ar dudalennau'r nodiadau :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 15:09, 31 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Gwaith gwych, Glenn. Yr unig anhawster ydy cofio'r nodiadau. Mae {{bloc IP)) yn syml a hawdd i'w gofio ond dwi'n rhagweld gorfod mynd i'r nodyn yma yn aml i gael y geiriad yn iawn. Dwi'n awgrymu newid un o'r enghreifftiau hefyd, sef {{Defnyddiwr a rwystrwyd|ip|amser=chwe mis|gan=[[Defnyddiwr:Jimbo Wales|Jimbo Wales]]}} i {{Defnyddiwr a rwystrwyd|Jimbo Wales|amser=amhenodol|gan=[[Defnyddiwr:Cymuned Wicipedia|Cymuned Wicipedia]]}} am fandaliaeth gyson, sef dileu ffeiliau ar Gomin heb reswm na thrafodaeth, a cheisio gwthio ei farn bersonol ar Gymuned Wicipedia. ('mond smalio...!). Anatiomaros 15:45, 31 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Dim ond enghreifftiau er mwyn llywio'r nodiadau. Wi'n meddwl am y mwyafrif o'r amser, byddwn yn defnyddio {{Defnyddiwr a rwystrwyd|amser=CYFNOD YMA}} ar gyfer rhwystro defnyddwyr, a {{Defnyddiwr a rwystrwyd|ip|amser=CYFNOD YMA}} ar gyfer rhwystro cyfeiriadau IP. Iawn - maen nhw'n eithaf anodd i'w cofio yn y lle cyntaf, ond ar ôl eu defnyddio'n ddigon gwaith, bydden ni'n iawn :) Rwy newydd ddiweddaru'r enghraifft yn ôl dy awgrymiadau ti, hefyd, Anatiomaros. Unrhyw barnau eraill? Os cytunem ni, gallem ailgyfeirio {{bloc IP)) i Nodyn:Defnyddiwr a rwystrwyd. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:44, 1 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Cysylltu erthygl newydd i ieithoedd eraill[golygu cod]

Hyd yma, dwi wedi bod yn ychwanegu fy erthyglau newydd trwy ddefynnio i erthyglau ieithoedd 'pwysig' fel Saseneg ac Almaeneg. Oes ffordd gyflym o gysylltu fy erthygl Cymraeg i bob un iaith eraill, h.y. fel bod pob iaith arall yn medru gweld y gelir darllen yr erthygl yn Gymraeg hefyd (heb orfod gwneud pob un iaith fesul un?) Gobeithio fod fy ngwestiwn yn gwneud rhywfaint o synwyr...! Diolch. Osian Llwyd 08:32, 20 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Mae yna nifer o fotiau yn rhedeg sy'n gwneud y gwaith yma. Does ond rhaid cysylltu'r erthygl Gymraeg ag un iaith arall, ac fe wnaiff un o'r botiau y gweddill. Porius1 11:28, 20 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Ia, a dewis un o'r ieithoedd mawr sydd orau hefyd, efallai. Bob tro dwi'n addasu deunydd o erthygl Ffrangeg ac yn rhoi dolen iddi mae bot yn troi i fyny o fewn deg munud fel rheol. Anatiomaros 20:21, 20 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Diolch.Osian Llwyd

Mae'r erthygl 'na yn uniaith Saesneg (!) ar hyn o bryd - dwi wrthi'n cyfieithu tudalennau eraill ar hyn o bryd, felly oed modd i rywun ei chyfieithu? Os nad, gwnaf i fe mor fuan ag y bo modd wedi imi gyfieithu eraill :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:45, 23 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Mewngofnodi diogel[golygu cod]

Rwy'n gwbod bod rhai defnyddwyr yma yn tecky iawn (yn ogystal â fy hunan), felly dwi wedi dod o hyd i'r dolen mewngofnodi'n ddiogl. Mae ar gael ar brif adran fewngofnodi en, ond nid ar cy :| Gwnaf i edrych ar Meta yn nes ymlaen i weld os oes 'na rywbeth y gallaf ei wneud o ran hynny (dangos y ddolen yno, efallai). -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:13, 23 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Logo a slogan ar gyfer Wikibooks[golygu cod]

Dyma gopi o neges oddi wrth Cbrown1023 ar fy nhudalen sgwrs: Hello Lloffiwr. I'm currently collecting project names and slogans as a part of a logo cleanup. Would you mind providing a translation of the following phrases for the Welsh (cy) Wikibooks logo?

  • Wikibooks
  • Open books for an open world (or "Free books for a free world" if that's easier to translate) = ?

Mae Wikibooks eisoes wedi cael ei gyfieithu i Wicillyfrau. Ond beth am y slogan? Ydy 'Llyfrau agored er mwyn agor y byd' yn dderbyniol? Oes cynnig gwell i gael? Lloffiwr 20:01, 24 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Wela i ddim o'i na na gallu meddwl am ddim gwell (er, mae hi yn hwyr).--Ben Bore 20:45, 24 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Dw i'n cymryd mai'r "free books" ydy gwefan Wicillyfrau? A bod y wefan a'r llyfrau "am ddim" i bawb. Collir hynny yn y cyfieithiad uchod, er bod elfen o hyn yn y gair "agored". Awgrymaf:
  • Llyfrau am ddim er tecach byd
  • Llyfrau am ddim i'ch cyfoethogi
  • Llyfrau yw'r goriadau sy'n rhyddhau'r blaned
  • Llyfrau am ddim: amhrisiadwy! neu
  • :O'r llenor i'r darllenydd
A'r iaith o'i chadwynau'n rhydd!

Llywelyn2000 21:48, 24 Awst 2010 (UTC)[ateb]

"A bod y wefan a'r llyfrau "am ddim" i bawb." Ia a na. "Free as in free speech and not as in free beer" yw'r esboniad Saesneg, maen nhw'n 'free from copyright'. Ond wedyn maen nhw am ddim yn yr ystyr nad oes rhaid talu am eu hail defnyddio au hail argraffu. --Ben Bore 08:37, 26 Awst 2010 (UTC)--Ben Bore 08:37, 26 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Am doreth o gynigion bachog. Fe gynigiaf 'Llyfrau am ddim er tecach byd' i C Brown. Mae'n cyfleu bwriad y wefan. Lloffiwr 22:29, 26 Awst 2010 (UTC)[ateb]
:-) Llywelyn2000 06:07, 27 Awst 2010 (UTC)[ateb]

 Cwblhawyd
Wi'n ceisio ailwampio Nodyn:Atsylwgweinyddwr. Wi wedi creu Nodyn:Cymorthgweinyddwr a Nodyn:Namespace detect, ond mae rhywbeth allan o'i le, oherwydd nad yw'r nodyn (Cymorthgweinyddwr) yn rhoi'r tudalen sgwrs (neu unrhyw beth) yn Categori:Tudalennau lle mae angen cymorth gan weinyddwr, ac wrth ei osod ar dudalen sgwrs, mae'r neges "other" yn cicio mewn gyda'r neges "Ymddengys fod y nodyn..." (gallwch ei weld ar fy nhudalen sgwrs). Os modd i rywun (un o'r teckies arall) helpu?! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:12, 25 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Dim problem nawr. Doedd y hen nodyn ddim yn gweithio hefyd, ond nawr dwi wedi cyfuno'r ddau â'i gilydd ac mae'r hen nodyn (Nodyn:Atsylwgweinyddwr) bellach yn gweithio. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:26, 25 Awst 2010 (UTC)[ateb]

 Cwblhawyd

Diolch Glenn ("cofia am y categori[au]"... medd y bot categoriau!). Anatiomaros 17:28, 25 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Locked pages[golygu cod]

Hello, in your wiki you have many locked articles about animated films. I guess this is because "Bambifan", but these locked pages are problem for interwiki bots, because many of them have links to irrelevant articles. Please, unlock these articles (one user is not the reason for locking them, you can semi-lock). JAn Dudík, operator of User:JAnDbot 12:38, 26 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Lip synching?[golygu cod]

