Wicipedia:Wici Cymru/Hysbyseb Swydd Cydlynydd Hyfforddi (Cymru)
Mae Wici Cymru a Wikimedia UK yn chwilio am Gydlynydd Hyfforddiant yng Nghymru i ddatblygu Wicipedia Cymraeg a'r Wikipedia Saesneg yng Nghymru drwy ysbrydoli a hyfforddi golygyddion newydd fel rhan o'n prosiect Llwybrau Byw!
Dylai'r Cydlynydd fod a phrofiad o olygu prosiectau Wikimedia (yn Gymraeg a Saesneg) a chefnogi gwirfoddolwyr ac hyfforddi ar lefel proffesiynol. Bydd y gwaith yn ymwneud â threfnu hyfforddiant yn ogystal a hyfforddi darpar olygyddion ledled Cymru. Mae'r gallu i siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl yn hanfodol.
Mae'r swydd am gyfnod o chwe mis a bydd yr ymgeisydd llwydiannus yn cael ei secondio i Wici Cymru a fydd yn goruchwylio'r gwaith, ar y cyd gyda Wikimedia UK, y coflogwr, a Llywodraeth Cymru fel partner ariannol yn y Prosiect.
Mae'r swydd yn amodol i dderbyn cytundebau a chanllawiau Wikimedia UK.
Ceir rhagor o fanylion ynghyd â Ffurflen Gais ar gael oddi wrth: Jon Davies, Prif Weithredwr WMUK - jon.davies@wikimedia.org.uk ac ar www.wikimedia.org.uk
Dyddiad cau: 22nd Ionawr 2014 am 10 a.m.
Cynhelir y cyfweliadau yn Wrecsam ar yr 28ain o Ionawr ac mae'n ofynol i'r ymgeiswyr fod ar gael ar y diwrnod hwn.
Croesawir bob cais. Ni ellir derbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad cau.