Wicipedia:Wici Cymru/Llwybrau Byw

Oddi ar Wicipedia

Prosiect gan Wici Cymru i ddatblygu Wicipedia yng Nghymru ydy Llwybrau Byw!, prosiect 12 mis a fydd yn canolbwyntio ar hyfforddi golygyddion newydd ar hyd y siroedd sy'n ffinio â Llwybr yr Arfordir. Llwybr yr Arfordir.

Crynodeb[golygu cod]

Mae'r prosiect yn rhoi grym yn nwylo cymunedau a busnesau lleol i nodi hanesion a ffeithiau diddorol am eu cymunedau. Gwneir hyn drwy hyfforddi gwe-awduro a golygu syml y teulu Wici, a hynny yn y siroedd sydd ar yr arfordir, gyda Llwybr yr Arfordir yn nadreddu drwyddynt. Byddwn yn annog datblygu erthyglau am Lwybr yr Arfordir a'i chymunedau fel a wnaethpwyd gyda'r prosiect Pedia Trefynwy, ond ar radfa lawer mwy.

Melin galch ger Sarn Gynfelyn: rhwng Aberystwyth a Chors Fochno.

Hyderwyn y bydd erthyglau newydd yn cael eu defnyddio gan drydydd parti; mae gwell cynnwys lleol yn golygu y bydd busnesau'n medru cyflwyno tair congl-faen marchnata dros y we: Cymuned, Cynnwys a Masnach – yn fwy effeithiol yn y farchnad ddigidol newydd. Byddant hefyd yn medru ymestyn allan i farchnadoedd arbenigol.

Bydd y Prosiect yn cynhyrchu canllawiau ar sut i olygu erthyglau Wicipedia. Bydd cyflenwyr lletai a mannau aros eraill o fewn pum milltir i Lwybr yr Arfordir yn medru manteisio ar arbenigedd y teulu Wici o fewn eu gwefanau hwy eu hunain. Bydd dwy fersiwn o'r canllaw: y naill yn syml a'r llall yn ymestynol a byddwn yn darparu gwasanaeth "llinell gymorth" i hyfforddi drwy Skype - yn Saesneg a Chymraeg.

Wicipedwyr yn Eisteddfod 2012

Y broblem[golygu cod]

Mae diffyg gwybodaeth enbyd ar The Greatest Region on Earth: the Wales Coast Path (Lonely Planet, 2012). Mae taithlyfrau a mapiau confensiynol yn bodoli, wrth gwrs, ond yn annigonol, ac ar gael yn unig mewn llond dwrn o ieithoedd. Mae nhw hefyd yn drwm ac ar adegau, i'r cerddwr, y seiclwr a'r dringwr, yn niwsans. Mae Wicipedia, fodd bynnag, ar gael ar y ffôn ac mewn dros 280 o ieithoedd! Byddai ein trigolion lleol a'n hymwelwyr yn manteisio ar well gwybodaeth a dull symlach o ddarganfod y wybodaeth. Mae darganfod gwybodaeth leol, hyd yn oed i'r gymuned leol ei hunan, yn aml yn anodd iawn e.e. adeiladau hynafol, teithiau lleol, nodweddion daearyddol a mannau o ddiddordeb eraill. Er bod nifer o gyhoeddiadau lleol ar gael mae nhw'n ddrud i'w rhannu ac mae rhoi'r wybodaeth hon ar-lein yn anodd i'r rhan fwyaf o drigolion lleol. Mae'r Prosiect hwn yn ateb y broblem yma, drwy ddysgu sgiliau syml – sut i olygu Wicipedia - a gaiff ei gydnabod fel y dull hawddaf o sgwennu a golygu ar y we.

Wicipedia a hacio'r Iaith yn Eisteddfod 2012; gweithdy ar greu aps.

Gwybodaeth leol[golygu cod]

Y bobl leol yw'r arbenigwyr yn eu hardal leol! Gwyddant yn berffaith am y llefydd diddorol i'w gweld a'u cerdded, mannau parcio a phicnic a diogelwch. Ganddyn nhw, hefyd, mae'r storiau a'r chwedlau i ddod a hanes lleol yn fyw a dadorchuddio'r perlau lleol fel y gellid eu marchnata i bobl Cymru a thu hwnt. Dyma yw twristiaeth gwyrdd: addysgu'r ymwelwyr yn hanes ein cenedl. Mae busneseuon lleol, hefyd, yn awchu am gynnwys diddorol a chyfoethog am eu hardal i'w gynnwys yn rhan o'u gwefannau.

Hanfod gwyddoniadur fel Wicipedia yw rhoi gwybodaeth o ffynhonnell leol a chenedlaethol mewn modd di-duedd, ffeithiol. Er na all Wicipedia hyrwyddo cymdeithasau a busnesau na'u nwyddau'n uniongyrchol mae Wicipedia'n caniatau i fusnesau ddefnyddio'u cynnwys, a hynny heb dorri côd y feddalwedd nac unrhyw bolisi na thrwydded hawlfraint.

Logo Llwybr yr Arfordir

I gloi[golygu cod]

Mae defnyddwyr y Llwybr yn awchu am ddata a gwybodaeth leol, ffeithiol gywir - heb unrhyw gamau gwag. Ar hyn o bryd mae'r wybodaeth yn anghyflawn: mapiau, teithlyfrau ac arwyddion yn bennaf. Daeth 8m o Gymru a 890,000 o ymwelwyr rhyngwladol i Gymru ar wyliau yn 2011; mae tua 1m o bobl yn byw o fewn i 5 km o Lwybr yr Arfordir. Mae ganddyn nhw anghenion amrywiol iawn a gellir edrych ar y rhain fel sialensau o ran gwyddoniaduraeth a marchnata sydd raid eu gwynebu.

Datganodd Llywodraeth Cymru'n ddiweddar: "bydd rhai rhannau o'r Llwybr yn addas ar gyfer pobl gydag anabledd, teuluoedd a phramiau / bygis, pobl ar geffylau a seiclwyr." Bydd y Prosiect yn ateb yr amrywiaeth eang hwn yn ogystal a chreu themau megis cestyll, niferoedd y siaradwyr Cymraeg ym mhob Cymuned, gwarchodfeydd natur yr RSPB, traethau Baner Las, gwyliau a digwyddiadau, bwyta'n iach a nwyddau organig er mwyn cefnogi economi dwristaidd, leol. Bwriedir hefyd ddatblygu Wicidaith i gyfarfod yr anghenion lleol.

Cysylltu[golygu cod]

Penodwyd Rheolwr i arwain y prosiect Llwybrau Byw; ei enw yw Robin Owain a bydd yn cychwyn ar y gwaith yn ystod y dyddiau nesaf. Bydd angen nifer o hyfforddwyr atodol i fwrw mlaen a'r gwaith, ac felly os oes gennych ddiddordeb, gadewch iddo wybod drwy ebost wici Llywelyn2000 (Defnyddiwr:Robin Owain (WMUK)). Bydd y nawdd gan Lywodraeth Cymru yn talu eich cyflog (£165 y dydd) a'ch costau teithio ac aros.