Shwmae gyfeillion, a oes cyfieithiad Cymraeg am y term lip synching? Diolch :) Stifyn 01:06, 2 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Beth am cysoni gwefusau neu gwefus-gysoni? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 01:23, 2 Medi 2010 (UTC)[ateb]
"Cydwefuso" yn ôl Geiriadur yr Academi. —Adam (sgwrscyfraniadau) 01:18, 3 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Hmmm, mae rhaid i mi rhannu tŷ myfyrwyr gyda Adam, felly byddai'n defnyddio "cydwefuso". Diolch i bawb - Stifyn 02:16, 3 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Gyda llaw, mae'n rhaid i ti ymateb i fy neges ar y Gweplyfr neu ni fydd tŷ gennom ni o gwbl. :P —Adam (sgwrscyfraniadau) 02:26, 3 Medi 2010 (UTC)[ateb]

lluniau ychwanegol mewn erthygl[golygu cod]

Mae'r pwynt canlynol yn ymwneud ag erthygl penodol, ond dwi'n ei ysgrifennu yma gan fod y pwynt braidd yn gyffredinol. Yn yr erthygl Llyn Geirionydd, mae dau lun, ond mae'r gwahaniaeth rhyngddynt yn artistig yn hytrach na gwybodaethol, felly dwi ddim yn meddwl bod y dau lun yn cyfrannu mwy o wybodaeth ar gyfer y ddarllenwr nag un ohonynt. Achos mai gwyddoniadur yw hyn, nid llyfr bwrdd-coffi, dwi'n meddwl y dylid gofyn, cyn ychwanegu llun pellach at erthygl sydd eisoes ag un, pa wybodaeth fydd y llun newydd yn ei hychwanegu. (Yn yr achos hwn, dwi'n gweld mai cyfrannwr rheolaidd a greodd un o'r lluniau, felly caf i wared ar y llall er mwyn peidio â brifo teimladau.) - Sais Neis, 22:13, 2 Medi 2010.

Rwy'n cytuno â thi, SN. 'Sdim angen dau lun sy'n portreadu'r un syniad (neu beth) arnom, 'sdim ots sut mor "neis" yw e. Yn enwedig os yw'r erthygl yn brin o wybodaeth ac mae'r lluniau'n fawr. Cofia i lofnodi dy sylwadau, hefyd, SN :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:24, 3 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Hefyd, mae'n well gen i'r llun cyntaf - mae'n fwy cyfoes ac yn llunio'r erthygl yn iawn. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:27, 3 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Yn yr erthygl yma, mae'r ail lun yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am y dirwedd o amgylch y llyn, rhywbeth sydd ddim i'w gael yn yr erthygl ei hun. Porius1 06:20, 3 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Porius1, dwi'n cytuno â chi rŵan, ond roedd eich sylw ar ôl i mi ddileu un llun ac i Anatiomaros ychwanegu un arall. Mae'r lluniau yn yr erthygl yn iawn ar hyn o bryd yn fy marn i, ond roeddwn i am dynnu sylw yma at fy mhwynt cyffredinol a allai ymwneud ag erthyglau eraill yn y dyfodol. Diolch i bawb. Sais Neis 06:50, 3 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Cyfeiriadau[golygu cod]

Bore da pawb. Unwaith eto, mae angen cymorth arna'i - http://cy.wikipedia.org/wiki/Grave_of_the_Fireflies. Dwi'n trio rhoi dyfynniad ar y tudalen ond sai'n deall beth dwi'n gwneud yn anghywir. Diolch :) Stifyn 02:12, 3 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Mae'n rhaid rhoi tag cyfeiriadau, sef <references/> (o dan bennawd "Cyfeiriadau" neu "Ffynonellau"), ar waelod yr erthygl. Ond gan ddefnyddio'r nodyn {{cyfeiriadau}} maent yn ymddangos yn fach ac yn dlws. Rhowch {{cyfeiriadau|2}} os oes nifer o gyfeiriadau yn yr erthygl, ac byddent yn ymddangos mewn dwy restr, à la Cysylltiadau rhyngwladol#Cyfeiriadau. —Adam (sgwrscyfraniadau) 02:34, 3 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Literary or colloquial[golygu cod]

Durda dhe'why from the Cornish Wikipedia. Does the Welsh Wikipedia use colloquial Welsh or literary Welsh in the articles? What about the user interface? --Moon 21:28, 3 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Croeso i'r Wicipedia Cymraeg, Moon. We aim to use a reasonable standard of literary Welsh in articles, although we tend to avoid being over formal. Much depends on the article subject of course. We wouldn't expect an article about a rock group to read like a formal academic essay! How about you at Wicipedia Cernyweg? Anatiomaros 00:16, 5 Medi 2010 (UTC)[ateb]
We have literary and colloquial style but the difference between them is far less than in Welsh. Often it's just the difference between writing Yma / Ma, or Erowgh hwi / Ero'whi. Wikipedya Kernowek usually uses the more literary style. --Moon 15:53, 12 Medi 2010 (UTC)[ateb]

'Anglophone'[golygu cod]

Shwmae pawb, a oes gair Cymraeg am neillau 'Anglophone' neu 'English-speaking'? e.e "the English-speaking world" Diolch :) Stifyn 19:17, 4 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Yn syml, 'Y byd Saesneg'. Felly hefyd 'gwledydd Saesneg'/'gwledydd Ffrangeg' am 'anglophone/francophone countries' ayyb. Mae'r terfyniad -eg yn dweud y cyfan yn Gymraeg. Anatiomaros 00:11, 5 Medi 2010 (UTC)[ateb]

"Pilot"[golygu cod]

Shwmae pawb, a oes cyfieithiad Cymraeg or term Saesneg "pilot episode" (sef episod cyntaf o raglen i weld ymateb gynulleidfa, fel arfer nid yw hyn yn cael eu dangos ar y teledu). Diolch :) —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Stifyn (sgwrscyfraniadau) 01:49, 12 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Dydw i ddim wedi gwylio S$C ers tua 5 mlynedd - ar wahân i un rhaglen y flwyddyn - i fesur a phwyso ei hansawdd - a'i chael yn brin, yn faterol... yn Americanaidd... Felly dwn i ddim pwy ydw i i ateb dy gwestiwn! Ond y term syml sy'n dod i'r meddwl ydy "Rhaglen Brawf"? Llywelyn2000 07:11, 12 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Wel, "rhaglen beilot" yw pilot programme, felly beth am hynny neu "episod beilot"? Plîs cofia i lofnodi dy pyst gyda ~~~~, Stifyn. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 12:27, 12 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Yn bersonol mae'n well gen i awgrym Llywelyn (yn yr un modd pilot scheme yw "cynllun prawf") gan fod "rhaglen/episod beilot" yn swnio'n rhy llythrennol, ond os "rhaglen beilot" sy'n cael ei defnyddio gan y diwydiant (ac mae'n ymddangos caiff ei defnyddio gan y GIG, y BBC, Llywodraeth y Cynulliad, a chynghorau lleol i olygu pilot programme yn yr ystyr arall o programme hefyd) yna mae achos cryf i ni fel Wicipedwyr i ddefnyddio'r term "proffesiynol" (neu o leiaf y term cyffredin!). —Adam (sgwrscyfraniadau) 18:54, 12 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Mae'n siwr o fod yn derm sy'n cael ei recomendio a argymhellir gan "y Welsh Langwej Bôrd" am ei fod yn fenthyciad o'r Saesneg ac felly'n well na therm Cymraeg safonol. Er ei fod yn swnio fel rhaglen hyfforddi peilot awyren, os ydy cyrff yn yr indystri diwydiant yn ei ddefnyddio mae'n iawn i ni ei dderbyn hefyd, mae'n debyg. Anatiomaros 19:20, 12 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Neges ryfedd[golygu cod]

Rhoddwyd y neges hon ar fy nhudalen sgwrs heddiw. Ydy o'n golygu rhywbeth i rywun? Does dim cyfranwr o'r enw a dyma unig gyfraniad y cyfeiriad IP. Rhyfedd iawn. Anatiomaros 22:21, 13 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Wi newydd ddad-wneud y cyfraniad, ond wedyn dad-wnes i'r un blaenorol gan weld y neges yma. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 08:49, 14 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Fundraising and your wiki[golygu cod]

Greetings, please translate this message if you can.

Fundraising 2010 is preparing to start, and we want your project to be a part of the global movement to support free knowledge. The Wikimedia Foundation is engaging with local communities that build the projects to play an active part in this year's fundraiser. This year we will be working to best serve all the language communities by providing messages that are best suited for each location.

To do this, we need your help. We are testing messages and we want to be sure that our messages will work with your language. If it does not and your community can come up with your own banner in the spirit of supporting free knowledge, we invite you to submit your proposals and be active in this process. Wikimedia is for you, join us in supporting free knowledge in your local community! Keegan, WMF Fundraiser 2010 05:10, 15 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Gweler y sgwrs isod, os gwelwch yn dda, ac ymunwch â'r adran "Cyfeiriadau." Diolch. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 15:50, 15 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Sylwadau, os gwelwch yn dda![golygu cod]

Image licences[golygu cod]

Apologies for writing in English and thank you for welcoming me. As you can see, I am currently tidying up Geograph images. It is no exaggeration to say that I am horrified at the contempt this wiki shows for image licensing. If people upload untagged images to the English Wikipedia or the Commons, they last no more than a few days. I do not want to single out individuals but this list hints at the extent of the problem.

As a minimum, please implement a stricter upload routine which insists on a valid licence tag. This will at least prevent the problem increasing. — RHaworth 18:43, 19 Medi 2010 (UTC)[ateb]

On other wikis the speedy delete template allows me to give a reason. Nodyn:Tudalen amheus should do so also. -- RHaworth 18:55, 19 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Sylwer nad oes gan y defnyddiwr hwn unrhyw awdurdod ar ran Comin Wicifryngau na neb arall. Dydy o'n cynrychioli neb: actio ar ei liwt ei hun oedd o a dim ond cyfranwr cyffredin ydy o yma (ac ar Gomin hefyd, o ran hynny). Gweler isod ynglŷn â chwestiwn y ffeiliau dyblyg, os gwelwch yn dda.
Er ei fod yn mynd i'r afael â hyn y ffordd anghywir (yn fy marn i), rwy'n meddwl bod gwers i'w dysgu yma, ac rwy'n cytuno â'r hyn ei bod yn ceisio'i gyfleu - mae'n rhaid inni fod yn fwy gaeth; mae'n rhaid inni gynnwys trwydded y llun (neu beth bynnag yw e) oherwydd cysondeb. Nid yw'n cymryd llawer o amser i nodi gwybodaeth Nodyn:Gwybodaeth (gweler yma am enghraifft syml iawn), ond dwy funud! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:19, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Ydy, mae'n hen bryd i ni fynd i'r afael â'r trwyddedau - neu eu diffyg - ond yn fy marn i (ac eraill!) mae hwn yn un o'r cyfranwyr mwyaf sarhaus ac anghwrtais dwi wedi gweld erioed. Os gwneiff y bonheddwr RHaworth gymaint ag un sylw bach sarhaus eto ceiff ei flocio am fyth, gweinyddwr ar 'en' neu beidio. Yn wahanol i'r argraff mae'n rhoi, nid y ni yw'r unig un o'r wicipediau llai sydd yn yr un sefyllfa, a hynny oherwydd diffyg adnoddau yn bennaf. Medrem ddelio â hyn ein hunain, heb "gymorth" pobl fel o. Sylwaist mor dawel oedd hi ddoe? Neb eisiau cyfrannu am fod o yma. Dydwi ddim yn mynd i ganiatau iddo niweidio'r Wicipedia Cymraeg, doed â ddelo. Anatiomaros 16:55, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Fel rydych chi'n dweud yn gywir, does dim unrhyw awdurdod gyda fe. Cewch ei anwybuddu ond os bydd un o berchenogion hawlfraint y lluniau hyn yn cwyno, bydd wir broblem i'r person a uchlwythodd ei (g)waith allan o amodau'r drwydded. Felly yn fy marn, syniad da yw rhoi pwys i'r neges er taw gwael yw'r negesydd. Sais Neis 18:12, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Hwyl i bawb : Dyna beth mae'r Ffrancod Neis yn sgwennu yn ein wici-ni : Journées européennes du patrimoine 2010. Offrez vos photos à Wikipédia ! . Dyna beth mae rhai yn 'wneud. Bianchi-Bihan 18:39, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Problem hefyd yw pobl yn anwybyddu'r dewis cywir wrth uwchlwytho lluniau ayyb; ceir dewis o lawer gyda'r ddewislen gwympo, ond wi'n betio bod bron pawb yn dewis "I do not know the licence". Fi fy hun yn ei ddewis, rhaid cyfaddef, ond yr unig reswm a wnaf yw fy mod yn rhoi'r wybodaeth mewn gyda'r nodiadau uchod. Cymharwch ein tudalen uwchlwytho i'r un a geir ar y Wicipedia Saesneg - mae'n hen bryd inni gael rhywbeth tebyg! Gyda'r un Saesneg, nid oes modd uwchlwytho'r ffeil os nad ydych yn dewis trwydded. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 15:47, 24 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Cytuno; ond hyn-a-hyn ydy maint y gacen. Who'll bell the cat? Awgrym Anatiomaros ydy ein bod yn gwneud cais i gael cymorth allanol i wneud y gwaith; gweler isod. Ond, fel ti'n dweud mae angen ei wella! Llywelyn2000 06:08, 25 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Ehangu'r drafodaeth[golygu cod]

Y prif bwynt am hyn oll ydy hyn: does neb yn dadlau yn erbyn cael trwyddedau ac wrth gwrs y basai'n braf cael system fel yr un ar en, ond beth am dipyn o gymorth ymarferol - i ni a'r wicipediau llai eraill - gan Sefydliad Wicipedia neu MetaWici? Mae ganddynt adnoddau i dalu am farn "ymgynghorydd" honedig i geisio sensro Comin ar ôl ildio i bwysau gan Fox News (o bawb!), felly beth am wneud cais ar y cyd â wicipediau eraill sydd yn yr un sefyllfa i gael hyn:

  1. Talu am gyfieithiadau proffesiynol o'r holl ddogfennaeth berthnasol.
  2. Cael arbenigwyr technegol - fel sy'n cael eu talu i weithio iddynt yn barod - i helpu datrys unrhyw anhawsterau ar yr ochr yna yn lle bod disgwyl i ni geisio ymdopi ein hunain?

Dwi'n ystyried cynnig hyn i'r ddau wici arall sydd wedi cael y fraint o sylw annisgwyl ein cyfranwr newydd. Oes gefnogaeth i hynny? Dwi'n teimlo'n enwedig o drist am sefyllfa'r Wicipedia Gaeleg yr Alban, sydd â thîm o dri chyfranwr rheolaidd a dim un ohonynt gyda'r gallu technegol i newid y sefyllfa. Anatiomaros 23:10, 24 Medi 2010 (UTC)[ateb]

"Y fraint" - ni fasai neb yn meddwl eich bod chi'n ceisio bod yn sarcastig. :) Ond o ddifrif, beth yw'r siawns o i Porius1 ddychwelyd? All rhywun e-bostio iddo/iddi i ddweud ein bod eisiau fe/hi nol? Llais Sais 00:29, 25 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Dydw i ddim wedi mynd yn barhaol. Roeddwn wedi meddwl ar y pryd fod RHaworth yn siarad dros y Wikimedia Foundation neu wedi ei apwyntio gan Jimbo Wales yn bersonol, ond mae'n amlwg nad yw hynny'n wir. Ar y llaw arall, rwy'n brysur iawn ar hyn o bryd, yn y gwaith a thu allan, ac mae'n braf cael yr amser i bethau eraill. Rwy'n cytuno fod angen gwneud rhywbeth ynglyn a thrwyddedu, ond mae angen cael system syml, sydd ddim yn golygu treulio oriau yn darllen dogfennau cyn medru gwneud dim byd. Beth am ofyn i Slomox am gyngor? Porius1 06:53, 25 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Diolch. Llais Sais 08:10, 25 Medi 2010 (UTC) (O.N. rwy wedi cywiro fy neges uchod lle tybiais i taw dyn ydych chi.)[ateb]
Syniad da. Ond y flaenoriaeth yn fy marn i ydy creu erthyglau newydd ac ychwanegu ffynhonnell neu ehangu rhai. Byddai dy ddau awgrym yn ein rhyddhau i wneud hynny i raddau. Mae'r busnes hawlfraint lluniau wedi mynd yn llawer rhy gymhleth. Llywelyn2000 05:55, 25 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Ynglyn a'r drafodaeth hon, rwy wedi edrych ar bolisi trwyddedu Wikimedia [1]. Mae nhw'n dweud bod rhaid i ni gael "Exemption Doctrine Policy" os rydym ni eisiau caniatau cynnwys di-rydd (mewn sefyllfaoedd cyfyngedig) - felly rwy wedi dechrau tudalen i greu un - gwelwch Wicipedia:Cynnwys di-rydd. Rydym ni'n rhydd i ddewis ein rheolau ni o fewn eu cyfyngiadau nhw, ond mae enghraifft ar y wici Saesneg [2]. Llais Sais 11:05, 25 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Mae gynnon ni ddrafft o EDP yn barod: Wicipedia:Cynnwys cyfyngedig. Oes unrhyw wrthwynebiadau i'w fabwysiadu'n swyddogol? Tigershrike 12:14, 25 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Diolch Tigershrike. Roeddwn i'n cofio fod gennym ni rywbeth tebyg rywle! Syniad gwych. Dwi'n cytuno a'th awgrym. Digon hawdd ei diwygio wedyn os rhaid. Anatiomaros 22:49, 25 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Wi ddim yn rly gweld y broblem, mae'n syml imi; wrth ysgrifennu/cyfieithu erthyglau en, cynnwys y llun. Os nad yw'r llun ar gael yn gyffredinol (hy, mae'n rhaid ei uwchlwytho), defnyddio'r un llun sydd ar en a jyst copïo a phastio'r cynnwys. Os nid yw'r polisïau cywir gennym, eto - trosglwyddo nhw o en, cael nhw yn Saesneg i ddechrau, ac dechrau eu cyfieithu fesul nodyn. Ynglŷn â hen luniau sydd ddim â thrwydded, defnyddiwch y teclyn hwn i chwilio am luniau a uwchlwythoch chi, a dechrau arni! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:15, 25 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Diolch i bawb am yr adborth. Dwi'n meddwl fod gennym ni yr adnoddau a'r ewyllys i ddatrys llawer o hyn, ond beth am ein chwaer-wicis ('brawd-wicis'?!) Celtaidd? Cefais neges gan un o weinyddwyr y wici Gaeleg yr Alban heno. Mae o'n meddwl ar hyd yr un llinellau â fi, h.y. y dylem weithio gyda'n gilydd ar hyn a mynd â'n neges unedig i'r 'Pencadlys', fel petai. Hyd yn oed os llwyddom ni i ddatrys y broblem ar cy, dwi'n meddwl y basai'n braf estyn ein cymorth i eraill o'r wicis llai fel mater o egwyddor - a dyletswydd hefyd, efallai. O leia mi ddylem ni agor trafodaeth agored, gan gychwyn trwy greu fforwm i ni gwrdd, drafod a chydweithio. Caf yr argraff weithiau fod y "wicipediau llai" yn cael eu hesgeuluso dan y drefn bresennol. Basai'n braf medru newid hynny. Oes gennych unrhyw awgrymiadau? Anatiomaros 23:05, 25 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Beth, yn union, fyddi di'n gofyn amdani, Anat? Bydd yn neis gael cymorth gan Y Prif Wikipedia, ond mi ragwelaf y dônt yn ôl gan ddweud mai ni a greodd y broblem, felly ni fydd yn ei datrys (cofia y dywedodd Jimmy Wales ei fod yn credu nad oes angen arnom Wicipedia o gwbl!)... Cyn aiff yn rhy bell, awgrymaf i i ninnau (os yr ydym ni am gynnig help llaw i'r Wiciau Celtaidd eraill) ddweud y drefn wrthynt; h.y., paid ag uwchlwytho unrhyw ffeil/llun os nad oes trwydded gywir gennych. Fel rheol, mae'r lluniau a chyfryngau a geir o fewn erthyglau en yn drosglwyddadwy i bob un wici arall. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:04, 26 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Ymddiheuriadau am fod mor hir yn ymateb ond dwi wedi cael deuddydd prysur. Bydd gennyf fwy o amser o fory hyd ddydd Gwener ac felly ceiff ateb llawn aros tan fory. Doeddwn i ddim yn cyfeirio at "Y Prif Wikipedia" - sef 'en', mae'n debyg? - ond y Sefydliad Wicipedia a MetaWici. Na, nid ni a greodd y broblem achos nid ni a greodd y rheolau na'r meddalwedd a'r ddogfennaeth sydd ei angen er mwyn eu gweithredu'n iawn. Rydym ni'n gymharol ffodus am fod gan rai ohonom ni'r sgiliau cyfrifiadurol ac ieithyddol i fynd i'r afael â hyn, er ei fod yn golygu cryn dipyn o waith i ni. Un o'r wicis llai ydym ni ond ymhell o fod y lleia. Mae llawer o'r rhai llai heb yr adnoddau i ddechrau ar y gwaith hyd yn oed. Mae hynny'n creu sefyllfa annheg: os un prosiect mawr ydy Wicipedia a Wicifryngau gyda phob argraffiad iaith wicipedia, yn cynnwys ni, yr Anglopedia a phawb, yn rhannau unigol o fewn y cyfan, dylai pob wicipedia fod yn gyfartal o ran darpar: yn amlwg, dydy hynny ddim yn wir. A dydy dweud wrth wicipediau fel yr un Gaeleg "paid ag uwchlwytho unrhyw ffeil/llun os nad oes trwydded gywir gennych" ddim yn gwneud llawer i ddatrys y broblem. Beth bynnag, cawn drafod hyn eto dros y dyddiau nesaf. Anatiomaros 22:56, 27 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Yn anffodus rwy'n anghytuno gyda chi Anatiomaros. "nid ni a greodd y broblem achos nid ni a greodd y rheolau na'r meddalwedd a'r ddogfennaeth sydd ei angen er mwyn eu gweithredu'n iawn." - efallai mae angen arnom sgiliau technegol er mwyn dangos y trwyddedu mewn blychau ffansi fel ar "en", ond nid dyma'r problem. Ein prif broblem yw ein bod wedi copïo lluniau o "en" ayb heb ddweud pwy a dynnodd y llun, er bod y trwyddedu megis GFDL / CC-BY-.... yn caniatau copïo dim ond ar yr amod bod yr hysbysrwydd hawlfraint yn cael ei gadw gyda phob copi. Er nad wyf wedi ceisio uwchlwytho ffeiliau fy hun erbyn hyn, allwn i ddim ddychmygu bod angen sgiliau technegol i ysgrifennu enw'r ffotograffydd a ddangosir yn y wici rydym ni'n copïo'r llun ohono yn hytrach nag ysgrifennu dim ond "copiwyd o'r wici Saesneg" er enghraifft. Yn y pen draw, nid y wici Saesneg na'r Wikimedia Foundation a greodd y "rheolau" ond perchenogion yr hawlfraint a benderfynodd i ryddhau eu gwaith dan drwydded sy'n galw am "attribution" yn hytrach na'i ryddhau i'r parth cyhoeddus, a ni a ddewisodd i ddefnyddio eu gwaith yma. Llais Sais 23:46, 27 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Dwy ffordd o ddelio gyda ffeiliau dyblyg[golygu cod]

Dwi'n siwr y cafodd rai ohonom ein cythruddo gan y ffordd anffodus yr aeth un cyfranwr o ymwelwr ati i geisio dileu ffeiliau dyblyg (duplicate) neithiwr. Cyn hynny, roeddwn i wedi bod wrthi bob hyn a hyn i geisio lleihau ffeiliau o'r fath fy hun, ond mae'n waith llafurus tracio nhw i lawr. Sylwodd defnyddiwr Slomox, un o hoelion wyth Comin, ar neges gan y cyfranwr arall ar Village Pump (Y Caffi) Comin ddoe. Roedd ei ymateb call a threiddgar i'r sefyllfa yn gwbl wahanol i'r gwron arall ond yn anffodus roedd yn siarad wrth y wal. Dwi'n trafod y sefyllfa gyda Slomox a wele ei gyfraniad cyntaf: Defnyddiwr:Slomox/duplicates. Medraf ddefnyddio hyn rwan i fynd ymlaen â'r gwaith yn rhwydd. Diolch iddo am hynny.

SYLWER Dydy hyn ddim yn effeithio o gwbl ar luniau a dynwyd gennych chi eich hunain, dim ond y ffeiliau sydd ar gael ar Gomin rwan (ffeiliau Geograph fel rheol) ac a lwythwyd naill ai o 'en' neu o wefan geograph.org.uk. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn ceisio gwneud ar draws y Wici mawr achos does dim synnwyr mewn cael dwsinau o ffeiliau lleol dyblyg pan fo'r un ffeil yn union ar gael ar Gomin erbyn hyn. Anatiomaros 22:12, 20 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Gair i gadarnhau'n ddiysgog fod y ffordd rwyt ti wedi ymdrin a hyn ar ein rhan yn dreiddgar, clir a chadarn. Diolch gyfaill. Llywelyn2000 22:50, 20 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Chwilio am air[golygu cod]

Shwmae pîps, a oes ffordd o ddweud 'comeback' yn Gymraeg? Diolch :) Stifyn 12:21, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Stifyn, plîs gofio i greu adran newydd wrth ofyn cwestiwn. Awgrymaf hefyd bod Wicipedia:Cymorth iaith yw'r lle i ofyn y fath gwestiwn. Ond beth am "dychwelyd"? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:13, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Berf yw "dychwelyd" - ydych chi'n golygu "dychweliad"? Ond rwy'n meddwl bod "comeback" yn fwy na dychweliad, gan fod gyda fe syniadau o lwyddiant hefyd. "Dychweliad llwyddianus", efallai. Angen siaradwr rhugl! Sais Neis 17:51, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]
"Ailymddangosiad" mae Geiriadur yr Academi'n awgrymu, er y bydden i'n dweud fod hynny'n fwy o "reappearance". Ond pwy ydw i i ddadlau gyda Dr Bruce! Pwyll 18:05, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Ro'n i'n awgrymu iddo ddefnyddio'r gair fel berf :) "Dychwelodd e......" Pwyll, cer ar ei groes - mae'n hen bryd inni wneud felly! Haha! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:20, 26 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Sgileffaith? Adwaith? Pa gyd-destun, Stifyn? Llywelyn2000 04:31, 28 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Y cyd-destun o "Dychwelodd e ym 1998 gyda'i gân Cymru am Byth." Rhywbeth fel 'ny, haha. Siŵr o fod nid oes gair yn Gymraeg sy'n cyfleu'r un union ystyr â'r gair Saesneg . . . . -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 18:32, 28 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Haha! Roeddwn i meddwl am sbel, "Nid Stifyn mae Llyw yn ei olygu....." :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:17, 29 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Polisi Gwerseb Eithrio (Exemption Doctrine Policy)[golygu cod]

Dwi wedi agor pleidlais ffurfiol i fabwysiadu ein Polisi Gwerseb Eithrio (Exemption Doctrine Policy) drafft yn bolisi swyddogol ar y Wicipedia Cymraeg. Gobeithio fod hynny'n dderbyniol gan bawb. Credaf fod gwir angen hyn os ydym am gael delweddau Defnydd Teg. Bwriwch eich pleidleisiau yma, os gwelwch yn dda. Anatiomaros 21:38, 29 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Dim ond pedwar pleidlais a gafwyd hyd yn hyn. Gan fod y polisi yn ganolog i bolisi delweddau'r Wici buasai'n braf cael rhagor o bleidleisiau er mwyn gallu dangos i'r byd a'r betws - neu unrhyw ymwelydd chwilfrydig o Sefydliad Wicipedia! - y cafodd gefnogaeth eang a diamwys gan ein cymuned. Roeddwn i'n meddwl am gau'r pleidleisio fory neu ddydd Sul ond dwi'n meddwl ei bod yn well aros a chadw'r pleidleisio ar agor am wythnos arall. Anatiomaros 16:54, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Beat Jimmy[golygu cod]

Please translate this message.

The Fundraising Committee is issuing all interested community members a challenge: we want you to beat Jimmy. The appeal from Jimmy Wales and the corresponding banner have been tested head-to-head with other successful banners, and the results are clear: it's our best performing message... by a lot. This year we have a lofty fundraising goal; we need all of our banners to bring in donations like the Jimmy Appeal, but no one wants to keep the Jimmy banner up for two months. We want to run donor quotes, and other wonderful ideas, but we have to have banners that work as well as or better than the Jimmy appeal.

We've just released the highlights from a donor focus group, and the results of our donor survey. With one month to the launch of the fundraiser, the messages we test must be driven by data from our tests and surveys - we can no longer rely on instinct alone.

We've redesigned our fundraising meta pages with the Jimmy challenge; check out the survey results and propose/discuss banners that reflect these findings. Add the banners you think will 'beat Jimmy' here to be tested Tuesday October 12 against Jimmy. Keegan, WMF Fundraiser 2010 03:05, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

English wikipedia: Article moves[golygu cod]

I would be grateful if those who are involved with the English wikipedia could have a look at my post on Wikipedia:Welsh Wikipedians' notice board and comment on the recent article moves and removal of disambiguation hatnotes by User:Neelix. I think that he is wrong, especially since he didn't consult anyone about the moves, but others may disagree. It would be nice to open a debate. Deb 07:55, 10 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

I can't get the link to work.... Pwyll 08:21, 10 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Dyna'r ddolen at y sylwadau Deb: http://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Wikipedia:Welsh_Wikipedians%27_notice_board&diff=prev&oldid=389845132 --Ben Bore 08:49, 10 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
"Talysarn (Methodist minister)" yn lle 'John Jones (Talysarn)' myn yffach! Deb, I'm afraid the lunatics have taken over the asylum. It's one reason I gave up on the Anglopedia to concentrate on here and Commons. I've never seen a more idiotic and pointless move. Anatiomaros 17:12, 10 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Pen Talar ar Wikipedia Almaeneg[golygu cod]

'Rwy'n angen help, os gwelwch yn dda [3] they want to delete it! --RedDragonMachynlleth 16:48, 21 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Creu lleoliad pelen goch ar fap yn otomatig[golygu cod]

Oes posibl mewnforio map o Gymru (neu ran) efallai ar ffurf nodyn canolog, ac ychwanegu'r belen gron goch (hy lleoliad) drwy jest rhoi'r cyfeirnod OS? Neu a oes raid rhoi cyfeirnodau X ac Y boring, llafurus? Er enghraifft, pe gellid rhoi lleoliad y belen goch gyda chyfeirnodau OS, a hynny'n otomatig, yna gallem ychwanegu map i ddangos lleoliad y mwnt a beilis / cromlechi / henebion diweddar. Dw i ddim isio mynd lawr y ffordd BOTs, mae hynny'n golygu dyddiau o waith yn ei osod a pharatoi. Llywelyn2000 18:44, 22 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Mae'n rhaid bod ffordd i wneud hynny, ond dwi'n gwybod dim amdano. Beth am ofyn am gymorth technegol gan rywun clên ar yr Anglopedia (gan osgoi'r person fu yma rhai misoedd yn ôl!)? Anatiomaros 16:47, 14 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Cyfesurynnau X ac Y[golygu cod]

Yr henebion nesaf i'w hychwanegu gen i fydd crugiau crwn, a mi garwn ychwanegu'r cyfesurynnau X ac Y. Ym mha fformat? Dw i ar hyn o bryd yn ymchwilio i'r enwau Cymraeg (dros 300), gan mai uniaith Saesneg ydy bas data Cadw a mi fyddaf yn barod i greu templed dros y penwythnos, os byw ac iach. Llywelyn2000 07:23, 27 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

30,000 bron a'n cyrraedd![golygu cod]

Oes 'na rywun wedi roi gwybod i Golwg a'r Cymro ac S4C a Radio Cymru a'r lleill ein bod bron a chyrraedd carreg filltir bwysig?

Ai ti a sgwennodd hyn, Llywelyn? Does neb wedi cymryd camrau i'r cyfeiriad yna hyd y gwn i, ond mae'n bryd i ni ystyried hynny. Rhywle yma mae copi drafft o'r llythyr ar gyfer y 25,000. Basa'n arbed amser i ddefnyddio hwnnw gan ei ailwampio ychydig. Pwy sy'n mynd i wneud hyn? Gresyn nad oes gennym ni gyfeiriad ebost at ddefnydd swyddogol, ond dwi'n gweld y rhesymau dros beidio cael un hefyd. Unrhyw syniadau eraill am hyn? Ar lefel lleol, beth am i bob un ohonom ni fynd ati i sgwennu llythyr at eu papur bro hefyd? Gellid addasu'r prif lythyr. Anatiomaros 16:45, 14 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Cyrhaeddwyd y garreg filltir hon neithiwr; dw i'n meddwl mai Carnedd gron Esgair Irfon oedd y 30 milfed erthygl. Ymlaen rwan am yr 50 milfed! YMLAEN! Llywelyn2000 07:15, 13 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Nefoedd wen, Llywelyn, ara deg! Roeddwn i'n meddwl mai fi oedd y bot wici swyddogol :-)
Diolch am dy waith anhygoel ar yr henebion. Ia wir, ymlaen â ni at y 50,000! Anatiomaros 22:04, 13 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]

Llythyr apêl Jimmy Wales[golygu cod]

Nid yw llythyr apêl Jimmy Wales wedi cael ei gyfieithu i'r Gymraeg eto. Rwyf fi fy hunan yn ddigon hapus i ddarllen hwn yn y gwreiddiol Saesneg. Ond os oes yn well gan lawer ei weld yn Gymraeg, yna dyma'r dudalen lle y gellir ei gyfieithu. Fe hoffwn weld ochr dde y dudalen (y negeseuon am roi) yn Gymraeg ac rwyf wedi cysylltu gyda Wikimedia UK ynglŷn â hyn. Dwi ddim yn siwr a fydd hi'n bosib cael y dudalen nesaf (y dudalen i dalu gyda Paypal) yn Gymraeg oherwydd nid yw'r negeseuon hyn wedi cael eu gosod i gyd ar translatewiki.net i'w cyfieithu eto. Cawn weld. Lloffiwr 14:24, 14 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Diolch am dy waith diflino ar y cyfieithiadau hyn, Lloffiwr. Yn bersonol, fel ti, dwi'n ddigon bodlon ar ddarllen y llythyr yn Saesneg. Mae digon o bethau pwysicach sydd angen eu cyfieithu yn y tymor hir. Anatiomaros 16:26, 14 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Ein herthygl am Gymru[golygu cod]

Dw i wedi ceisio gwrthdroi fandaliaeth hiliol a wnaed bore 'ma ond ar yr erthygl am Gymru, dw i wedi ei wrthdroi e ddwywaith a dw i methu mynd yn ol i'r testun gwreiddiol. A oes rhywun yn gallu ei newid plis? Diolch. Pwyll 11:03, 24 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Na phoener - wedi llwyddo i'w wneud. Pwyll 11:06, 24 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Dwi dal yma, jest![golygu cod]

Dwi'n cael lot o helynt gyda'r cyfrifiadur yn ddiweddar, a dyna pam dwi ddim wedi cyfrannu ers wythnos bron. Arbenig o ddrwg ar lein - rhewi bob munud, crashio ayyb. Mae'r hen gyfrifiadur druan yn perthyn mewn amgueddfa erbyn hyn a bydd rhaid i mi gael un arall cyn bo hir. Os dwi'n diflannu'n ddirybudd am wythnos arall felly mi wyddoch be fydd yn digwydd (drap, a'r Dolig ar y gorwel hefyd, fel tasa 'na ddim digon i wario arno yn barod!). Anatiomaros 21:23, 29 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Deall i'r dim. Prysurdeb gwaith sy'n fy lladd i. Llywelyn2000 21:31, 29 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Prysurdeb y rhyngrwyd (a diffyg co' fy nhgyfrifiadur hynafol) sy'n mynd i ladd fy nghyfrifiadur i! Caf dair awr neu hanner awr cyn iddo ddechrau ar ei gastiau eto, does dim deud. Gobeithio bydd dy amgylchiadau yn caniatau mwy o amser yma cyn hir, Llywelyn. Anatiomaros 21:38, 29 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Diolch. Llywelyn2000 21:56, 29 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Preifatrwydd[golygu cod]

Oes rhywun yn gwybod pam nad yw'r dewis o fewngofnodi diogel, h.y. trwy url 'https' yn lle 'http', ar gael yma? Dwi wedi arfer mewngofnodi felly ar Gomin ers sbel rwan. Mae'n cadw'ch cyfrinair yn ddiogel rhag ofn i rywun maleisus ei ddwyn ac hefyd mae'n rhoi preifatrwydd arlein tra rydych ar y wefan achos does neb o'r tu allan yn medru dilyn eich symudiadau o dalen o dalen (os ydych chi'n golygu rhywbeth mae'r cofnod arferol ar gael ar Gomin, wrth gwrs). Hen bryd i ni gael o yma! Anatiomaros 00:15, 17 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]

Mae ar gael! Os edrychi di lan, rwyf wedi sôn am y peth o'r blaen. Cer i'r ddolen yma, ac mae modd yno fewngofnodi'n ddiogel. Ond os wyt ti am fynd yn ôl ac ymlaen rhwng cy ac Wici arall (fel fi), mae'n rhaid mewngofnodi eto i'r Wici arall. Ar y dudalen fewngofnodi i en, mae ar gael o dan y dewision, ond nid yw ar gael ar dudalen fewngofnodi cy....... -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 11:04, 17 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Diolch Glenn, rhaid mod i wedi anghofio am hynny. Dwi wedi llyfrnodi'r dudalen. Ond basai'n braf cael y dewis ar y dudalen mewngofnodi hefyd. Faint o bobl sy'n mynd i'w ddefnyddio heb iddo fod yno? Pam fod 'cy' yn eithriad? Hen bryd iddyn nhw wneud hyn yn weithredol ar draws Wikimedia i gyd hefyd - fel ti, dwi'n ymweld â wicis eraill yn aml a dwi'n methu gweld y pwynt o eithrio'r 'unified log-in' o'r dewis yma. Rhesymau technegol efallai? Mae 'na rywbeth od arall amdano hefyd. Gyda'r mewngofnodi arferol mae fy newis Firefox o gael y testun wedi'i chwyddo ar Wici Cymraeg yn gweithio ond dydy o ddim trwy https am ryw reswm (newydd trio ei ailosod rwan). Mae hynny'n wir am Gomin hefyd (sef ar https ond yn iawn gyda http) ond yn llai o broblem fan 'na am fy mod yn delio gyda delweddau gan amlaf, heblaw ar dudalennau sgwrs a'r Village Pump ayyb. Rhyfedd! Anatiomaros 17:02, 17 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]

Bas-data[golygu cod]

Yn eisiau: bas-data adar, anifeiliaid ayb gyda'r Gymraeg, Lladin, teuluoedd etc mewn colofnau taclus - neu unrhyw fas-data am bethau pob-dydd os yn bosibl. Mi rydan ni wedi neidio o'r 66ed safle i'r 65ed, gyda tua 30,180 erthygl. Mae'r Wici Marithi yn y 58ed safle gyda 31,934 erthygl; hy dim ond tua 700 o erthyglau sydd arnom eu hangen i gymeryd y safle hwnnw - a bod yn gymydog i'n chwaer iaith - y Llydaweg. Felly, dewch gyfeillion, mi wna i'r gwaith, dim ond i mi gael y bas-data gan gorff cydnabyddiedig, soled. Awydd helpu? "Gwlad fechan ydan ni, a dyna ein cryfder".Llywelyn2000 17:07, 22 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]

Syniad da. Mae gennym rhestr adar Cymru. Mae 'na sawl rhestr gyffelyb ar en ond maen nhw'n anhwylus i'w copïo am fod rhaid newid y drefn a/neu greu nodiadau newydd ayyb. Rhaid chwilio ar-lein i weld os oes rhywbeth hawdd i'w gopïo a'i addasu. Os ydym ynmynd i "greu er mwyn creu", beth am yr holl restrau o leoedd sydd ar en? Byddai rhestrau o offer a dodrefn yn wych hefyd: llinell a llun am rwan! Anatiomaros 21:23, 22 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
ON Gweler hefyd Categori:Rhestrau. Anatiomaros 21:25, 22 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
I fedru gwneud hyn yn sydyn, mae'n rhaid cadw at y canlynol: bas-data OpenOffice neu Excel ac yn ail rhestr glan, nad oes fawr ddim yn bodoli'n barod ar Wici. Mae colofn sydd heb ei gyfieithu'n golygu llawer o waith e.e. cyfieithu i'r Gymraeg un golofn o fas-data Cadw. Roedd hi hefyd yn llawer IAWN cynt creu erthyglau nad oedd gennym yn barod e.e. carneddi crynion nad ydy i geisio matsio'r caerau Rhufeinig. Pan ddywedi: yr holl restrau o leoedd sydd ar en, oes bas-data Excel o enwau lleoedd gyda'u henwau Cymraeg yn ogystal? Neu, o ddarganfod enwau adar, byddai angen manylion megis maint, lliw... Fel y dywedi, mae'n siwr fod swp ar y we, ond ym mhle? Llywelyn2000 22:06, 22 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Hollol - cael y rhestrau mewn fformat cyfleus ydy'r broblem a dyna pam fod llawer o restrau'r anglopedia'n anobeithiol. Wn i ddim a oes ffeiliau excel ar gael - rhaid bod rhywle! Anatiomaros 22:16, 22 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Mae gen i bellach enwau holl fynyddoedd a bryniau gwledydd Prydain ynghyd a manylion pwysig megis OS y copa, uchder mewn metrau a throedfeddi. Mae mynyddoedd Cymru (bron) i gyd gennym ni yn barod, dw i'n siwr. Fydde cychwyn gyda rhai o fynyddoedd yr Alban yn syniad? Mae na goblyn o waith cyfieithu enwau, ond mae llawer o'r Alban yn yr iaith wreiddiol. Mae tua pum mil a hanner ar y bas-data. Llywelyn2000 06:02, 24 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Syniad gwych. Bydd lluniau ar gael i lawer ohonyn nhw ar Gomin erbyn hyn. Mae 'na sawl rhestr o'r fath ar anglopedia hefyd (gweler eu categoriau fel 'Corbetts'). Am yr Alban, mae gennym ni restr o'r "Munros" yn barod (gweler: Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros)). Ynglŷn â chyfieithu, rhaid bod yn ofalus i beidio mynd rhy bell; h.y. mae cyfieithu elfennau fel 'hill', 'ridge' a 'mountain' ac ati yn iawn efallai ond ni ddylem gyfieithu'r enwau eu hunain hyd yn oed os ydy'r ystyr yn amlwg. Rhaid parchu enwau brodorol, yn cynnwys rhai Saesneg, neu mi fydd yn rhwydd hynt i'r anglopedia gael "Llewelyn's Cairn" yn lle Carnedd Llywelyn. Anatiomaros 18:02, 24 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Ia, ro'n i'n ymwybodol o'r ddolen i Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros); mae'r mapiau'n wych iawn. Ysywaeth tydy'r basdata dw i wedi ei ganfod yma ddim wedi'i drefnu fel y mapiau. Mae'n bosibl eu hail drefnu, wrth gwrs, ond cofia mai torent o erthyglau rydan ni'n ceisio'i wneud yma.Cofia 2: mae unrhyw waith ychwanegol ee mewnforio llun yn arafu'r broses. Yn ddelfrydol byddai tim ohonom yn gwneud y gwaith yn llawer iawn haws. Mi fedrwn i ddanfon erthyglau gorffenedig ar ffeil Word i'w copio / pastio; dyna'r cwbwl sydd angen ei wneud. Y gwaith caled ydy cyfieithu unrhyw beth sydd wirioneddol ei angen. Be dw i'n ei wneud ar hyn o bryd ydy tacluso'r Nodyn:Mynydd tila sydd gennym ar hyn o bryd. Gwyliau fory! Yna awe! Llywelyn2000 18:23, 24 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Doeddwn i ddim yn awgrymu ychwanegu'r baich o gael lluniau arnat ti - rwyt ti'n gwneud digon yn barod! Dwi'n barod i wneud hynny fy hun, fesul dipyn. Ynglŷn â'r drefn: does dim cymaint o ots am hynny yn y rhestr, mae'n debyg, ond bydd rhaid wrth categoriau sirol neu mi fydd categori:Mynyddoedd a bryniau'r Alban yn rhy anferth i fod o ddefnydd i neb. Rhywbeth i'w wneud wrth gael yr erthyglau ydy hynny - fel ti'n deud, mae'r Dolig arnom felly dwi ddim ar frys i gychwyn ar hynny heno. Yn y cyfamser mae cinio'n galw, felly Dolig Llawen i ti, gyfaill! Anatiomaros 18:30, 24 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]

Blwch Nodyn:Mynydd[golygu cod]

Nodyn:Mynydd wedi'i gwbwlhau. Mae hyn, ysywaeth, yn golygu fod llwer o fynyddoedd Cymru'n edrych yn fler iawn - eu Nodynau nhw, felly!!! Efallai, felly, mai gwell fyddai cychwyn wrth ein traed - Cymru. Yna i'r Alban. Rwyt ti'n gywir ym maintioli / neu'r swmp o (ddarpar) erthyglau, gan mai rhestr o'r copaon ydynt. Mi fyddan nhw, oherwydd y Nodynau, yn cynnwys cryn dipyn o wybodaeth, ac yn fwy na dim ond brawddeg neu ddwy. felly, i grynhoi, mi geisia i ddechrau gyda Nodynau Cymru ar y mynyddoedd sydd gennym yn barod, ac ambell gopa na sydd gennym. Yna, tua'r Alban! Diolch am gynnig helpu. Dw i'n gobeithio y gwneith un neu ddau arall hefyd ychwanegu gwybodaeth ayb wrth fynd ymlaen. Mae na ddigon o waith yma am dri mis! Llywelyn2000 17:45, 27 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]

Dyna'r anhawster mawr gyda gwybodlenni - rhaid newid pob enghraifft. Dyna pam dwi ddim yn newid nhw'n aml! Dwi ddim yn meddwl fod llawer o fryniau Cymru heb erthyglau ond mae hynny'n dibynnu ar eich diffiniad, mae'n debyg. Cofia, cyn i ti gychwyn ar rai'r Alban, rho amser i mi gael y categoriau'n iawn a chymra ofal i wneud yn siwr fod dim categoriau coch neu mi fydd yn oriau o waith diflas i'w cywiro nhw! Hwyl i ti am rwan gyfaill. Gad i mi wybod os wyt ti angen cymorth. Anatiomaros 18:05, 27 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Problem arall yw fod llinellau megis "Cyfesurynnau OS" a "Dosbarthiad" yn awr yn ymddangos yn y bocs ar gyfer mynyddoedd mewn gwledydd lle nad yw'r rhain yn berthnasol, e.e. Annapurna. Porius1 07:45, 30 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Hyd y gwelaf i, yr unig ateb ydy adfer y nodyn gwreiddiol fel yr un "default" a rhoi'r fersiwn newydd mewn nodyn newydd ar gyfer mynyddoedd gwledydd Prydain ac Iwerddon: 'Nodyn:Mynydd (Prydain ac Iwerddon)' efallai gyda 'Nodyn:Mynydd (PI)' neu rywbeth tebyg yn ailgyfeiriad iddo? Bydd yn dipyn o waith gosod y nodyn newydd yn yr erthyglau sydd yma'n barod (Cymru yn bennaf), ond gwell sortio hynny allan rwan cyn dechrau creu'r llu erthyglau a addawir neu mi fydd yn dasg anferth. Anatiomaros 21:20, 30 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]

Mae problem gyda ein nodyn:mynydd; yn wahanol i'r un Saesneg mae unrhyw linellau NAD ydym yn eu cwbwlhau i'w gweld gyda'r sgwigls hyll yn bresenol. Mae'r gwrthwyneb hefyd yn wir, os nad yw llinell o'r nodyn:mynydd yn cael ei gynnwys, (e.e. Cyferusynnau OS yn erthygl Annapurna, mae'r nodyn:mynydd yn dal i ddangos y sgwigls. Mae na linell (rhywle) yn y Nodyn Saesneg sy'n peidio a'u dangos. Gweler yma.
Yr un ydy mynydd, ble bynnag y bo, ac mae cael nodyn eitha defnyddiol a llawn yn beth da. Yr unig broblem ydy pan fo rhai llinellau'n cael eu gadael allan / heb eu llenwi. Mae'r nodyn presenol ganmil gwell na'r hen un; mater o ganfod y 'botwm' cywir i droi llinellau gweigion i ffwrdd ydy o dwi'n meddwl. Gyda l;law, nid un nodyn sy'n caniatau hyn yn Wiki eithr oddeutu 40 nodyn cymhleth: un o fewn y llall. Mae gen i ffydd yn Glenn... Os methwn, yna peth hawdda'n y byd ydy troi'n ol i'r hen nodyn (salach).Llywelyn2000 06:53, 31 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]

Ateb arall, cyflym ydy caniatau dau nodyn: 1 hen erthyglau a 2 erthyglau newydd ond y cwbwl mae hyn yn ei wneud ydy gohirio'r broblem. Llywelyn2000 07:27, 31 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Oni fyddai'n well dychwelyd i'r hen focs nes bod y problemau yma wedi eu datrys? Mae cael cyfeiriadau at "OS" mewn erthyglau ar fynyddoedd yr Himalaya yn waeth na blêr; mae'n rhoi argraff blwyfol, Brydeinllyd. Porius1 08:20, 31 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Cwbwlhawyd. Gohiriwyd y broblem! Llywelyn2000 09:08, 31 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Ni fyddai'r broblem hon wedi'i chodi pe gludom at y fersiwn Saesneg. Mae unrhyw beth y mynnem ni (neu allu meddwl amdani) ar gael yn barod ac am oes ar en. Mae problemau'n codi pan fo cyfranwyr yn mynd ati i greu nodiadau eu hunain. Ie, rwyf yn ymwybodol bod angen y nodiadau arnom, ond cyn bwrw ati, gwiriwch en! ydy fy awgrym i. Byddwn i wedi awgrymu inni fwrw ati i newid bob erthygl sydd gennym i gyd-fynd â'r paramedrau newydd a gafwyd yn y nodyn, ond gan weld ein bod ni wedi'i droi'n ôl, awgrymaf inni gychwyn eto o'r ffres, gan gyfieithu'r nodyn Saesneg, fel yr wyf yn tueddu i'w wneud bob tro bo angen nodyn newydd araf i..... -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:26, 31 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno'n llwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith wedi'i wneud, cofia, a llawer o isnodynau. Hei - Blwyddyn Wych i Ti, o ran iechyd, gwaith, arian, rhyw, Wici a phopeth arall - os oes rhywbetha r ol!! Llywelyn2000 16:33, 31 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Diolch. Ac i tithau. Rwy wedi dechrau cyfieithu'r nodyn en. Os yw unrhyw un am fynd ati i gyfieithu'r gweddill, mae ar gael yma (hyd at "ffrwydrad_diwethaf", tri chwater ffordd lawr). Cyn ichi wneud, felly, gwiriwch yma am yr iaith a ddefnyddiais. Os ydych chi am newid yr iaith, newidiwch yr iaith ar /main yn gyntaf, ac wedyn ar y nodyn ei hun. Diolch. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:17, 31 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Gwelwch fy sylwadau ar hyn yma. Ydy'r Nodyn yn gweithio? Llywelyn2000 04:52, 9 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]

ak:Wikipedia:Community Portal

Hysbyseb ganolog arall ar y gweill gan Sefydliad Wikimedia[golygu cod]

Mae hysbyseb ganolog arall ynglŷn â dathlu dengmlwyddiant Wicipedia ar fin gael ei gosod yma. Rwyf wedi cyfieithu'r baneri ar meta. Allith rhywun olygu'r cyfieithiadau, ac yna clicio ar y cyswllt +/- yn y blwch statws ar y dde, a newid y statws i 'ready' ar gyfer Cymraeg? Lloffiwr 19:32, 8 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]

Pa hwyl? Dw i wedi ei wiro - cywir! a nodi'i fod wedi'i gyhoeddi. Gobeithio fod hyn yn iawn. Llywelyn2000 07:11, 12 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]
Diolch - yr hysbyseb wedi ymddangos fel y gweli. Lloffiwr 09:20, 13 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]

Transactions of the Anglesey Antiquarian Society / Archaeologia Cambrensis[golygu cod]

Dwi'n chwilio am pethau o hen siwrnalau, achos dwi'n trio sgwennu am yr hen eglwysi (beth ydy "listed building" yn Cymraeg?!) yn Ynys Mon. Dwi wedi sgwennu e.e. en:St Cristiolus's Church, Llangristiolus (dysgwr Cymraeg ydwi, felly dwi ddim gallu sgwennu lots yn Wicipedia ar y funud). Dyma fy nghais. Os na rhywun sy'n medru helpu fi? Diolch o galon! Bencherlite 02:44, 11 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]

Mae gan y llyfrgell yn Llangefni set gyflawn o'r TAAS. Hyd y gwn i, nid ydynt ar gael mewn ffurf electronig, ond rwy'n siwr y buasent yn barod i wneud llungopiau o'r ethyglau yma. Porius1 07:24, 11 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]
Diolch. Bencherlite 10:52, 11 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]

Peirats[golygu cod]

Gweler Sgwrs:Slim Amamou. Unrhyw awgrymiadau? Anatiomaros 20:31, 18 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]

Prosiect Mynyddoedd a bryniau'r Alban[golygu cod]

Gweler Sgwrs:Lochnagar - Cac Carn Beag. Os oes gennych chi ddiddordeb basai'n braf cael eich sylwadau gan fod hyn - prosiect arbennig arall gan Lywelyn, a diolch iddo am hynny - yn golygu rhai miloedd o erthyglau ac mae angen cael popeth posibl yn iawn cyn dechrau arni. Diolch. Anatiomaros 17:50, 19 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]

Gorffennwyd pob copa yn yr Alban dros 2,000 troedfedd. Llywelyn2000 02:59, 6 Medi 2011 (UTC)[ateb]

Hacio'r Iaith 2011: Aberystwyth 29.1.11[golygu cod]

Sori bod fi bach yn hwyr gyda hyn, ond hyrwyddais y digwyddiad yma ar gyfrif Twitter Wicipedia, a dyma'r trefynydd, Rhodri ap Dyfrig yn ymateb gyda:

@wicipedia fasa hi'n hollol wych cael sesiwn Wicipedia Cymraeg - allwch chi hyrwyddo i'r gweinyddwyr plis?

Ro'n i fod i wneud cyflwyniad am Wicipedia yn Haciaith 2010 ond roeddwn yn brysur yn helpu gyda'r trefnu, a dw i ddim yn gallu mynd eleni yn anffodus. Os oes diddordeb gan rhywun arall, ewch amdani. --Ben Bore 14:42, 21 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]

Sut mae cynnwys y Wicipedia'n cael ei ail-ddefnyddio - enghraiff 100 Lle[golygu cod]

Falle bod hyn yn syniad am adran arbennig ar y wefan yma'n rhywle, ond meddwl baswn i'n tynnu eich sylw at http://www.100lle.net/ sef 'stwnsh' (mash-up) ar Googlemaps sy'n nodi'r llefydd sy'n ymddangos ar raglen 100 Lle ar S4C ac sy'n defnyddio erthyglau o'r Wicipedia Cymraeg. Mond pwyntiau o'r rhaglen cyntaf sydd wedi eu hychwnegu hyd yma, i gyd yn Sir Fón. Braf yw sylwi mor mor sylweddol ydy'r holl erthyglau a bod delweddau ar bob un. Rhys Llwyd (sy'n gyfranw'r achlysurol yma) sy'n gyfrifol, ac mae croso i chi gyfranu ar y stwnsh, ond i chi gysylltu a fo am ganiatad golygu. Joiwch. --Ben Bore 14:56, 21 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]

Hysbyseb ganolog arall eto ar y gweill gan Sefydliad Wikimedia[golygu cod]

Hysbyseb ganolog arall eto ar y gweill ar meta. All rywun ei ddarllen, ei wella os os eisiau, yna newid y statws o 'proofreading' i 'ready'? Lloffiwr 10:59, 13 Chwefror 2011 (UTC)[ateb]

Diolch i bwy bynnag wnaeth y gwaith. Lloffiwr 16:38, 13 Chwefror 2011 (UTC)[ateb]
Dim problem! (Anghofies i fewngofnodi cyn gwneud y newid!) Pwyll 16:48, 13 Chwefror 2011 (UTC)[ateb]

Lluniau'r Cynulliad ar Flickr[golygu cod]

Dw i ddim yn siwr os oes unrhyw un wedi dweud hyn eisoes ond mae'n debyg fod y Cynulliad wedi rhyddhau eu holl luniau o dan drwydded Creative Commons. Dyma'r ddolen fan hyn [4]. Pwyll 09:29, 20 Chwefror 2011 (UTC)[ateb]

Whaw! 107 o dudalennau'n llawn lluniau. Byddai'n wych pe taen nhw'n gorchymyn i Cadw a'r Amgueddfeydd wneud yr un peth! Llywelyn2000 04:34, 22 Chwefror 2011 (UTC)[ateb]